Pentre Ifan
Pentre Ifan yw un o'r safleoedd enwocaf. Mae yna ddigon o arwyddion, ac mae'n eithaf hawdd mynd ato. Wedi ei gosod mewn tirwedd syfrdanol, mae'r gromlech hon yn fframio mynydd Carn Ingli (neu Fynydd yr Angylion), gyda golygfeydd tuag at fae ysgubol Trefdraeth ac Ynys Dinas, ac mae'n bosib credu'n wirioneddol i'n cyndeidiau rannu ein naws ni am le, a'r syniad o brydferthwch. Dim ond sgerbwd carreg cain sy'n awgrymu siambr ble efallai y rhoddwyd meirw cymuned dros 5000 o flynyddoedd yn ôl.
Carreg Samson
Mae'r gromlech hon wedi ei gosod yn y lleoliad mwyaf trawiadol. Mae aelodau fy nheithiau yn aml yn ebychu mewn llawenydd wrth ei weld am y tro cyntaf. Yn sefyll ar ben creigiau ger Abercastell, mae Carreg Samson yn swatio mewn tir fferm toreithiog sy'n edrych i lawr dros Ben Strwmbwl. Datguddiodd y trysor hwn rhywfaint o'i gyfrinachau pan gafodd ei gloddio sawl blwyddyn yn ôl - roedd yna ddisgyl fregus arw enfawr yn dal gweddillion llosg gwahanol bobl cyn i'r claddiad gael ei selio o dan llawr o glai melyn.
Carreg Coetan Arthur
Mae yna arwyddion tuag at y safle hwn yn Nhrefdraeth o'r ffordd sy'n arwain ar draws pont yr afon i'r traeth. Mae'r siambr fechan hon, sy'n edyrch ychydig fel madarchen, yn ffefryn gan ymwelwyr o bedwar ban byd. Mae'n wledd annisgwyl gan ei fod yn eistedd ymysg tai, wedi ei wahanu o'r byd gan amgaead bychan. Os ddringwch chi i fyny ac edrych dros y wal, gallwch weld iddo, ar un adeg, edrych i lawr dros yr aber, a gallwch ddychmygu'r adeiladwyr yn defnyddio cwryglau syml neu geufadau. Yn wir, gallai Carreg Coetan Arthur fod yn ddatganiad o berchnogaeth, wedi ei osod wrth y dŵr i gadw dieithriaid draw.
Coetan Arthur
Mae Coetan Arthur wedi ei osod ar flaen Penmaen Dewi. Mae modd i gerddwyr ei gyrraedd, ac mae'n wobr haeddiannol am yr ymdrech o gyrraedd yna. Yn eistedd rhwng dwy garreg frig gyda golygfa o'r môr, y traeth a bryniau geirwon, mae'r henebyn hwn wir yn pontio'r dychymyg ac yn eich rhoi mewn cysylltiad gyda'r rheiny oedd yma o'n blaen. Mae'n bosib yr ewch heibio'r gaer o Oes yr Haearn ar y ffordd gydag olion cylchoedd hen gytiau i'w gweld, ac mae'n ddiddorol meddwl fod pobl Oes yr Haearn yn ystyried adeiladwyr y beddrod fel pobl hynafol, efallai chwedlonol hyd yn oed.