Teithiau sy'n addas i gadeiriau olwyn yng Ngorllewin Cymru
Mae Gorllewin Cymru yn gartref i lond gwlad o atyniadau hygyrch a gweithgareddau sy'n addas i'r anabl. Daw ymwelwyr o hyd i gyfoeth o brofiadau, gan gynnwys eglwysi cadeiriol a chestyll ysblennydd, gerddi gogoneddus, chwaraeon dŵr hygyrch a thraethau hardd y gall pawb eu mwynhau. Darllenwch ragor i gael gwybod mwy a throwch at y dolenni isod i gael gwybod am bethau sy'n addas i'r anabl i'w gwneud mewn rhannau eraill o Gymru.
Amgueddfeydd ac orielau hygyrch
Canolfan Groeso Oriel y Parc
Y Stryd Fawr, Tyddewi, Sir Benfro SA62 6NW
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn a'r rhai sy’n brin eu symudedd
- Cadair olwyn a sgwter symudedd ar gael ar gais
- Dolen sain yn y dderbynfa i’r rheini â nam ar eu clyw
Gyda waliau a ffenestri wedi'u dylunio i ddal y gorau o gynhesrwydd a golau'r haul, mae canolfan groeso Parc Cenedlaethol Penfro yn Oriel y Parc yn oriel gelf gyfoes ac yn waith celf pensaernïol ynddo'i hun.
Castell Picton
Rhos, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 4AS
- Castell, siop anrhegion, bwyty, orielau a 70 y cant o dir sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
- Cadeiriau olwyn ar gael ar gais
- Toiledau a pharcio hygyrch
Adeiladwyd Castell Picton yn wreiddiol yn y cyfnod canoloesol, ond mae moderneiddio diweddarach wedi rhoi tu mewn Sioraidd gogoneddus iddo. Saif yng nghanol 40 erw o erddi hardd sy'n llawn o blanhigion prin, a’r rhan fwyaf ohonynt yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai sy’n brin eu symudedd.
Byd natur sy'n addas i gadeiriau olwyn yng Ngorllewin Cymru
Canolfan Gwlyptiroedd Genedlaethol Cymru
Penclacwydd, Llwynhendy, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA14 9SH
- Parcio a thoiledau hygyrch
- Mynediad heb risiau i’r cuddfannau
- Croeso i gŵn cymorth
- Sgwter symudedd ar gael i'w logi
Mae Canolfan Gwlyptiroedd Genedlaethol Cymru yn hafan i adar a phryfed sy'n caru dŵr. Mae gan staff Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir ddealltwriaeth dda o anghenion pobl ag anableddau ac maent yn hapus i helpu gydag unrhyw beth o gario hambwrdd i gynghori ar y ffordd fwyaf gwastad ar hyd y llwybrau.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Llanarthne, Sir Gaerfyrddin SA32 8HN
- Mae pob rhan o'r gerddi ffurfiol yn hygyrch i gadeiriau olwyn
- Cadeiriau olwyn ar gael i'w defnyddio
- Gwasanaeth gwennol bygi ar gael i'r rhai sy’n brin eu symudedd
- Croeso i gŵn cymorth
Gydag arddangosfeydd garddwriaethol gwych a Thŷ Gwydr Mawr godidog Norman Foster i'w hedmygu, mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn wledd i'r synhwyrau. Mae pob un o'r prif ardaloedd plannu, gan gynnwys yr ardd synhwyraidd, yn addas i gadeiriau olwyn. Mae nifer o gadeiriau olwyn ar gael ac mae gwirfoddolwyr yn rhedeg gwasanaeth gwennol i'r Tŷ Gwydr a'r bwyty ar fygi trydan.
Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru
Cilgerran, Sir Benfro SA43 2TB
- Mae’r ganolfan groeso a’r caffi’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn a'r rhai sy’n brin eu symudedd
- Llwybrau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn a chuddfannau bywyd gwyllt hygyrch
Yn ei hadeilad pren a gwydr arobryn golau, awyrog sy’n cynnwys lifftiau i'w wneud yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn, mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru yn cynnig golygfeydd panoramig o Gorsydd Teifi, lle mae adar gwyllt yn aml yn ymgynnull, yn enwedig yn y gaeaf. O'r fan hon, gallwch archwilio rhan o Lwybr y Dwrgi sy'n addas i gadeiriau olwyn, gan ddilyn llwybr caled i guddfan hygyrch.
Parc Gwledig Pen-bre
Pen-bre, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA16 0EJ
- Mae'r Parc yn hygyrch i gadeiriau olwyn drwyddo draw.
- Amrywiaeth o weithgareddau hygyrch yn cynnwys sgïo ar eich eistedd a beicio addasol
- Mynediad i’r traeth ar gadeiriau olwyn traeth wedi'u haddasu
- Dewis o gyfleusterau i ymwelwyr â nam ar eu golwg a nam ar eu clyw
- Croeso i gŵn cymorth
- Toiled Changing Places
Mae Parc Gwledig Pen-bre yn 500 erw o barcdir gogoneddus, sy’n cynnal amrywiaeth o weithgareddau. Yn Natganiad Hygyrchedd y parc, nodir yr addasiadau ffisegol a'r mesurau rheoli a ddarperir drwy bob rhan o'r parc er mwyn hwyluso mynediad i bawb. Er enghraifft, mae'r holl staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth am anabledd, ac mae canllawiau ar fynediad i amwynderau a chyfleusterau niferus y parc.
Pethau hygyrch i'w gwneud yng Ngorllewin Cymru
Arfordiro Celtic Quest
Traeth Abereiddi, Berea, Tyddewi, Sir Benfro SA62 6DT
- Gweithgareddau sy'n addas i ymwelwyr ag amrywiaeth o namau corfforol a meddyliol
Gall arbenigwyr arfordiro Celtic Quest Coasteering deilwra eu gweithgareddau mentrus i weddu i unrhyw un bron, gan gynnwys plant ac oedolion byddar, dall, sydd â nam ar eu clyw a nam ar eu golwg, yn ogystal â'r rhai ag anawsterau dysgu a phrinder symudedd. Mae eu cyfarpar arfordiro yn eich gwneud mor ysgafn, nid oes angen i chi fod yn nofiwr cryf hyd yn oed.
Folly Farm
Begeli, Cilgeti, Sir Benfro SA68 0XA
- Amrywiaeth eang o reidiau ac atyniadau hygyrch
- Mynediad am ddim i gynorthwywyr personol
- Cadair olwyn a sgwter symudedd ar gael i’w llogi
- Cyfleusterau parcio a thoiledau hygyrch
Eisiau cwrdd ag anifeiliaid fferm cyfeillgar, bwydo pengwiniaid ac esgyn drwy'r awyr ar hen reid ffair? Mae Folly Farm yn dathlu treftadaeth amaethyddol Sir Benfro ac yn cynnig llawer o hwyl yn y broses. Er bod rhai ardaloedd yn gallu bod yn fwdlyd, mae'r rhan fwyaf o'r parc yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn – hyd yn oed yr Olwyn Fawr.
Traethau hygyrch yng Ngorllewin Cymru
Traeth Poppit
Aberteifi, Sir Benfro SA43 3LN
- Cadair olwyn traeth ar gael i'w llogi
- Hygyrch dros lwybr pren o'r maes parcio
Mae traeth prydferth Poppit yn draeth cysgodol hardd, sy'n hygyrch dros lwybr pren o'r maes parcio. Gellir trefnu llogi cadeiriau olwyn traeth ar-lein cyn eich ymweliad.
Traeth Porth Mawr
Tyddewi, Sir Benfro SA62 6RD
- Mae'r traeth yn hygyrch dros lithrfa
- Cadeiriau olwyn traeth ar gael i'w llogi
Ar un o draethau mwyaf poblogaidd Sir Benfro, mae tywod ysgubol Porth Mawr yn cynnig golygfeydd hardd o'r môr tuag at Ynys Dewi a'i chymdogion llai o faint. Gellir trefnu cadeiriau olwyn traeth ar-lein i'w defnyddio ar y tywod.
Traeth Castell Dinbych-y-pysgod
Stryd y Bont, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
- Toiledau hygyrch
- Cadair olwyn traeth ar gael ar gais
Mae traeth tywodlyd Castell Dinbych-y-pysgod yn eistedd islaw adfeilion hynafol Castell Dinbych-y-pysgod. Mae toiledau hygyrch ar gael a gellir llogi cadeiriau olwyn ar-lein.
Traeth Gogledd Dinbych-y-pysgod
Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro SA70 7LT
- Cadair olwyn traeth ar gael i'w llogi
Mae traeth Gogledd Dinbych-y-pysgod yn draeth tywodlyd hir yn erbyn cefndir o glogwyni ar y naill ochr a thref Dinbych-y-pysgod a'r harbwr prydferth ar y llall. Ceir ramp concrid i'r traeth sy'n 1:7 i 1:6 am 25 metr.
Bae Langland
Abertawe SA3 4QP
- Promenâd hygyrch i gadeiriau olwyn gyda mynediad ramp i'r traeth
Mae Bae Langland yn draeth deniadol, diogel a thywodlyd gyda chytiau traeth deniadol ar hyd ei ymyl.
Dolenni defnyddiol
Tourism For All: Cyfeiriadur mwyaf y DU o lety a theithio hygyrch
Accessible Countryside For Everyone: Adnodd gwych i ddarganfod mwy o wybodaeth am leoedd hygyrch yn y DU
Information Now: Erthygl gyda dolenni i ddod o hyd i'r toiledau cyhoeddus agosaf, gan gynnwys toiledau i'r anabl a'r rhai sy'n rhan o'r Cynllun Allwedd Cenedlaethol/RADAR
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Mynediad i Bawb: Gwybodaeth am deithiau cerdded, golygfannau a thraethau hygyrch a ble i logi cadeiriau olwyn traeth.
Croeso Bae Abertawe: Gwybodaeth am yr ardal, llety hygyrch, toiledau (gan gynnwys rhestr o doiledau Changing Places) a llogi offer symudedd.