Llwybr Arfordir Sir Benfro

Ymdroella Llwybr Arfordir Sir Benfro drwy 186 o filltiroedd (300km) o’r golygfeydd arfordirol mwyaf godidog ym Mhrydain. O Landudoch yn y gogledd i Amroth yn y de, mae’r llwybr yn rhychwantu bron pob math o dirwedd arforol; clogwyni geirwon a childraethau cysgodol, traethau helaeth, aberoedd troellog, porthladdoedd hynafol a phentrefi pysgota. Mae’n cymryd rhyw bythefnos i gerdded yr holl beth – ond mae’n hawdd ei rannu’n ddarnau byrion, gan ddefnyddio’r gwasanaeth bws lleol ardderchog.

Llun o draeth Dinbych-y-pysgod ac adeiladau o'r môr
Llun o Gaer Ynys Catrin ar ben Ynys Catrin

Dinbych-y-pysgod

Uchafbwyntiau Llwybr Arfordir Sir Benfro

Mae gan y darn gogleddol ddwy nodwedd hynod o ddiddorol: yr ogof fôr enfawr o’r enw Pwll y Wrach sydd wedi cwympo, a’r Shinc, sef hen chwarel lechi a lenwyd yn bert gan y môr.

Ewch i’r mewndir o harbwr Rhufeinig Porth Clais a chyn hir cyrhaeddwch ddinas gadeirlan fechan Tyddewi. Ym mhen arall Bae Sain Ffraid, mae ynysoedd Sgomer a Sgogwm yn baradwys bywyd gwyllt.

Ar ystâd Ystangbwll ceir pyllau lili hyfryd a thraeth ofnadwy o brydferth Barafundle, a Dinbych-y-pysgod yw un o drefi gwyliau mwyaf trwsiadus Cymru.

Edrych i lawr ar y môr o Ynys Sgomer
Llun o ffotograffydd yn cario camera mawr dros ei ysgwydd ar Ynys Sgomer
Pobl yn eistedd ar graig yn edrych allan dros y môr

Ynys Sgomer

Clawdd Offa

Brenin Mercia yn yr 8fed ganrif adeiladodd y gwrthglawdd cadarn hwn i gadw’r Cymry allan, a hyd heddiw mae’n fras farcio’r ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhedeg rhwng dau arfordir am 177 o filltiroedd (285km) drwy’r ffindiroedd hardd, sef tirwedd newidiol o gadwyni mynydd a dyffrynnoedd diarffordd, a rhai trefi marchnad gwasgaredig braf iawn. Canolfan Clawdd Offa yw’r pwynt hanner ffordd yn Nhrefyclo; caiff ei gweithredu gan Gymdeithas Clawdd Offa, sy’n ffynhonnell wych o wybodaeth ac ysbrydoliaeth.

Uchafbwyntiau Clawdd Offa

O’r de, mae’r llwybr yn dechrau ar ochr Lloegr o Afon Gwy, ond mae’n werth picio ar draws yr afon i ymweld â Chastell Cas-gwent ac adfeilion trawiadol Abaty Tyndyrn.

Mae'r llwybr yn dringo i’w fan uchaf ar hyd crib Hatterall, sy’n mynd ar hyd cadwyn y Mynyddoedd Du ym Mannau Brycheiniog, gyda Phriordy Llanddewi Nant Hodni islaw, a thref lyfrau'r Gelli Gandryll o’i flaen.

Caiff cwrw swyddogol Llwybr Clawdd Offa ei fragu yn Nhrefaldwyn gan Monty's, felly trueni fyddai peidio â galw heibio am beint. Mae’n werth gwyro oddi ar y ffordd i ymweld â dau blasty ysblennydd, sef Castell Powys a Chastell y Waun, cyn mynd i dref ddel Llangollen.

Moel Famau yw’r man uchaf ym Mryniau Clwyd, lle gallwch ddilyn cadwyn o gopaon a bryngaerau Oes Efydd cyn disgyn i orffen ym Mhrestatyn.

Adeilad gwyn ar lan yr afon, gyda bryniau yn y cefndir
Llun tirwedd o blanhigion yn y tu blaen a phont dros afon yn y cefndir

Cas-gwent, Sir Fynwy

Llwybr Glyndŵr

Owain Glyndŵr oedd y Cymro brodorol olaf i ddal teitl Tywysog Cymru, gan arwain gwrthryfel mawr yn erbyn y Saeson tua dechrau’r 1400au. Mae’r 135 o filltiroedd (217km) o Lwybr Glyndŵr yn dilyn yn ôl ei draed ar ddolen o Drefyclo i’r Trallwng, drwy ffermdir bryniog a gweundir agored, heibio i lynnoedd a choedwigoedd, drwy un o’r rhannau prinnaf ei phoblogaeth o Brydain. Y man hanner ffordd yw Machynlleth, lle cynhaliodd Glyndŵr ei senedd gyntaf ym 1404.

Arwydd Llwybr Glyndŵr gyda Llyn Clywedog a bryniau yn y cefndir
Coed a llyn yn y cefndir
Llun o'r bryn yn edrych i lawr ar Lyn Clywedog

Llwybr Glyndŵr, Llyn Efyrnwy a Llyn Clywedog

Uchafbwyntiau Llwybr Glyndŵr

Mae’r gweundir i’r gogledd-orllewin o Drefyclo yn flas ar yr hyn sydd i ddod: ar wahân i’r bywyd gwyllt, y da byw ac ambell ffermwr, nid ydych yn debygol iawn o weld llawer o neb. Cadwch lygad am olion Abaty Cwm Hir: hwn oedd y mwyaf yng Nghymru ar un adeg.

Mae’r darn o Lanidloes yn mynd heibio i Lyn Clywedog i fyny i’r man uchaf ar y llwybr, Foel Fadian, sydd â golygfeydd ysblennydd i lawr i Fachynlleth a’r môr y tu hwnt. Mae’n werth cael diwrnod o seibiant ym Machynlleth – mae yno lawer o dafarndai a bwytai da, ac yr atyniad oriel gelf MOMA. Arweinia’r llwybr drwy Goedwig Dyfnant i lannau Llyn Efyrnwy cyn dilyn Afon Efyrnwy i lawr tuag at y Trallwng, lle gallwch orffen gyda thaith i Gastell Powys.

Llwybr Arfordir Cymru

Yn 2012, Cymru greodd y llwybr di-dor cyntaf y byd ar hyd morlin cenedlaethol. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnwys yr holl ddarnau enwog ar hyd ei 870 o filltiroedd (1,400km): Penrhyn Gŵyr, Sir Benfro, Arfordir Cambria, Pen Llŷn. Ceir traethau, aberoedd, clogwyni a choetiroedd dirifedi. Glannau dŵr dinesig, cestyll ac ambell safle diwydiannol ymhlith y gwarchodfeydd natur ond mae hynny’n rhan o Gymru, yn rhan o’r darganfod.

Llun o bobl ar lwybr cerdded yn edrych tuag at y môr

Aberdaron, Penrhyn Llŷn

Uchafbwyntiau Llwybr Arfordir Cymru

Ydyn ni'n cael dweud ‘y cyfan’? Mae'n teimlo'n annheg dewis uchafbwyntiau arfordirol. Ond nid peth teg mo bywyd, felly… Conwy am y castell, Ynys Llanddwyn am ramant, Porthdinllaen am beint, Portmeirion i fynd ac archwilio, Aberystwyth am ddiwylliant, Cei Newydd am ddolffiniaid, Trefdraeth am fwyd, Ynys Sgomer am fywyd gwyllt, Dinbych-y-pysgod am gestyll tywod, Bae’r Tri Chlogwyn i fynd am dro, Ynys y Barri am sglodion … ac fe allwch chi ddewis cant arall, am gant o wahanol resymau.

Cwpwl yn cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gyda'r môr ar yr ochr dde

Porthor, Aberdaron, Penrhyn Llŷn

Straeon cysylltiedig