I ddechrau, mae’r llwybr yn dilyn trywydd y ffin rhwng Cymru a Lloegr heibio rhywfaint o’n cefn gwlad fwyaf prydferth. Yna mae’n llifo yn ddyfnach tuag at Canolbarth Cymru. Fe welwch lawer o drefi diddorol, gwerth chweil ar lannau’r afon, fel Cas-gwent, Trefynwy, Y Gelli Gandryll, Llanfair-ym-Muallt a Rhaeadr Gwy. Fe wnewch chi hefyd ganfod tawelwch ar hyd ail afon fwyaf Cymru. Mae ysbryd ein gwlad yn y dŵr.

Diwrnod 1

Pontydd yng Nghas-gwent a cherdded wrth lan y dŵr yn Tyndyrn a Llaneuddogwy

Bore

Dechreuwch wrth Hen Bont Gwy, neu Bont y Dref fel y mae’n cael ei hadnabod yn lleol, yng Nghas-gwent. Mae’r bont, a godwyd ym 1816, yn bum bwa prydferth o haearn bwrw wedi’u siapio'n firain. Dyma’r bont fwyaf o’i math yn y byd sy’n croesi un o ddarnau afon fwyaf llanwol y byd, sy’n ymestyn draw i Swydd Gaerloyw. Ewch i’r canol a sylwch ar y pwynt pan fydd y patrwm yn dweud wrthych eich bod ar fin dod i mewn i Loegr.

Yna teithiwch i fyny’r afon. Stopiwch yng ngolygfan Eagles Nest ger St Arvan i gael golygfa anghredadwy o’r afon droellog. Mae dau lwybr yn eich tywys chi yno, un yn cynnwys 365 o stepiau anodd, un yn ddringfa ysgafnach: mae gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Dyffryn Gwy yn rhoi cyfarwyddiadau clir i chi. Os ydych chi’n teimlo’n fwy diog, ewch i Tyndyrn, gyda’i Abaty trawiadol, canolfan grefftau Green Man Studio a’i dafarndai wrth ochr yr afon, sy’n gwneud awr ginio neu ddwy fach hyfryd. Mae Caffi Ystafell De’r Hen Orsaf yn fan hyfryd i ymweld o Ebrill i Hydref os oes gennych blant, gyda maes chwarae gwych ar eu cyfer. Mae deg erw o goetir fan hyn wrth ochr y dŵr.

Prynhawn

Ar ôl cinio, mwynhewch gerdded yn Nhyndyrn, neu ewch ddwy filltir tua’r gogledd i Laneuddogwy, sef pentref sy’n cael ei adnabod yn well fel lleoliad cyfres Netflix Gillian Anderson, Sex Education. Mae’r Cleddon Shoots (sy’n cael eu hadnabod hefyd fel Rhaeadrau Cleddon) sy’n rhedeg i mewn i’r afon yn hyfryd dros ben, yn enwedig ar ôl tywydd gwlyb. Dewch â chot law gyda chi – mae’n werth gwneud am y golygfeydd hyn).

Gyda'r Nos

Erbyn hynny, byddwch yn haeddu peint bach. Beth am drio’r Sloop Inn hen ffasiwn yn Llaneuddogwy sy’n hen felin ddŵr neu os hoffech fynd ymhellach i fyny’r afon, rhowch gynnig ar y Boat Inn prydferth ym Mhenallt, sy’n edrych dros hen bont reilffordd dros yr Afon Gwy. 

An image of Tintern Abbey from the banks of the river Wye

Abaty Tyndyrn ar lannau'r Afon Gwy 

Diwrnod 2

Cwrdd ag Afon Mynwy yn Nhrefynwy a’r dolydd yn y Gelli Gandryll

Bore

Wrth ddilyn llwybr cyfan y Gwy o’r fan hon byddwch yn mynd i mewn i Loegr am gyfnod byr cyn bwrw’n ôl am y gorllewin tuag at Drefynwy. Mae taith gerdded o un o feysydd parcio ar ochr ddeheuol Trefynwy’n dangos lle mae'r Afon Gwy’n yn ymuno  â’r afon Mynwy. O’r fan hon gellir hefyd gweld Pont Fictoraidd Gwy sydd bellach yn ffordd draffig brysur draw i Fforest y Ddena. 

Ar ôl hynny, galwch yn Nhrefynwy, hen dref farchnad hyfryd, am damaid o ginio. Mae’r Marches’ Deli Café yn gwerthu coffi bendigedig a phrydau ysgafn i ginio neu ewch i fwyta yn yr un man â’r trigolion lleol yn The Whole Earth Café (mae’r bwyd Thai cartref, gan gynnwys y Pad Thai, yn flasus iawn). Wedyn, mae'r Afon Gwy yn troi i’r dwyrain tua Lloegr eto, gan fynd ar drywydd hir o gwmpas Y Rhosan ar Wy a Henffordd cyn bwrw’n ôl tua’r gorllewin i’r Gelli Gandryll, taith wledig brydferth sy’n cymryd rhyw awr yn y car.

Prynhawn

Down yn ôl i mewn i Gymru yn y dref sy’n cael ei hadnabod ym mhedwar ban byd am ei siopau llyfrau rhyfeddol (mae yno ddau ddwsin o siopau), Y Gelli Gandryll. Ond os oes gennych fwy o ddiddordeb yn yr afon, fe welwch ei bod wedi cuddio yng ngogledd y dref ochr yn ochr â dôl drawiadol wrth ochr yr afon sy’n cael ei adnabod fel The Warren. Prynwyd y lle hudol hwn gan drigolion a phobl busnes yn y 1970au ar gyfer y gymuned leol. Mae modd gweld gleision y dorlan, cwningod a dyfrgwn yno.

Gyda'r Nos

Cerddwch yn hamddenol am bum munud o’r afon a chael swper gwych yn un o dafarndai niferus y Gelli. Ymhlith y mannau cysgu hunanarlwyo sydd dafliad carreg o’r dŵr mae Asleep in Hay ar Lion Street neu Racquety Lodge ar ochr arall yr afon yn Wyecliff. Neu os mai gwesty rydych chi’n chwilio amdano, mae’r hen westy Sioraidd The Swan at Hay yn ddewis lleol o safon. O’r ystafelloedd cefn, fe welwch yr Afon Gwy yn troelli.

Dyn a menyw yn edrych ar lyfrau mewn ffenest siop
Bryniau gwyrdd a gwair gydag awyr las uwchben

Siop Llyfrau a chefn gwlad Y Gelli Gandryll

Diwrnod 3

Hwylio hardd yn y Clas-ar-Wy

Trwy’r dydd

Rydym wedi bod yn agos at y dŵr, ond nid ynddo: mae hynny’n newid heddiw. Yng nghefn gwlad Y Clas-ar-Wy fe welwch Wye Valley Canoes lle gallwch fynd â chanŵ neu caiac Canadaidd (mae sengl a dwbl ar gael) allan am y bore. Gallwch gael brecwast a choffi Eidalaidd cryf yn y River Café cyn i chi gychwyn.

Gallwch weld y Mynyddoedd Du yn ymestyn uwchben y rhan hon o'r afon. Mae gan y copaon lleol enwau cofiadwy hefyd fel Penybegwn a Twmpa. O’r fan hon, mae’n rhaid i chi deithio i lawr yr afon felly mwynhewch y Gelli o bersbectif gwahanol, neu ewch am ddiwrnod llawn i Whitney-on-Wye os ydy’ch coesau’n teimlo’n ddigon cryf.

Gyda'r Nos

Rhowch gynnig ar yr Harp Inn o’r 18fed ganrif, gydag ystafelloedd yn edrych dros yr afon, neu chwiliwch am lety yma. 

Dau ganŵ ar yr afon gan Wye Valley Canoes, Sir Fynwy.
Pobl yn canwio ar yr Afon Gwy gydag adeilad Wye Valley Canoes ar y lan yn y cefndir

Canŵio yn Y Gelli Gandryll

Diwrnod 4 

Celf glannau Gwy a heicio yn Erwyd, diwylliant a bwyd glan yr afon yn Llanfair-ym-Muallt

Bore

Ymhellach i fyny’r afon, mae’r A470 yn teithio wrth ochr yr Afon Gwy. Mae’r afon yn parhau i fod yn llydan fan hyn, gan wau drwy'r coetir. Ewch i Erwood Station Gallery am awr hyfryd o bori a siopa: mae canolfan grefftau wedi bodoli yma ers 1988. Caiff lluniau, printiau leino, gwaith cerameg, gwydr a choed a cherfluniau eu harddangos mewn casgliad o gerbydau trên ac yn adeiladau’r orsaf. 

Gadewch le am ginio yn nhafarn gysurus y Wheelwright Arms yn y pentref. Bydd y bwyd traddodiadol yn eich bodloni a'ch cynhesu wrth ochr y tân coed.

Prynhawn

Wedyn treuliwch y prynhawn yn cerdded. Mae llwybr prydferth trwy’r coetiroedd gerllaw’r oriel yn ymestyn yn uchel uwchlaw'r Afon Gwy ac ychydig filltiroedd i gyfeiriad y dwyrain fe welwch Lyn Llanbwchllyn. Mae’n lle gwych i weld hwyaid llygaid-aur prin, gleision y dorlan a phibyddion a mwynhau'r natur sy’n ffynnu gerllaw’r dŵr.

Gyda'r Nos

Ewch i dref fach Llanfair-ym-Muallt am rywfaint o hwyl ar ôl dyddiau yng nghefn gwlad. Os byddwch chi’n lwcus, fe welwch gig, sioe gomedi neu ffilm ddiweddar yng Nghanolfan Gelfyddydau Wyeside sef marchnad wartheg Fictoraidd sydd wedi’i thrawsnewid yn theatr a sinema drawiadol ger y dŵr. Mae’r dewisiadau llety yn cynnwys gwesty Fictoraidd pedair seren hyfryd, Gwesty Bronwye.

Stone bridge over river.

Yr Afon Gwy yn llifo o dan bont yn Llanelwedd 

Diwrnod 5

Brecwast wrth yr afon yn Llanfair-ym-Muallt, creadigrwydd a natur yn y Bontnewydd-ar-Wy

Bore

Rhaid archebu ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau heddiw ond i ddechrau llenwch eich boliau gyda brecwast blasus. Mae The Strand Cafe wrth ochr yr afon yn cynnig brecwast enfawr gyda dewisiadau cig neu lysieuol. 

Wedyn ewch i fyny’r afon. Ewch heibio’r troad am orsaf Llanfair-ym-Muallt sydd ar linell Calon Cymru - llwybr hir i deithwyr trên o Abertawe i’r Amwythig. Yna ewch i Bontnewydd-ar-Wy lle mae ochr gelfyddydol Gwy’n dechrau amlygu ei hun. Yma fe welwch Alex Allpress Pottery lle gallwch fwynhau dysgu gwneud eich cerameg eich hun dan arweiniad artist a hyfforddodd yn Ysgol Gelf fawreddog Camberwell. Fe wnaiff ddarparu cinio hyd yn oed – ond cofiwch gadw lle.

Prynhawn

Os ydych chi’n hoff o flodau a choed, trefnwch le ar daith o Erddi Llysdinam ychydig i gyfeiriad y gorllewin o'r Afon Gwy. Mae’r rhyfeddodau’n helaeth: gardd lysiau erw o faint gyda wal o’i chwmpas, borderi blodau enfawr a choeden orennau 150 mlwydd oed ymhlith y tai gwydr hardd. Mae math anarferol o genhinen bedr yn tyfu yma, sef Coch Penllergaer (a enwyd ar ôl y pentref ger Abertawe lle hanodd teulu gwreiddiol yr ystâd, y teulu Llewellyn). Mae ar agor ddwywaith y flwyddyn a bydd y prif arddwr yn hapus i’ch tywys os ydych yn gwneud apwyntiad. 

Gyda'r Nos

Yn Llanwrthwl mae y Vulcan Lodge yn cynnig casgliad hyfryd o fythynnod i'w bwcio’n unigol neu ar gyfer grwpiau mawr. Mae’r beiciau hybrid sydd ar gael i’w rhentu yma hefyd yn ffordd dda o deithio'r ardal. 

Diwrnod 6

Barcutiaid Coch wrth yr afon, Rhaeadr Gwy a noson olaf ar lan yr afon

Bore

Mae'r Afon Gwy’n culhau fan hyn. Yma mae canolbarth Cymru’n dechrau mynd ychydig yn fwy gwyllt. Ewch i'r fferm 200 erw teuluol, Fferm Gigrin, sy’n enwog am ei chanolfan fwydo Barcutiaid Coch. Mae cannoedd o’r adar yn bwydo yma bob dydd a cheir cuddfannau i’w gwylio gan gynnwys rhai arbennig i ffotograffwyr. Mae lle picnic, caffi a siop hyfryd hefyd.

Prynhawn

Ewch i Ystâd Cwm Elan gerllaw er mwyn gweld golygfeydd anghredadwy cronfeydd dŵr yr ardal neu mwynhewch grwydro o gwmpas Rhaeadr Gwy. Mae’r celfyddydau’n ffynnu yma mewn mannau fel Amgueddfa ac Oriel Rhaeadr Gwy sy’n cynnal arddangosfeydd uchelgeisiol. Mae ganddi hefyd arddangosfa barhaol ar hanes y dref sy’n dangos ffilmiau a dros hanner cant o hanesion llafar am fywyd ar lan yr afon. 

Gyda'r Nos

Ewch i gael swper yn y Triangle Inn o’r 16eg ganrif, ychydig y tu allan i’r dref ym mhentref bach Cwmdauddwr. Pan fydd y tywydd yn braf, gallwch eistedd yn yr awyr agored yn edrych ar lwybr troellog y dŵr gyda’ch pysgod a sglodion; a phan na fydd y tywydd cystal, gallwch swatio wrth y tân.

Ymhlith y mannau cysgu da wrth ochr yr afon mae bythynnod Nannerth Country Holidays. Rydych chi wedi dod mor bell â hyn. Rydych chi bron â chyrraedd. Mae’n amser cyrraedd llygad y Gwy yfory.

Diwrnod 7

Llangurig

Mae llygad y Gwy yn barod amdanoch – ac mae hyn yn galw am daith gerdded anturus. Wedi’r cyfan, rhwng Rhaeadr Gwy a Llangurig, sef pentref uchaf Cymru, mae’r dirwedd yn eithaf syfrdanol. Mae copaon enfawr bob ochr i chi wrth i’r afon ymdroelli’n dawel islaw.

Os nad ydych chi’n cerdded i’r ffynhonnell ei hun, crwydrwch o gwmpas Gwarchodfa Natur Gilfach. Yn ei milltiroedd olaf, mae'r Afon Gwy yn cwrdd ag Afon Marteg. Neu os oes gennych feic yng nghefn y car, rhowch gynnig ar y Llwybr Beicio Cenedlaethol sy’n rhedeg nesaf at y dŵr. Mae’n un o’r llwybrau mwyaf trawiadol yn y wlad i feicwyr.

Os ydych chi wedi clymu’ch lasys ac yn barod amdani, yna mae’n bryd troi at Bumlumon, y wahanfa ddŵr fwyaf yng Nghymru. Mae ffynhonnell afon Hafren fan hyn, dim ond dwy filltir i ffwrdd o’i chyfnither – ac maen nhw’n cwrdd eto yng Nghas-gwent, wrth gwrs, gan eu bod yn llifo gyda’i gilydd i mewn i’r môr. 

Mae sawl llwybr ar gael i gyrraedd y llygad. Mae un o’r rhai gorau’n dechrau mewn maes parcio sy’n cael ei redeg gan fferm yn Eisteddfa Gurig (chwiliwch am arwydd ar ochr chwith y ffordd wrth i chi ddod mewn o Langurig). Mae’r daith gerdded pum milltir hon yn dringo 350 metr o’i man cychwyn a gellir dod o hyd i’r manylion llawn ar wefan Wye Explorer. Ar y diwedd, chwiliwch am bant yn y tir a ddisgrifir gan y wefan fel un ‘dim mwy na maint het bowler’. Dyma lygad yr afon nerthol sydd wedi’ch tywys drwy’r wythnos, y ffynhonnell rydych chi wedi’i chyrraedd, sawl milltir o’i cheg lydan yn bell i ffwrdd.

Nawr dyna sut mae cael profiad o fyd natur. Ac os oes gennych wythnos arall yn rhydd, beth am ddilyn y dŵr yn ôl i’r môr?

Straeon cysylltiedig