Os ydych chi’n chwilio am leoliadau awyr dywyll, chewch chi ddim o’ch siomi wrth ymweld â Chymru. Un o’r nifer rhesymau pam mae Cymru yn lle da i wylio’r sêr yw bod gennym ni’r ganran uchaf yn y byd o dir wedi ei warchod gan statws Awyr Dywyll. Yn ein hawyr glir ddi-lygredd ni, gallwch chi weld miloedd o sêr, comedau a galaethau – gan gynnwys ein galaeth ni, y Llwybr Llaethog. Gallwch chi hefyd ddal yr Orsaf Ofod Ryngwladol a threnau o loerenni – mae 8,000 ohonyn nhw’n cylchdroi o gwmpas y ddaear – wrth iddyn nhw deithio drwy’r nos.

Gallwch chi syllu ar y sêr drwy gydol y flwyddyn yng Nghymru, ond yn yr hydref a’r gaeaf pan mae’r nosweithiau ar eu tywyllaf yw’r adeg orau i wneud. Yn ddelfrydol, byddech chi’n dal un o’r cawodydd meteror niferus rydym ni’n eu cael yma, lle mae llwch o’r comedau a malurion gofodol yn troi’n sêr gwib. Yn ystod y cawodydd mwyaf – y Perseids (Awst), Geminids (Tachwedd) a Quadrantids (Ionawr) – gallwch chi weld hyd at 150 o sêr gwib bob awr. Mae hynny’n llawer o ddymuniadau i’w gwneud!

Startrails with logs in the foreground.

Llwybrau sêr

Mae Cymru yn ymfalchïo mewn rhestr o leoliadau arbennig mae seryddwyr wedi eu dynodi fel rhai o’r llefydd gorau yn y byd i syllu ar y sêr. P’un ai ydyw’n drip rhamantus i ddau neu’n wyliau i’r teulu cyfan, mae digon o ddewis ar gael. Rydym ni wedi cynnull rhestr o awgrymiadau am y lleoliadau awyr dywyll gorau ynghyd â llefydd hudolus i aros.

Darganfod y tywyllwch

Syllu ar y sêr yng ngogledd Cymru

Mae gogledd Cymru yn gartref i Warchodfa Ryngwladol Awyr Dywyll Eryri, yn ogystal ag ynys hudolus Ynys Môn a harddwch Pen Llŷn; dwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) sy’n cofleidio awyr dywyll.

Eyri

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi ei ddynodi’n Warchodfa Awyr Dywyll swyddogol. Â mwy na 2,000 km sgwâr o dir gwarchodedig, mae gan sawl ardal awyr glir y gallwch fanteisio arni wedi iddi nosi.

Milky Way over mountains.
Dark skies on mountainside.

Dark skies Tryfan and Castell y Gwynt, Eryri

Mae llefydd i aros ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn cynnwys:

  • Swallows Nest, ychydig o filltiroedd o Ryd-ddu, man dechrau ar gyfer taith i fyny’r Wyddfa.
  • Snowdonia Glamping Holidays, sy’n cynnig seibiant i deuluoedd neu gyplau o fywyd prysur bob dydd.
  • Betws Bach, ffermdy carreg yng Nghricieth sy’n caniatáu anifeiliaid anwes.
  • Bythynnod Moel yr Iwrch Cottages, sy’n cynnig llety moethus hunanarlwyo yng nghanol Eryri.
  • Bryn Elltyd, tŷ llety carbon negatif ym Mlaenau Ffestiniog â mannau gwefru trydan a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da.

Pen Llŷn

Yn fan dramatig ar gyfer syllu ar y sêr, mae arfordir gwyllt Pen Llŷn yn lle delfrydol i fentro allan yn y nos. Anelwch am draeth Porthor lle mae’r awyr mor glir, mae cyfle i weld clystyrau crwn, nifylau a galaeth Andromeda, sef y nesaf at ein galaeth ni. Mae traeth Trefor yn lle da arall i fynd.

dark skies above coast.

Dark skies Trefor Sea Stacks, Llyn Peninsula, North Wales

Mae llefydd i aros ym Mhen Llŷn yn cynnwys:

  • Nature's Point, bwthyn moethus clasurol â golygfeydd anhygoel o’r môr.
  • Betws Bach, ffermdy yng Nghricieth sy’n caniatáu anifeiliaid anwes a phlant ac sy’n lle delfrydol i grwydro Pen Llŷn ac Eryri.
  • Cefn Uchaf Farm Guest House, wedi ei leoli mewn ardal wledig hardd ac agored â golygfa banoramig o’r Wyddfa.
  • Rhydolion Holiday Cottages, sy’n cynnig llety moethus hunanarlwyo hanner milltir o Borth Neigwl.
  • Ty'n Rhyd, sy’n cynnig golygfeydd anhygoel o’r tir amaeth a’r môr gyda lle i chwe pherson.

Ynys Môn

Gallwch chi hefyd fwynhau awyr dywyll anhygoel yn Ynys Môn, ac yn ystod misoedd y gaeaf fe allech chi hyd yn oed gael gweld Goleuadau’r Gogledd. Mae’r olygfa dros Fôr Iwerddon yn un sydd heb gael ei llygru gan olau.

Mae Penmon, y traeth cerrig ar y pentir ym Môn, yn adnabyddus am y golygfeydd o balod, morloi a dolffiniaid, ond mae yno hefyd amodau perffaith ar gyfer syllu ar y sêr. I’r gogledd, fe welwch chi oleudy Trwyn Du ac Ynys Seiriol tu draw iddo.

 

dark skies above lighthouse.
Milkway dark skies and lighthouse.

Awyr dywyll Ynys Llanddwyn ac Penmon, Ynys Môn

Mae llefydd i aros yn Ynys Môn yn cynnwys:

Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn lle gwych i syllu ar y sêr, lle mae’r awyr ar ei thywyllaf uwch Caer Derwyn, bryngaer o’r Oes Haearn sy’n sefyll ar ben bryn sy’n edrych dros ddyffryn afon Dyfrdwy.

Mae Llanelian-yn-Rhos yn bentref i’r de o Fae Colwyn ac yn fan cyfarfod cyson i Gymdeithas Seryddiaeth Gogledd Cymru. Maen nhw’n cynnal nosweithiau syllu ar y sêr cyson a darlithoedd yn y ganolfan gymunedol, ac hefyd yn cynnal digwyddiadau ar lein. Ymunwch â’u grŵp Facebook nhw i gael gwybod am eu digwyddiadau.

Dysgwch fwy am awyr dywyll AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae llefydd i aros yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cynnwys:

  • Cwt Bugail Cae Main sy’n cynnig glampio moethus i gyplau.
  • Bracdy Cottage, lle clyd i ddau berson, yn agos at Ruthun a Dinbych.
  • Pen Y Banc, bwthyn â lle i bedwar person ac sy’n caniatáu cŵn.
  • Clwydian Caravan, lle sy’n caniatáu cŵn ac sydd â balconi a lle i gadw beiciau.
  • The Granary, â golygfa dros yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Syllu ar y sêr yng nghanolbarth Cymru

Mae yng nghanolbarth Cymru nifer o safleoedd darganfod awyr dywyll sy’n ddigon hawdd i’w cyrraedd. Byddai’n anodd dod o hyd i leoliad fwy delfrydol na chefn gwlad heddychlon a chopaon dramatig y canolbarth. Yma fe brofwch chi’r awyr ar ei thywyllaf – ac mae’n berffaith ar gyfer gwylio’r sêr. P’un ai ydych chi’n mynd ar eich pen eich hun, gyda ffrind neu gyda’r teulu cyfan, rydym ni wedi dewis a dethol rhai llefydd arbennig i aros sydd mewn lleoliadau da i syllu ar y sêr.

Mae’r Spaceguard Centre yn arsyllfa weithredol ar fryncyn anial ar gyrion Trefyclo. Mae’r ganolfan yn sganio awyr y nos yn barhaus gan chwilio am ‘wrthrychau agos at y ddaear’ (sef asteroidau a chomedau) a allai ddod â bygythiad i’n planed ni petai nhw’n digwydd taro’r ddaear. Mae’n ganolfan sy’n cael ei rhedeg yn breifat lle mae gwirfoddolwyr yn gweithio yno a dyma’r unig ganolfan o’i thebyg yn y Deyrnas Unedig. Maen nhw’n cynnig teithiau tywys cyson o amgylch y ganolfan (addas ar gyfer plant 9 oed a hŷn) lle mae arbenigwyr yn arwain ac yn egluro pwrpas y ganolfan. Os ydych chi’n awyddus i weld y sêr uwch canolbarth Cymru, mae’r teithiau gyda’r nos yn berffaith ar nosweithiau clir a thywyll.

Cwm Elan

Mae gan Gwm Elan yng nghanolbarth Cymru statws Parc Rhyngwladol Awyr Dywyll – sy’n golygu bod y cyfan o’r 45,000 acer wedi ei warchod rhag llygredd golau gan ei wneud yn hafan i fywyd gwyllt a byd natur (a seryddwyr hefyd). Mae’n cynnig rhai o’r llefydd gorau yn y byd i wylio’r sêr ac ar noson glir fe allwch chi weld sêr, planedau a chlystyrau.

Yn fan poblogaidd gan seryddwyr a ffotograffwyr seryddol, mae Argae Craig Goch yng Nghwm Elan ger Rhaeadr Gwy yn lle parcio hwylus. Gallwch wylio’r sêr o’r argae ei hun neu ddilyn y llwybr ar ochr ddwyreiniol y gronfa ddŵr i ddod o hyd i olygfeydd arbennig o awyr y nos. Ewch i ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Cwm Elan – lle sydd wedi ei ddynodi’n Barc Rhyngwladol Awyr Dywyll. Tua 12 milltir o Raeadr Gwy, mae yn Argae Claerwen yng Nghwm Elan faes parcio ar yr ochr orllewinol, a dim traffig i boeni amdano.

Yn ôl Ingham’s Starry Night Experience Index, mae Cwm Elan yn y 10 lle gorau yn y byd ar gyfer syllu ar y sêr.

 

Y Llwybr Llaethog yn ffurfio bwa yn awyr y nos dros Gwm Elan
Llwybrau sêr uwchben argae.
Milky Way above dam.

Awyr Dywyll yng Nghwm Elan, canolbarth Cymru

Mae nifer o fythynnod clyd i’w cael yng Nghwm Elan. Mae llefydd i aros yng Nghwm Elan yn cynnwys:

  • The Elan Valley Country House Hotel, mae gan y gwesty hwn olygfeydd anhygoel ac mae’n baradwys i wylio’r sêr, cerdded, marchogaeth, gwylio adar, pysgota a ffotograffiaeth.
  • Strawberry Skys Yurts, dyma brofiad glampio eco-gyfeillgar sy’n caniatáu cŵn mewn llecyn diarffordd ger Llanfair Caereinion. Cadwch yn gynnes y tu mewn gyda stôf llosgi logiau pren, neu eisteddwch wrth y tân tu allan i wylio’r sêr.
  • Maes Gwersylla a Charafanio Woodlands, dyma le delfrydol i wylio’r sêr, dim ond 5 munud o gerdded o raeadr hardd Pontarfynach.
  • Lon Lodges, cewch brofiad gwyliau moethus ar fferm deuluol yma lle mae gan westeion fynediad at lwybrau natur preifat.
  • Brechfa Glamping, arhoswch mewn pabell Mongolaidd foethus gan goginio dros dân agored a chael eich gwylio gan deulu o alpacas yn y cae drws nesaf.

 

Bannau Brycheiniog

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Warchodfa Ryngwladol Awyr Dywyll ac mae yno beth o’r awyr dywyll o’r ansawdd uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’n lle delfrydol i weld y prif glystyrau, nifylau llachar, y Llwybr Llaethog, a hyd yn oed cawodydd o sêr gwib.

Mae dwsinau o lefydd i syllu ar y sêr ym Mannau Brycheiniog, ond mae Safle Darganfod Awyr Dywyll Cronfa Ddŵr Wysg yng ngorllewin y parc yn un o’r llefydd tywyllaf a distawaf. Mae lle parcio ar gael a gallwch chi gerdded allan ar yr argae ei hun.

Mae Cwm-du, Crucywel yn ddyffryn tawel yn y Mynyddoedd Duon. Yno, caiff AstroCamp yng Ngwersyll Cwm-du ei gynnal ddwywaith y flwyddyn lle daw seryddwyr a phobl sy’n gwylio sêr ynghyd i rannu telesgopau a golygfeydd o’r dyffryn.

Mae llefydd i aros ym Mannau Brycheiniog yn cynnwys:

  • By the Wye ar gyfer glampio mewn coeden i hyd at bedwar person.
  • Llangoed Hall, gwesty gwledig ger afon Gwy lle mae’r awyr yn syfrdanol. Mae’r perchnogion yn barod i ddiffodd y goleuadau tu allan os gofynnwch chi iddyn nhw, ac mae yno delesgop ac ysbienddrych ar eich cyfer yn barod.
  • Basel Cottage, dyma lety sy’n croesawu anifeiliaid anwes, wedi ei leoli’n berffaith yng nghanol 17 acer o dir cefn gwlad â choedwig breifat.
  • Glanyrafon, bwthyn sy’n croesawu anifeiliaid anwes lle mae llwybrau cerdded yn ymestyn am filltiroedd o’r stepen ddrws.

Cymerwch olwg ar ragor o lefydd i aros yng nghanolbarth Cymru ar gyfer awyr dywyll ac edrychwch ar y deg lle gorau i wylio’r sêr o amgylch Aberhonddu.

 

Mynyddoedd Cambria

Mae sawl Safle Darganfod Awyr Dywyll yn ardal Mynyddoedd Cambria, yn cynnwys Llanerchaeron ar yr arfordir, Dylife yng nghalon canolbarth Cymru, neu Gronfa Ddŵr Llyn Brianne. Mae pa mor anghysbell yw’r rhannau gwledig hyn yn golygu mai prin yw’r llygredd golau yno, ac felly mae ambell lecyn anhygoel i edrych i’r awyr a rhyfeddu.

Dark skies at Llanerchaeron.
Dark skies above Llyn Brianne.

Awyr dywyll yn Llanerchaeron ac yn Llyn Brianne, Mynyddoedd Cambria

Mae llefydd i aros yn ardal Mynyddoedd Cambria yn cynnwys:

  • Y Granar, dyma le sy’n cynnig heddwch a thawelwch, â thafarndai a siopau milltir yn unig i ffwrdd. Mae gwely pedwar postyn yno i’r bobl a’r cŵn sy’n aros.
  • Hafren Forest Hideaway, llety gwely a brecwast 10 munud yn y car i ffwrdd o Gronfa Ddŵr Clywedog, yn berffaith ar gyfer cerdded.
  • Glanyrafon, bwthyn sy’n croesawu anifeiliaid anwes. Ymlaciwch a gwyliwch y sêr o’r twb poeth tân pren wedi ei lenwi â dŵr pur Cymreig.
  • Basel Cottage, bwthyn sy’n croesawu cŵn wedi ei leoli o fewn 17 acer o goetir preifat â thân tu allan i allu gwylio’r awyr dywyll.

 

Awyr Dywyll – Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Mynyddoedd Cambria

Ceredigion

Â’r môr ar un ochr, mae arfordir gorllewinol garw a gwledig Cymru yn berffaith ar gyfer awyr dywyll. Yma, lle mae modd gweld mwy na 1,000 o sêr gyda’ch llygad eich hun, mae Ceredigion yn darparu digon o gyfleoedd i syllu ar awyr y nos. Mae’r Llwybr Llaethog i’w weld orau rhwng mis Hydref a mis Ebrill.

Mae Safle Darganfod Awyr Dywyll Coed y Bont yn lle da i syllu ar y sêr a gwylio natur – efallai y byddwch chi’n ddigon ffodus i weld bele, un o greaduriaid y nos, wrth i chi ymweld.

Mae Safle Darganfod Awyr Dywyll swyddogol Traeth Penbryn lai na milltir o gerdded o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Fferm Llanborth, Penbryn.

Mae llefydd i aros yng Ngheredigion yn cynnwys:

  • One Cat Farm, mae yma bedwar caban pren unigryw mewn cae sydd mewn dyffryn coediog cuddiedig.
  • Clifftop Haven, lle â teras tu allan â thwb poeth a golygfeydd panoramig o fae Ceredigion.
  • YHA Borth, dyma lety rhad sydd 20 metr i ffwrdd o’r traeth.

Gwylio’r sêr yng ngorllewin Cymru

Mae digon o gyfleoedd i wylio’r sêr yng ngorllewin Cymru. Â’u lleoliadau anghysbell, mae sawl rhan o Sir Benfro a Gŵyr yn cynnig amodau perffaith i wylio awyr dywyll.

Sir Benfro

Mae Sir Benfro yn gyrchfan sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel lle i syllu ar y sêr, â llawer o gyfleoedd i wylio’r sêr ar draws ardal eang. Yn ystod y dydd gallwch chi fwynhau taith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir byd enwog Sir Benfro, ac yn ystod y nos mae Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll Sir Benfro yn deffro.

Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhraeth De Aberllydan yw’r lle tywyllaf o holl Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll Sir Benfro, sydd â dynodiad safon ‘Llwybr Llaethog’. Mae Traeth Niwgwl a Thraeth Poppit yn cynnig cyfleoedd gwych i syllu ar y sêr – mae meysydd parcio Parc Cenedlaethol y ddau le yn Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll ag awyr glir â phrin dim llygredd golau.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhestru rhai o’r safleoedd gorau i syllu ar y sêr yn Sir Benfro, yn cynnwys meysydd parcio Garn Fawr, Kete, Martin's Haven, Skrinkle Haven a safle picnic y Parc Cenedlaethol, Sychpant.

 

Milky Way above coast with sea archway.

Awyr dywyll Pont Werdd Cymru, Sir Benfro

Mae llefydd i aros yn Sir Benfro yn cynnwys:

  • Yurts & Camping Pods @ Tregroes lle mae pedair pabell Mongolaidd draddodiadol a phod gwersylla pren, ar gyfer glampio moethus filltir o’r arfordir.
  • Y Cartws, bwthyn ar fferm ddefaid.
  • Rhostwarch, ysgubor wedi ei throi’n llety â thwb poeth.
  • Top of the Woods ym Moncath, pleidleisiwyd mai dyma’r ‘Gwersyll gorau i syllu ar y sêr yn y Deyrnas Unedig’ ac mae’n cynnig profiad ecogyfeillgar wrth i chi wersylla neu glampio mewn encil natur â digon o le.

Penrhyn Gŵyr

Mae’r rhan fwyaf o arfordir Gŵyr yn glir o unrhyw lygredd golau, ac mae’n un o’r llefydd gorau yng Nghymru i syllu i lygad ein galaeth ni, y Llwybr Llaethog. Gallech chi fod yn ddigon ffodus i weld plancton bioymoleuedd hefyd.

Mae Bae Rhosili yn lle gwych i syllu ar y sêr â golygfeydd o’r môr i bob cyfeiriad. Cymerwch ofal gydag ymylon y clogwyni os ydych chi’n ymweld â Rhosili gyda’r nos. Byddai’n ddefnyddiol cynllunio eich ymweliad pan nad oes lleuad gan fod golau’r lleuad yn amharu ar y gallu i weld awyr dywyll. Mae Bae’r Tri Chlogwyn yn lle da arall i syllu ar y sêr a gallwch chi osod eich pabell ym Maes Carafanau’r Three Cliffs am y noson.

Er bod Bae Rhosili yn fwy enwog, does dim llawer o lefydd tywyllach yng Nghymru na thraeth Port Einon yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Penrhyn Gŵyr. Mae traeth mawr ym Mhort Einon sy’n edrych allan tua Sianel Bryste. Mae rhagor o wybodaeth am awyr dywyll yn yr ardal hon i’w gael ar wefan Croeso Bae Abertawe.

Milky Way above coast.
dark skies above Worm's Head.
Milky Way above sea cove.

Awyr dywyll Y Knave, Rhosili a'r Pwll Glas, Gŵyr, Gorllewin Cymru

Mae llefydd i aros yng Ngŵyr yn cynnwys:

 

Syllu ar y sêr

Efallai mai dyma lle mae’r rhan fwyaf o boblogaeth Cymru’n byw, ond mae dianc rhag llygredd golau Caerdydd a Chasnewydd yn haws na’r disgwyl. Gallech chi anelu am ran ddeheuol Gwarchodfa Ryngwladol Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog, neu roi cynnig ar un o’r nifer o leoliadau yn Sir Fynwy neu Fro Morgannwg.

 

Sir Fynwy

Mae yn Sir Fynwy nifer o leoliadau lle gallwch chi syllu ar y sêr, yn cynnwys Priordy Llanthony, Canolfan Ymwelwyr Cei Goetre a’r Gamlas, a chestyll Cil-y-coed, Ynysgynwraidd a’r Fenni.

Mae Castell y Fenni yn Safle Darganfod Awyr Dywyll, yn cynnal digwyddiadau, cyfleoedd i syllu ar y sêr a thywysyddion i ddangos awyr y nos i chi drwy gydol y flwyddyn. Mae hefyd digon i’w wneud yn ardal y Fenni, yn cynnwys digon o lefydd i fwyta ac yfed, felly beth am aros a chrwydro’r ardal yn ystod y dydd hefyd!

Mae llefydd i aros yn Sir Fynwy yn cynnwys:

Bro Morgannwg

Gall y pentir hwn ar arfordir yr As Fawr ym Mro Morgannwg fod yn wyntog iawn ar brydiau, ond bydd awyr y nos yma yn sicr o ddwyn eich gwynt chithau. Parciwch ym maes parcio Nash Point, sydd wrth ymyl o goleudy a mwynhewch lymaid bach cyn syllu ar y sêr yn yr Horseshoe Inn.

Mae llefydd i aros ym Mro Morgannwg yn cynnwys:

  • The Golden Mile Country Inn, wedi ei leoli mewn ardal wledig rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a’r Bont-faen.
  • St Bridget's Farmhouse B&B, lle bwtîc i oedolion yn unig â mynediad rhwydd at Lwybr yr Arfordir.
  • May Tree Cottage, ysgubor garreg wedi ei throi’n llety â golygfeydd o’r Mynyddoedd Duon ac a drysau digon llydan i gadeiriau olwyn.
  • Hide at St Donats, dyma le sy’n cynnig golygfeydd di-dor o donnau gwyllt y môr ger Llanilltud Fawr.
Milky Way above beach.
milkway above lighthouse.
bioluminescence in shallows of bay at night.

Awyr dywyll a bioymoleuedd, Monknash, Bro Morgannwg

Darganfyddwch ragor am brofiadau syllu ar y sêr yng Nghymru

Os ydych chi’n dechrau ar eich taith syllu ar y sêr, cymerwch olwg ar bum lle gorau’r ffotograffydd seryddol, Alyn Wallace. Os ydych chi’n awyddus i geisio tynnu ambell lun eich hunan, mae’r ffotograffydd seryddol, Alyn Wallace, wedi nodi ambell awgrym i’ch helpu chi i ddechrau tynnu lluniau.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wybodaeth am syllu ar y sêr yng Nghymru, neu cymerwch olwg ar wefan Profi’r Tywyllwch Cymru i weld map lleoliadau awyr dywyll.

Mae cannoedd o lefydd eraill ar draws Cymru hefyd, o Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll llai a hawdd eu cyrraedd i Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Felly, dewiswch noson ddi-leuad, ewch â chadair gwersylla, het wlanog a fflasg o rywbeth cynnes gyda chi, ac fe gewch chi brofi holl gyfrinachau’r nos.

Straeon cysylltiedig