Mwynhewch gynnyrch lleol godidog, ymlaciwch i sŵn cerddoriaeth fyw, a rhowch gynnig ar weithgareddau o bob math yn un o wyliau bwyd Cymru. Mae marchnadoedd sy’n llawn cynnyrch, dosbarthiadau meistr, arddangosfeydd coginio ac adloniant i’r teulu i gyd yn gynhwysion gwych sy’n sicr o roi diwrnod i’r brenin i chi. Ac wrth gwrs, fe gewch gyfle hefyd i flasu a phrynu amrywiaeth o fwydydd a diodydd o Gymru.

Mae llawer o ddigwyddiadau bwyd ardderchog yn cael eu cynnal gydol y flwyddyn, a’r rheini’n rhoi llwyfan i gynnyrch o bob math. Yn eu plith nhw mae rhai o fwydydd a diodydd enwocaf Cymru, fel gwirodydd, cawsiau a chig oen Cymreig.

Gwyliau bwyd ym mis Medi

Gŵyl Fwyd y Drenewydd

06 a 07 Medi 2025

Mae gŵyl fwyd y Drenewydd yn dod yn fyw bob mis Medi. Mae’r ŵyl yn arddangos bwydydd a diodydd Cymreig o bob math, gyda cherddoriaeth gan artistiaid lleol, a’r cyfan yn digwydd o amgylch tref farchnad brydferth y Drenewydd. Gyda chefn gwlad godidog y canolbarth yn gefnlen, digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn sy’n rhoi gwerth gwych am arian. Bydd manylion y digwyddiad i’w gweld ar dudalen Facebook @NewtownFoodFest.

Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru, Sain Ffagan

Caerdydd, i’w gadarnhau, Medi 2025

Bydd Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd yn fwrlwm i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd. Mae gan yr ŵyl dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefftau, ynghyd ag arddangosfeydd coginio, gweithgareddau bwyd i’r teulu i gyd, a cherddoriaeth.

Ffair Fêl Conwy

13 Medi 2025

Yn ôl pob sôn, Ffair Fêl Conwy yw un o wyliau bwyd hynaf Prydain, a honno’n bodoli ers dros 700 mlynedd. Mae Siarter Brenhinol Edward I yn datgan bod yn rhaid ei chynnal ar yr un dyddiad bob blwyddyn – 13 Medi – oni bai mai dydd Sul yw hwnnw. Os hynny, bydd yn cael ei chynnal ar y dydd Llun canlynol. Yn y ffair hon, fe allwch chi ddisgwyl mêl, cynhyrchion mêl, stondinau cadw gwenyn, cyffeithiau, danteithion melys a chynhyrchion a chrefftau eraill.

Gŵyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug

I’w gadarnhau, Medi 2025

Digwyddiad bendigedig arall yw Gŵyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug, gŵyl sy’n rhoi llwyfan i amrywiaeth arbennig o gynnyrch y dref a’i chyffiniau. Mae digonedd i gadw pawb yn brysur yn yr ŵyl fwyd hon, gyda gweithgareddau, ysgol goginio ac arddangosfeydd gan gogyddion.

Gŵyl Fwyd y Fenni

20 a 21 Medi 2025

Yn Sir Fynwy y cynhelir Gŵyl Fwyd y Fenni – ardal sy’n enwog am ei hoffter o fwyd. Mae’r penwythnos hwn yn un o’r gwyliau bwyd amlycaf yn y calendr yng Nghymru. Yn ogystal â dosbarthiadau meistr gan gogyddion enwog, arddangosfeydd a sgyrsiau, mae digonedd o adloniant ysgafn a gweithgareddau difyr i’w cael hefyd, gan gynnwys teithiau tywys sy’n mynd â chi i fforio. Ac mae llwyth o bethau eraill i’w gwneud yn y Fenni a’r cylch, sy’n gwneud hwn yn benwythnos cwbl werth chweil.

Pobl yn eistedd ar lawnt yng nghanol pebyll bwyd gyda’r Fenni yn y cefndir.
Pot o salad ffeta gyda sifys wedi’i daenu ar ei ben.

Gŵyl Fwyd y Fenni

Gwyliau bwyd ym mis Rhagfyr

Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion

06, 07 ac 08 Rhagfyr 2024

Mae gan Ŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion gartref cwbl odidog: tir a gerddi’r pentref Eidalaidd lliwgar yn Eryri. Mae yno 120 o stondinau a chytiau sy’n dathlu cynhyrchion a busnesau Cymreig, tra bydd cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd coginio, gweithdai a Groto Nadolig hudolus yn rhoi mwy fyth o adloniant.

Golygfa fin nos o bebyll y ffair grefft ym Mhortmeirion.
Stondinau marchnad gyda phobl yn cerdded.
stondinau crefft mewn marchnad gyda phobl yn prynu pethau.

Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion

Gwyliau bwyd ym mis Mawrth

Gŵyl Fwyd a Diod Cydweli

Mwynhewch wledd i’r teulu, a honno’n llawn cynnyrch Cymreig, yng Ngŵyl Fwyd a Diod Cydweli. Gŵyl yw hon sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Tywysoges Gwenllian, ac mae yma ddetholiad o’r bwydydd a’r diodydd gorau o Gymru, ynghyd â gwneuthurwyr arbenigol a pherfformwyr.

Gwyliau bwyd ym mis Ebrill

Llwybr Cwrw Go Iawn, Bro Morgannwg

Gŵyl undydd sy’n gadael i chi yfed tra bydd rhywun arall yn gyrru? Syniad perffaith.erffaith. Bydd yr ŵyl hon yn cael ei chynnal ar wahanol ddiwrnodau yn ystod y flwyddyn ym Mro Morgannwg, Eryri, Conwy a mannau eraill, gyda’r Llwybr Cwrw Go Iawn (The Real Ale Trail) yn trefnu bws a fydd yn galw heibio i dafarndai lleol i’ch gollwng a’ch codi yn eich tro. Bydd gan bob tafarn o leiaf dri chwrw rhagorol i’w cynnig, yn ogystal â bwyd cartref ac adloniant.

Gwyliau bwyd ym mis Mai

Gŵyl Fwyd Caernarfon

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ŵyl sy’n llyncu’r dref gyfan, o’r marina i’r castell, gan lenwi’r strydoedd â gweithgareddau a bwydydd hyfryd. Mae yma gerddoriaeth fyw, digonedd o stondinau bwyd a chrefftau, ardal i’r plant, bwyd stryd, a bariau i ymweld â nhw.

Gŵyl fwyd brysur ger y môr.
Gŵyl fwyd brysur gerllaw castell

Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024, Gogledd Cymru

Penwythnos Caws a Seidr Gŵyr

Canolfan Dreftadaeth Gŵyr yw’r lle i fod yn ystod Penwythnos Caws a Seidr Gŵyr. Mwynhewch benwythnos cyfan lle cewch chi roi cynnig ar bob math o seidr a chaws, gan gynnwys rhai sy’n cael eu creu ar y safle. Bydd cerddoriaeth fyw yn yr iardiau hefyd.

Gŵyl Fwyd a Diod y Bont-faen

Gŵyl sy’n cael ei chynnal dros Ŵyl y Banc yw Gŵyl Fwyd a Diod y Bont-faen. Bydd wastad rywbeth at ddant pawb o bob oed yn y digwyddiad hwn sy’n un o uchafbwyntiau’r byd bwyd. Mae yma gigoedd gwych, prydau figan, cyrris a chawsiau, siytnis a seidr, jin o safon, danteithion melys a chymaint mwy. Yn ogystal â’r ffefrynnau arferol sy’n denu’r torfeydd, mae sôn y bydd sawl arddangoswr newydd a chyffrous yno hefyd!

Ochr yn ochr â phrif safle’r ŵyl, bydd Gerddi’r Hen Neuadd yn llawn dop o weithgareddau i’r teulu oll eu mwynhau: plygu helyg, pétanque, adar ysglyfaethus, ac am y tro cyntaf yn yr ŵyl, bydd Llwybr Bwyd y Fro yn dathlu cynaliadwyedd gyda rhaglen o ddigwyddiadau llawn hwyl. Mae disgwyl i’r arddangosfeydd bwyd poblogaidd ddychwelyd hefyd, gyda rhagor o adloniant yn y Duke of Wellington ar y stryd fawr. Ewch i gael rhagor o wybodaeth am y Bont-faen.

Menyw yn gwisgo het ac yn dal potelaid o seidr

Gŵyl Fwyd a Diod y Bont-faen, De Cymru

Gwyliau bwyd ym mis Mehefin

Gŵyl Fwyd Stryd Sir Benfro

Traeth y De yw’r lle i fod pan gynhelir yr ŵyl fwyd wych hon yn Ninbych-y-pysgod, a honno’n rhoi llwyfan i’r bwyd stryd gorau y gallwch chi’i ganfod. Mae gan Ŵyl Fwyd Stryd Sir Benfro stondinau niferus sy’n cynnig pob math o fwydydd o bob cwr o’r byd, gan gynnwys danteithion o Wlad Groeg, Korea, Morocco, Afghanistan a Mecsico. Mwynhewch fwy o atyniadau gwych Dinbych-y-pysgod tra byddwch chi yno.

Gwyliau bwyd ym mis Gorffennaf

Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd

Yng nghanol yr haf y cynhelir Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd a honno’n gyfle dros dridiau i fwynhau pob math o ddanteithion ym Mae Caerdydd. Bydd dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod yn bresennol, a bydd yno hefyd gerddoriaeth fyw a phob math o arddangosfeydd a gweithdai. Mae’r ŵyl awyr agored hon yng Nghaerdydd yn denu torfeydd rif y gwlith pan fydd y tywydd yn braf. I wylio pobl mewn steil, bachwch sedd yn y Bar Siampên a mwynhau gwydryn o ddiod oer a phefriog.

Coginio byw ar stondin fwyd yng Ngŵyl Fwyd Ryngwladol Caerdydd
Golygfa o'r awyr o ŵyl fwyd brysur.

Gŵyl Fwyd Ryngwladol Caerdydd, De Cymru

Gŵyl Fwyd Llanbed

A honno’n cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn yn niwedd mis Gorffennaf, ac wedi’i lleoli ar lawntiau braf campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae gan Ŵyl Fwyd Llanbed ddigonedd o bethau i ddifyrru teuluoedd. Mae yma stondinau atyniadol yn llawn dop o lysiau organig, caws arbenigol, cacennau bach amheuthun a chyffeithiau hen ffasiwn, ynghyd â cherddoriaeth fyw gan fandiau lleol.

Gwyliau bwyd ym mis Awst

Gŵyl Gaws Arberth

Yn Neuadd y Frenhines y cynhelir Gŵyl Gaws Arberth, a honno’n rhoi llwyfan i ddetholiad o gawsiau Cymreig lleol, yn ogystal â seidr, gwirodydd, cwrw a gwin i’w prynu. Mae yma hefyd gacennau caws, piclau, cyffeithiau, olifau, bwyd oer a phoeth, ac amrywiaeth o anrhegion a chrochenwaith.

Gŵyl Fwyd ac Afon Aberteifi

Mae Gŵyl Fwyd ac Afon Aberteifi wedi bod yn cael ei chynnal ers diwedd y 1990au. Dewch i flasu’r bwydydd lleol gorau gan gynhyrchwyr Cymreig annibynnol a hynny wrth wylio pob math o weithgareddau dŵr ar afon Teifi. Mae mwy i’r byd bwyd yn Aberteifi na bwyd môr. Mae ein glannau mewndirol hefyd yn rhan o fwrlwm yr ŵyl. A honno wedi’i lleoli uwchlaw afon Teifi, mae’n lle gwych i ddarganfod cynhyrchwyr bwyd Cymreig annibynnol a bach, ynghyd â gwneuthurwyr caws llwyddiannus a ffermwyr bridiau prin. Mae’r digwyddiadau ar yr afon yn cynnwys rasys cwrwgl ac arddangosfeydd gan yr RNLI, a hynny’n golygu bod hon yn ŵyl go unigryw. Mae digonedd o bethau eraill i’w gwneud yn Aberteifi, felly pam na ddewch chi ar wyliau bach i’r rhan hyfryd hon o’r gorllewin ar yr un pryd.

Grwpiau o bobl mewn gŵyl fwyd.
Defnyddio ffon goctel i flasu darn bach o gaws.

Gŵyl Fwyd ac Afon Aberteifi 2019

Gŵyl Caws Caerffili

Diwedd mis Awst neu ddechrau mis Medi 2025, y dyddiadau i’w cadarnhau

Mae Gŵyl Caws Caerffili yn ŵyl rad ac am ddim sy’n cael ei chynnal dros benwythnos yng nghanol y dref. Mae yno stondinau bwyd a diod niferus, ardaloedd a gweithdai cerddoriaeth, sesiynau crefft a ffair.

Straeon cysylltiedig