Gyda’i hanes hynod a’i diwylliant Cymreig bywiog, mae Llanrwst yn fan cychwyn rhagorol i wneud amrywiaeth o weithgareddau a gweld pob math o bethau, a hynny i bobl o bob oed.

Y diwrnod cyntaf: ewch i grwydro Llanrwst

Beth am ddechrau’ch diwrnod drwy grwydro o amgylch Llanrwst ei hun? Mae yma adeiladau hanesyddol o amgylch y sgwâr, a nifer o gaffis a siopau annibynnol. Camwch i dawelwch Eglwys Sant Grwst er mwyn edmygu’r bensaernïaeth brydferth. Yn ogystal â gwasanaethau ar y Sul, mae’r eglwys yn cynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd cyson.

Ar daith hamddenol ar hyd glannau'r afon, gallwch yn ystafell de Tu Hwnt i'r Bont, gerllaw'r Bont Fawr dros Afon Conwy. Mae'r hen lys barn o'r bymthegfed ganrif yn un o'r adeiladau mwyaf ffotograffig yng Nghymru. Yn yr hydref mae planhigyn creeper Virginia sy'n gorchuddio'r adeilad yn newid lliw i oren a choch bywiog.

Dwy ddynes, babi a chi ar lwybr ger yr afon.
Dwy ddynes, babi a chi ar lwybr ger yr afon.
Pobl yn cael diod y tu allan i adeilad sydd wedi’i orchuddio ag eiddew.

Cerdded ger afon Conwy ac ystafell de Tu Hwnt i'r Bont yn Llanrwst, Gogledd Cymru

Gerllaw, mae Castell Gwydir yn rhyfeddod hanesyddol sy’n sefyll mewn 10 acer o erddi hardd. Mae’r castell yn rhoi cip i ni ar hanes hynod yr ardal, gyda’i bensaernïaeth anhygoel a’i straeon lu.

Os byddai’n well gennych chi wneud rhywbeth egnïol, beth am grwydro’r ardal gyda Gravity Wheelers. Llogwch feic a dilyn un o’r llwybrau gwahanol i bobl o bob gallu. Mae pob math o lefydd braf i’w gweld o amgylch Llanrwst ac mae Parc Coedwig Gwydir yn lle delfrydol i fynd am dro. Ewch yno yn yr hydref i weld y coed ar eu mwyaf lliwgar a godidog.

Yn teimlo’n hynod anturus? Dafliad carreg i ffwrdd yng Nghoedwig Gwydir, mae Nant Bwlch yr Haearn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau awyr agored llawn antur i deuluoedd a grwpiau. Cysylltwch â nhw’n uniongyrchol i holi beth sydd ar gael ac i drefnu. Mae gan Zip World Betws-y-Coed weithgareddau llawn cynnwrf i’r holl deulu, gan gynnwys saffari drwy frigau’r coed, trên gwib drwy’r goedwig, a siglen frawychus y Skyride a’i chwymp 100 troedfedd.

Ymhlith y llefydd bwyd mae Amser Da, gan ddeli Blas ar Fwyd, sef caffi clyd sy’n gweini brecwast, cinio a byrbrydau. Mae’r Hen Danerdy (sydd ar agor o ddydd Iau tan ddydd Sul) yn cynnig brecwast, cinio, paneidiau a chacennau. Yng nghanol y dref, mae Gwesty’r Eryrod yn gweini prydau traddodiadol gyda’r nos. Os am beint neu ddau, mae’r croeso yn y New Inn wastad yn gynnes ac maen nhw’n croesawu cŵn yno hefyd.

Dwy ddynes, babi a chi yn cerdded gerllaw siop.

Llanrwst, Gogledd Cymru

Yr ail ddiwrnod: ewch i grwydro’r ardal

Pentref tawel i fyny’r ffordd o Lanrwst ydy Trefriw. Fan hyn, gallwch chi ymweld â Melin Wlân Trefriw, pysgota am frithyllod yn Llyn Crafnant, ymlacio ger prydferthwch Rhaeadr y Tylwyth Teg, neu ddilyn y llwybrau cerdded o amgylch y pentref.

I lenwi’ch boliau, mae gwesty’r Fairy Falls a’r Old Ship yn cynnig bwyd tafarn traddodiadol Cymreig a chwrw lleol, tra cewch chi roliau brecwast, cinio ysgafn a sgoniau a chacennau cartref gwerth chweil yng Nghaffi Doti.

Yn y prynhawn, ewch i grwydro Betws-y-Coed, pentref hardd tu hwnt sy’n enwog am ei olygfeydd a’i weithgareddau awyr agored. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy, Seren Ventures a Chlwb Golff Betws-y-Coed.

Wooden bench in front of waterfall. Mainc bren o flaen y rhaeadr.

Rhaeadr y Tylwyth Teg, Trefiw, Conwy, Gogledd Cymru

Beth am aros yn hirach?

Mae Llanrwst yng nghanol cefn gwlad Dyffryn Conwy, sy’n golygu bod llu o atyniadau a gweithgareddau eraill o fewn pellter agos. Mae lein reilffordd Dyffryn Conwy, sy’n troelli o amgylch y mynyddoedd o Flaenau Ffestiniog i’r aber ger Llandudno yn daith llawn golygfeydd ynddi’i hun. Yn yr aber hefyd fe welwch chi fywyd gwyllt o bob math.

Ymhlith atyniadau’r ardal ehangach mae ysblander Gerddi Bodnant a llwybrau braf Gerddi Dŵr Conwy, anifeiliaid Sŵ Mynydd Cymru, sledio gyda chŵn ym Mynydd Sleddog, a chwaraeon dŵr ar Lyn Brenig ger Corwen. Os mai celf sy’n mynd â’ch bryd, cofiwch alw yn Oriel Ffin y Parc. Mae’r oriel gyfoes hon yn dangos gwaith rhai o artistiaid gorau Cymru.

Llety yn Llanrwst

Yn sefyll ar lan yr afon, mae gan Rwst Holiday Lodges lety cyfforddus a thawel sy’n croesawu anifeiliaid anwes. Mae nifer o opsiynau hunanarlwyo eraill yn y dref, gan gynnwys bythynnod, meysydd gwersylla a pharciau carafanau. Ymhellach o Lanrwst, mae Gwesty Abaty Maenan a Phlas Maenan yn llefydd gwych i aros ynddyn nhw a chithau’n awyddus i ymlacio.

Dwy ddynes, babi a chi yn sefyll ar hen bont gerrig dros afon.

Llanrwst, Gogledd Cymru

Straeon cysylltiedig