Mae Pen y Fan yn un o deithiau cerdded mwyaf poblogaidd Cymru. Pan fydd y tywydd yn braf, mae'r golygfeydd yn odidog. Milltiroedd ar filltiroedd o fryniau tonnog, a chlogwyni serth o'u cwmpas. Ond, fel Yr Wyddfa, gall y llwybrau fynd yn brysur iawn. Felly, dros yr haf beth am roi cynnig ar y Mynyddoedd Duon cyfagos neu Fynyddoedd Cambria - yn enwedig os ydych chi'n hoffi cerdded heb lawer o bobl eraill o gwmpas.
Os byddwch yn dewis cerdded Pen y Fan, cadwch at y llwybrau sydd wedi'u nodi a byddwch yn ofalus - mae rhai rhannau'n serth iawn. Hefyd, cofiwch barcio mewn mannau parcio dynodedig yn unig.
Felly 'pa mor anodd yw cerdded i fyny Pen y Fan? Wel, mae'n dibynnu'n llwyr pa lwybr rydych chi'n ei ddewis. Y newyddion da yw gall plant egnïol fwynhau'r llwybr cyntaf ar y rhestr yma - a bydd cerddwyr mwy profiadol wrth eu bodd â'r gweddill.
Cyn cychwyn, gwiriwch y sefyllfa ddiweddaraf o ran y llwybrau a'r tywydd ar wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu eu ffrwd Twitter @BreconBeaconsNP.
Yr un addfwyn: y daith gerdded o'r Storey Arms neu Bont ar Daf
Pellter: 4 milltir/6.5km
Amser: Tua 3-4 awr
Sialens: Hawdd
'Y Draffordd' yw hon yn ôl y selogion, ond maent hwythau'n gwirioni ar y llwybr serch hynny. Byddwch yn cerdded mewn cylch o Ganolfan Awyr Agored Storey Arms neu faes parcio Pont ar Daf gerllaw, ac fe fyddwch chi wrth eich bodd. Mae'r man cychwyn tua 440 metr uwchlaw lefel y môr, ac felly mater cymharol fach yw dringo i gopa 886 metr Pen y Fan. Does dim byd yn fach am y rhostir gwyllt, agored ar y ffordd. Mae'r golygfeydd yn mynd â'm gwynt wrth i mi frasgamu yn fy mlaen.
Pan fo'r tywydd yn braf mae hyd yn oed plant bach yn medru mynd ar hyd y llwybr hwn. “Fe fyddwn ni'n dod y ffordd yma sawl gwaith bob blwyddyn,” meddai Michael Rhys, tad i dri o blant o Gaerdydd, sydd wedi dod am dro gyda'i deulu. “Rydw i wedi bod yn dod yma ers pan oeddwn i'n fachgen bach. Mae'r ieuengaf gen i wedi cerdded y llwybr ar ei hyd ddwywaith yn barod, a dim ond chwech oed ydy hi. Gallech chi alw hyn yn fynydda i ddyn diog, ond does dim o'i le â chael y plant i fwynhau eu hunain yn yr awyr agored.”
Y daith fawr: Cylchdaith y Bannau
Pellter: 11 milltir/18.5km
Amser: Tua 7-8 awr
Sialens: Anodd
Copa Pen y Fan yw'r un uchaf yn y Bannau, ac mae'n lle arbennig iawn. Ar ben y mynydd fe welaf gerddwyr yn sefyll ar ben y garnedd i dynnu hun-luniau. Maent yn llawn haeddu dangos eu hunain – wedi'r cyfan, dyma'r man uchaf yn neheubarth Prydain, a'r canolbarth yn ymestyn fel cwrlid gwyrdd i bob cyfeiriad oddi tanom.
Heblaw am Ben y Fan, mae llawer o gopâu a chribau eraill yng nghanol y Bannau lle gallwch fynd i gerdded. Wrth ddilyn cylchdaith gyffrous am 11 milltir o'r Storey Arms, gallwch hefyd roi cynnig ar Gorn Du (873 metr) a'r Cribyn (795 metr). “Fentrwn i fyth beidio â mynd i ben Corn Du pan fyddaf yn dringo Pen y Fan,” meddai Darren James, cerddwr profiadol sy'n cael seibiant am lymaid o goffi ar gopa gwastad Corn Du. “Roedd pobl yn claddu'r meirw ar y ddau gopa yn yr Oes Efydd, does dim dwywaith fod rhywbeth hudolus amdanyn nhw.”
Y daith dawel: cerdded o Gwm Gwdi drwy Gwm Llwch
Pellter: 7.5 milltir/12km
Amser: Tua 5 awr
Sialens: Anodd
Fe gewch chi her wrth ddringo am 7.5 milltir ar hyd y llwybr hwn, sy'n dechrau i'r gogledd o Ben y Fan ym maes parcio Cwm Gwdi (310 metr) ac yna'n mynd ar hyd hen, hen ffordd i fyny at grib Cefn Cwm Llwch a Phen y Fan (886 metr), lle cewch chi olygfeydd rhyfeddol dros Nant Sere tua'r dwyrain a Llyn Cwm Llwch i'r gorllewin.
Yn ôl y sôn, os sefwch chi ar gopa Pen y Fan a throi'ch golygon tua'r gogledd-orllewin, gallwch weld yr holl ffordd i Eryri. Efallai y byddai gobaith gyda sbienddrych, ar ddiwrnod braf. Heddiw, dim ond rhyw haul gwan sy'n dod drwy'r cymylau a'r glaw mân, ond ta waeth – dwi'n cael gweld enfys ysblennydd yn codi dros y bryniau, fel rhuban lliwgar.
Y daith galed: cerdded y cwbl lot
Pellter: 10 milltir/16km
Amser: Tua 5-6 awr
Sialens: Anodd
Daw'r amser i mi gerdded ar hyd fy llwybr olaf, ac mae'n glamp o daith. Dyma gylchdaith heriol sy'n mynd am naw milltir o Goed Taf Fechan i fyny i Gorn Du (873 metr), Pen y Fan (886 metr), Cribyn (795 metr) a Fan y Big (719 metr), yr un gyda'r graig fel bwrdd plymio, cyn dod yn ôl drwy'r Neuadd.
Mae'n creu argraff fawr o'r cychwyn cyntaf, gyda golygfeydd godidog i fyny'r dyffryn i Ben y Fan. Dwi'n stryffaglu braidd i fyny'r rhiw serth i ben Craig Fan Ddu, ond mae'n werth cyrraedd y copa i weld ehangder y dyffrynnoedd rhewlifol mawreddog a'r barcutiaid coch yn hofran uwchben. Yn ymuno â fi ar y grib mae Marianne Bailey, cerddwr brwd sydd wedi dod â'i labrador sionc am dro. “Mae'n glamp o ffordd, hon sydd orau gennym ni,” meddai. “Mae'r awyr mor eang, ac yn edrych yn ddigon agos i'w gyffwrdd. Mae'n deimlad anhygoel.”
Cadwch yn ddiogel
Cyn mynd allan i grwydro edrychwch ar y wybodaeth yma am gadw’n ddiogel yn y parciau Cenedlaethol a chofiwch...
- Wirio'r rhagolygon tywydd bob amser - gall y tywydd newid yn sydyn ar y mynyddoedd. Ar ddiwrnodau poeth bydd angen eli haul a digon o ddŵr arnoch.
- Paratowch eich dillad a'ch cit yn ofalus. Argymhellir esgidiau cerdded.
- Cadwch gŵn ar dennyn a chadwch lygad ar blant bob amser - yn enwedig wrth y copa.
- Mae gan Adventure Smart Cymru ddigon o gyngor ar sut i ‘wneud diwrnod da yn well’ - darllenwch eu cyngor cyn cynllunio’ch diwrnodau allan.
- Mae Traveline Cymru yn ddefnyddiol i drefnu'ch taith ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Mae yna nifer o apiau a mapiau ar-lein lle gallwch chi i ddod o hyd i leoliad pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru.
- Defnyddio pwyntiau ail-lenwi gerllaw i lenwi'ch potel ddŵr. Dysgwch fwy, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap Ail-lenwi rhad ac am ddim ar wefan Ail-lenwi Cymru.