Gan ystyried mor drwm oedd y dref yn dibynnu ar y diwydiant glo, doedd dim syndod fod Dirwasgiad Mawr y 1920au a’r 1930au, ynghyd â’r dirywiad mewn cynhyrchu glo ar ôl y rhyfel, wedi cael effaith mor ddinistriol ar Flaenafon. Daeth tro ar fyd, fodd bynnag, gan ddechrau gydag addewid gan y wladwriaeth yn y 1970au i ddiogelu Gwaith Haearn Blaenafon – erbyn heddiw daw pobl yn llu i weld y ffwrneisi mawr o’r 18fed ganrif. Mae’r dref wedi cael tipyn o adfywiad, felly, ac i goroni hynny fe ddynodwyd Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ar droad yr 21ain ganrif.
Safle Treftadaeth y Byd UNESCO
Roedd gan y beirniaid beth wmbreth o resymau dros ddewis Blaenafon i fod ar restr sy’n cynnwys y Taj Mahal a Mur Mawr Tsieina: ble bynnag yr ewch chi mae hanes yn dod yn fyw yma. Cam pwysig yn hyn o beth oedd gwneud canol y dref yn ardal cadwraeth ym 1984, gan ddiogelu’r pob twll a chornel o’r hen gobls a’r adeiladau hynafol yn yr ardal brydferth, hanesyddol o gwmpas Broad Street.
Ers cau llawer o’r strydoedd i geir mae’n llawer yn haws crwydro i chwilio am ddanteithion lleol – mae’r drefn yn cynhyrchu amrywiaeth helaeth o gaws, bara, cig a phethau amheuthun.
Ewch amdani
Ers talwm byddai’r pyllau glo, y tramiau a’r trenau’n bwrw’u cysgod dros yr ardal, ond bellach mae Blaenafon yn llawn bywyd gwyllt a gwyrddni. Ewch chi byth yn brin o lefydd i fynd am dro, chwaith. Ar ochr ddwyreiniol y Safle Treftadaeth mae taith hamddenol ar lannau Camlas Mynwy a Brycheiniog yn lle da i ddechrau, ac mae’n werth gweld y twnelau a’r odynnau calch sydd wedi sefyll yma ers 200 mlynedd. Ewch am dro ger Llynnoedd y Garn, gwarchodfa natur sy’n gynefin i adar anarferol, a chrwydro heibio Tomen Coety, safleoedd picnic a leiniau trên stêm.
Gallwch wibio nerth eich traed ar gefn beic wrth ymyl yr hen reilffordd oedd yn cludo mwynau, sydd bellach yn llwybr beicio sy’n mynd â chi at rai o adeiladau mwyaf rhyfeddol yr ardal.
Pethau mae’n rhaid i chi eu gweld
Mae Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, yn un o’r safleoedd treftadaeth mwyaf trawiadol yn y byd, yn dwyn i gof holl lafur y glowyr wrth gyflwyno gefail y gofaint, caban bwyd y glowyr a’r tŷ ffrwydron. Bydd yn hawdd i chi ddychmygu’r gweithwyr yn eu hetiau caled yn defnyddio’r cypyrddau a’r cawodydd a gedwir mewn cyflwr arbennig o dda mewn amgueddfa sydd wedi ennill llu o wobrau. Gorau oll, mae’n rhad ac am ddim.
Allwch chi ddim peidio mynd i weld Neuadd y Gweithwyr, adeilad mawreddog a fu’n ganolbwynt i holl fwrlwm y gymuned leol ers 1895. Mae’n werth chweil mynd i Ganolfan Treftadaeth y Byd hefyd, lle cynhelir digwyddiadau gydol y flwyddyn gan gynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol a gweithgareddau celf a chrefft i blant.
Yn wir, mae’n werth mynd i Flaenafon unrhyw adeg o’r flwyddyn, i weld y gwanwyn yn blodeuo, mynd ar hyd Llwybr y Mynydd Haearn neu fwynhau Gwledd y Gaeaf ym mis Rhagfyr, pan fydd trên Siôn Corn yn pwffian ar hyd y Rheilffordd Hanesyddol – y rheilffordd ddomestig uchaf un, gyda thîm o wirfoddolwyr brwd yn ei chadw mewn cyflwr da.
Boed yr haul yn tywynnu neu’r eira’n disgyn, byddwch yn siŵr o gael ymweliad difyr.