Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a godwyd yn y ddeuddegfed ganrif ar safle adeiladau crefyddol hŷn o lawer, yw’r rheswm dros statws Tyddewi fel dinas, er gwaethaf pa mor fychan yw’r lle. A honno wedi’i chodi o dywodfaen borffor dywyll, dyma un o safleoedd crefyddol enwocaf Cymru. Mae’r eglwys ei hun yn swatio mewn dyffryn cysgodol ger glannau afon Alun. Dewch yma i ddysgu am hanes Tyddewi, i weld casgliad trawiadol y Trysordy, ac i fwynhau bwyd cartref a lleol yn Siop Goffi'r Eglwys Gadeiriol.
Oriel y Parc
A honno wedi’i lleoli yng Nghanolfan Wybodaeth y Parc Cenedlaethol, mae gan Oriel y Parc oriel dirluniau o’r radd flaenaf, a honno’n dangos celf ac arteffactau o gasgliad Amgueddfa Cymru. Mae yma wrthrychau o fyd celf, hanes naturiol a diwydiant, a chyfle i ymwelwyr weld rhaglen o arddangosfeydd sy’n newid yn gyson.
Llys yr Esgob
Mae adfeilion Gothig mawreddog Llys yr Esgob i’w canfod ar lan arall yr afon, gyferbyn â’r Eglwys Gadeiriol. Dyma gefndir dramatig dros ben i berfformiadau theatr yn yr awyr agored yn ystod yr haf. Gwaddol yr Esgob Henry de Gower yw’r adeiladau symlach ar yr ochr ddwyreiniol, sef ei gartref preifat, a’r rhai crandiach tua’r de, a godwyd i wledda yn y neuadd fawr.
Pebbles Yard Gallery and Espresso Bar
Lle croesawgar yw’r Pebbles Yard Gallery and Espresso Bar a man perffaith i gael tamaid i’w fwyta a hoe ar ôl yr holl grwydro. Mwynhewch yr haul a gwylio pobl yn mynd a dod yn yr iard dros goffi bach, cyn troi am yr oriel lle mae gweithiau gan Jacki Sime, y ffotograffydd bywyd gwyllt a thirluniau. Yn ogystal â delweddau trawiadol Sime, yma y mae casgliad mwyaf Sir Benfro o emwaith. Ceir hefyd amryw o arddangosfeydd cyson gan artistiaid a dylunwyr cyfoes.
Teithiau ar gwch i’r ynysoedd
Mae teithiau ar gwch i ynysoedd gwyllt Ynys Dewi, Ynys Gwales, Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm yn gyfle i weld bywyd gwyllt y môr yn fyw o flaen eich llygaid. Ymhlith y creaduriaid sy’n byw yma mae palod, huganod, llamhidyddion, dolffiniaid a morfilod. Mae modd dewis gwibdaith chwarter awr neu daith hirach, fwy hamddenol, yn dibynnu pa mor gyfforddus ydych chi ar y môr.
Mwy o wybodaeth
Os ydych chi’n chwilio am lety yn Nhyddewi, mae digonedd o ddewis ar gael. Ymhlith yr opsiynau mae fflatiau modern yng nghanol y ddinas sy’n rhoi golygfa o’r Eglwys Gadeiriol, bythynnod hunanarlwyo moethus sy’n edrych draw dros y môr, gwestai rhagorol a hosteli ieuenctid braf.