Gweld sêr
Yn 2012 Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd y Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf yng Nghymru (a’r bumed yn y byd). Oherwydd ei ddiffyg llygredd golau, dyma’r lle perffaith ar gyfer gwylio’r sêr. Ar noson glir, mae’r awyr yn flanced lachar o gyrff nefol, a cheir golygfeydd arbennig o’r Llwybr Llaethog, nifylau pell a sêr gwib. Mae nosweithiau gwylio sêr awyr dywyll yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus, felly gwiriwch dudalen digwyddiadau'r Parc Cenedlaethol i gael y manylion diweddaraf.
Chwilio am farcud coch
Roedd yr aderyn eiconig hwn, a enwyd yn Aderyn Swyddogol Cymru yn 2000, ar un adeg yn wynebu difodiant yn yr ardal hon. Diolch i ymdrechion cadwraeth ymroddedig, maent i’w gweld yn gyson bellach yn yr awyr yng Nghanolbarth a De Cymru. Does dim rhaid i chi fod yn adarwyr profiadol i’w hadnabod – cadwch lygad am eu cynffonnau fforchog nodweddiadol.
Ymgolli mewn llyfr da
Mae Gŵyl y Gelli, sy’n ddigwyddiad blynyddol pwysig iawn i’r rhai sydd wrth eu bodd â diwylliant, yn denu awduron, beirdd, gwleidyddion, comedïwyr a phawb arall fwy neu lai i’r Gelli Gandryll am ddeg diwrnod o adloniant sy’n procio’r meddwl. Y Gelli yw’r lle perffaith ar gyfer y wledd o ŵyl ddiddorol hon. Mae’r dref farchnad fach hardd hon yn orlawn o siopau llyfrau, a dyma’r rheswm y caiff ei hadnabod fel prif dref llyfrau ail-law’r byd.
Gemau gwych
Ewch i Lanwrtyd, sydd filltir neu ddwy o ymyl gogleddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn cael anturiaethau chwaraeon sydd ychydig yn wahanol. Nid yw hi’n amlwg yn syth, ond mae’r dref fach hon yn ganolfan fyd-eang ar gyfer chwaraeon amgen fel snorclo cors, sgipio cerrig a rasio cerbydau beiciau mynydd. Mae Pencampwriaethau Snorclo Cors y Byd yn eu 34ain flwyddyn ac yn denu cystadleuwyr o wledydd mor bell ag Iran, Corea a’r Unol Daleithiau. Ymhlith y digwyddiadau eraill mae’r Marathon Dyn yn erbyn Ceffyl a’r Real Ale Wobble, sy’n cyfuno beicio oddi ar y ffordd gyda gweini cwrw lleol.
Ewch o dan yr wyneb
Ewch o dan y ddaear yng Nghanolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru Dan yr Ogof. Profwch fyd tanddaearol o ffurfiadau creigiau anhygoel mewn gofodau llawn atseiniau fel yr Ogof Gadeiriol, a gallwch ddod wyneb yn wyneb â’ch cyndadau yn yr Ogof Esgyrn. Mae hwyl i’w gael hefyd y tu allan i’r ogofâu gan fod yma amrywiaeth o atyniadau fel y parc deinosoriaid (sy’n gartref i dros 200 o greaduriaid cynhanesyddol maint go iawn), canolfan ceffylau gwedd a fferm o’r Oes Efydd.
Ewch ar daith trên
Mae'r Bannau yn enwog am fryniau a mynyddoedd, a pha ffordd well o gyrraedd yno na ar drên stêm! Mae Rheilffordd Mynydd Brycheiniog yn mynd â chi i ganol Bannau Brycheiniog sy'n rhedeg ochr yn ochr â chronfeydd dŵr Pontsticill a Thaf Fechan cyn dringo i Dorpantau. Mae llwyth o deithiau cerdded y gallwch eu gwneud o amgylch y cronfeydd, neu eisteddwch yn ôl a chymryd y golygfeydd o'r trên.
Llawn egni?
Beth am fynd i Ganolfan Weithgareddau Llan-gors. Os ydych yn hoffi uchder, ewch i’r afael â’r Sky Trek Experience, cwrs rhwystrau yn yr awyr gyda gwifrau gwib, ysgolion a mannau croesi trwy ganghennau’r coed. Neu ewch ar gefn ceffyl am daith wledig trwy gefn gwlad wyrdd Bannau Brycheiniog. A pheidiwch â phoeni am y tywydd. Gallwch hefyd ddringo, archwilio ogofâu neu abseilio dan do, ac mae yma weithgareddau ar gyfer ymwelwyr iau.
Blas ar wisgi
Distyllfa Penderyn a lansiwyd yn 2004 ar ochr ddeheuol Bannau Brycheiniog oedd y ddistyllfa wisgi newydd gyntaf yng Nghymru ers dros ganrif. Erbyn heddiw, mae’n frand sy’n adnabyddus ar hyd a lled y byd ac mae wedi ennill nifer o wobrau am ei frag sengl enwog. Mae eu canolfan ymwelwyr wedi ennill gwobrau hefyd, ac mae’n rhoi mewnwelediad rhyfeddol i’r broses o wneud wisgi (yn ogystal â chyfle i flasu ychydig o’r cynnyrch).