Ar ymyl y dibyn ym mhob tywydd
Rhowch gychwyn arni'n ara' deg drwy fynd i ddringo dan do yng Nghanolfan Ddringo Beacon yng Nghaernarfon. Dewch mewn grŵp i gael hwyl ar y waliau amryliw. Mae'r ganolfan hon yn un o'r rhai gorau yn Ewrop, gyda llefydd chwarae i blant a chopa 17 metr o uchder i chi anelu ato.
Yng Nghanolfan Fynydda Blue Peris fe welwch chi wal ddringo'r un mor lliwgar. Maent yn frwdfrydig iawn yma, ac fe gewch eich annog i roi cynnig ar bob math o bethau fel caiacio ger glannau Ynys Môn ac abseilio ym mynyddoedd Eryri. Erbyn diwedd pob sesiwn byddwch yn teimlo'n ddigon cartrefol yn eich harnais a'ch helmed, ond fe gewch chi gyffro mawr hefyd.
Antur amdani
Rhowch gynnig ar ddringo creigiau, gwneud rafft neu hyd yn oed neidio o ben clogwyn o dan oruchwyliaeth hyfforddwyr brwdfrydig a phrofiadol, ac ewch i grwydro dros greigiau'r ardal gyda chymorth Canolfan Fynydda Cymru ym Mhlas y Brenin. Maent yn cynnig cyrsiau arbennig i ddringwyr dibrofiad sydd ag awydd mynd am antur.
Mae degau o ganolfannau eraill sy'n cynnig lle i aros ar y safle - yng Nghanolfan Fynydda Bryn Du a Chanolfan Chwaraeon Dŵr Llyn Padarn yn Eryri cewch ddewis rhwng aros mewn tŷ Fictoraidd gyda gerddi o'ch cwmpas neu gael llety mewn Canolfan Chwaraeon Dŵr ar lannau Llyn Padarn, a gallwch fynd i sgrialu ar hyd y llethrau neu ddringo'r creigiau yng nghyffiniau Betws-y-coed.
Yng nghanolfan Open Door maen nhw'n ymfalchïo yn y gwasanaeth cyfeillgar a gewch chi wrth fagu hyder yn yr awyr agored, ac mae Anglesey Adventures yn rhoi gwersi i alluogi dechreuwyr i wneud y gorau o'r dirwedd naturiol fendigedig yma.
Wrth eistedd o flaen y cyfrifiadur, efallai ei bod yn anodd dychmygu'ch hun yn siglo ar drapîs, ond mae Ropeworks yn ffyddiog y gallant droi unrhyw un yn acrobat wrth eu paratoi ar gyfer yr Her Uchel arbennig. Mae ganddynt wal ddringo i blant, a gall y teulu oll fynd gyda'i gilydd ar yr Antur yn yr Awyr.
Golygfeydd godidog o'r clogwyni
Os mai dringo clogwyni'r arfordir sy'n mynd â'ch bryd chi, gadewch i Mountaineering Joe eich tywys ar brofiad anhygoel ger y glannau ar Ynys Môn. Wedyn mae llwybrau hir drwy'r mynyddoedd, creigiau i'w dringo a chlogwyni aruthrol yn eich disgwyl wrth fynd ar daith â'r Rock Climbing Company, sy'n mynd â phobl i anturio ym Mharc Cenedlaethol Eryri, a gall Snowdonia Mountaineering gynnig saith gwahanol fath o graig i chi fentro arnynt, wrth i chi ddysgu'r hanfodion o osod eich rhaffau a gwneud eich ffordd yn uwch tua chrib y clogwyn.
Mae'n syndod mor ddewr y gallwch chi fod weithiau.