Mae Cricieth, y porth i baradwys naturiol Pen Llŷn, yn dref glan-môr gyfeillgar dan gysgod castell hynafol. Os ydych chi’n deulu gyda llond car o blant, yn bâr sydd eisiau ymlacio, neu’n rhywun sy’n ysu am antur ar y dŵr, mae llawer iawn i’w wneud ar garreg y drws. Dyma rai syniadau i’ch rhoi ar ben y ffordd.
Ymestyn eich coesau
Mae Llwybr Arfordir Cymru’n ymestyn o gwmpas holl arfordir Cymru ac mae’r darnau ger Cricieth yn hawdd i fynd atynt. Gallwch gysylltu â threfi cyfagos ar drenau a bysiau, felly mae modd cerdded i un cyfeiriad a chael trên neu fws yn ôl. Cerddwch yn hamddenol rownd y bae i Borthmadog i ddarganfod cildraethau cudd fel Bae Samson a chopa Moel y Gest gyda golygfeydd gwefreiddiol dros y môr.
Mae Porthmadog yn dref harbwr brysur ar aber afon Glaslyn. Gallwch fynd am dro mewn cylch yma gan gynnwys gwarchodfa natur leol Parc y Borth a threflan gyfagos Tremadog. I’r cyfeiriad arall tuag at Bwllheli, mae gan lwybr yr arfordir lwybrau pren drwy wlyptiroedd a thwyni tywod gwyllt. Cadwch olwg wrth i chi gerdded, mae’r glannau hyn yn gartref i ddolffiniaid, llamhidyddion a phob math o adar.
Darllen mwy: Darganfod Pen Llŷn.

Teithio drwy amser
Fel y rhan fwyaf o Gymru, mae’r ardal hon yn gyforiog o hanes. Mae’n amhosib osgoi Castell Cricieth, ar bentir creigiog uwchlaw’r môr. Mae’r golygfeydd o’r fan hon yn ysblennydd. I lawr y ffordd i gyfeiriad Pwllheli, gallwch gamu’n ôl i’r 15fed ganrif yn y tŷ neuadd canoloesol unigryw, Penarth Fawr. Mae’n fach, ond wedi’i gadw’n ardderchog gyda chyfres eithriadol o ddistiau pren mwsoglyd yn cynnal to’r neuadd.
Gallech gyfuno ymweliad â’r fan hon ag ymweliad â safle sanctaidd Ffynnon Cybi. Dywedir bod y dyfroedd yn gallu gwella pobl, ac mae ymdeimlad gwirioneddol hudolus yma, dan gysgod coed hynafol. A gallwch deithio’n ôl i rai o olion hynaf presenoldeb dyn yng Nghymru, drwy ddringo i ben Tre’r Ceiri, bryngaer enfawr o’r Oes Haearn. Dyma gyfres eang o dai crwn a waliau, ar gopa un o fynyddoedd yr Eifl, a golygfeydd gwirioneddol ryfeddol.
Chwilio am fannau i aros ger Cricieth.


Ymestyn eich meddwl
Mae llond llaw o amgueddfeydd diddorol ble gallwch ddysgu mwy am hanes cyfoethog yr ardal. Ceir Amgueddfa Goffa Lloyd George yn Llanystumdwy gerllaw, sy’n adrodd hanes bywyd un o brif weinidogion enwocaf y DU. Yma oedd ei gartref yn blentyn, ond treuliodd ei ddyddiau olaf yn y pentref prydferth hwn hefyd, yng nghrandrwydd Tŷ Newydd, sydd bellach yn ganolfan i ysgrifenwyr. Gallwch ddysgu am hanes adeiladu llongau cyfoethog yn Amgueddfa Forwrol Porthmadog hefyd. O lan y cei fan hyn byddai llongau hwylio crand yn arfer cychwyn am wledydd pell.
Dim ond siwrne fer yn y car i arfordir gogleddol Pen Llŷn sydd angen i ddod i ‘bentref coll’ rhamantus Nant Gwrtheyrn. Trowyd y casgliad simsan o hen fythynnod mwyngloddwyr ger glan y dŵr yn ganolfan treftadaeth wirioneddol ddiddorol. Mae hefyd yn ganolfan dysgu Cymraeg, felly gallwch helpu dysgwyr gydag ambell ymadrodd. Mae’n agos iawn at fryngaer Tre’r Ceiri, sy’n waith cerdded diwrnod i fyny ac yn ôl o’r fan hon.

Ymlacio
Os oes angen ychydig mwy o antur arnoch chi, mae digonedd i’ch diddanu ger Cricieth. Mae Pwllheli’n gartref i farina prysur. Ger y llongau hwylio slic mae Plas Heli, yr Academi Hwylio Genedlaethol newydd. Gall plant dros 14 oed a rhieni roi cynnig ar hwylio neu rwyf-fyrddio. Herc, cam a naid o’r fan hon mae Canolfan Weithgaredd Parc Glasfryn ble mae rhywbeth i bawb! Tonfyrddio a chaiacio, bowlio, saethyddiaeth, gocartio a saethu colomennod clai.
Gallwch wneud pob math o anturiaethau ar y môr o gwmpas Pen Llŷn hefyd. Yn Abersoch ac Aberdaron gallwch roi cynnig ar hwylio, caiacio a hwylfyrddio. Neu beth am ddal cwch ym Mhorth Meudwy a mynd ar antur i weld bywyd gwyllt Ynys Enlli, sy’n enwog am forloi, llamhidyddion a myrdd o adar gwyllt?
Darllen mwy: Huw Brassington yn sôn am anturiaethau awyr agored Pen Llŷn.



Trip i’r traeth
Mae gan y rhan hon o Gymru draethau gwirioneddol hyfryd. Mae traeth Cricieth yn ymestyn i’r ddau gyfeiriad. Er bod y ddau ychydig yn garegog, mae cysgod yma, felly mae’n ddelfrydol ar gyfer plant. Ceir pyllau creigiog ac ambell ddarn tywodlyd hefyd. Fel arall, ewch am dro ar hyd y promenâd, â hufen ia yn eich llaw. (Os oes chwant mwy o fwyd arnoch, mae adeilad Art Deco gwych bwyty Dylan’s yno i’ch temtio i alw i mewn.)
Eisiau milltiroedd o dywod sidanaidd? Dim ond siwrne fer yn y car i’r naill gyfeiriad neu’r llall sydd angen. I gyfeiriad Porthmadog mae Traeth y Greigddu. Mae’n enfawr – perffaith ar gyfer cestyll tywod a byrddio’r tonnau i rai iau. Gallwch fwynhau tywod euraid godidog i gyfeiriad Pwllheli yn Abererch a Llanbedrog. Mae cysgod i’w gael yn y ddau draeth, felly delfrydol i blant, a pherffaith ar gyfer hwylfyrddio a barcudsyrffio.

