Cychwyn yn ei chanol hi
Ble fyddai’r lle gorau i ddechrau, tybed? Beth am gychwyn arni yn Aberhosan, nid nepell o Fachynlleth, a chrwydro’n braf am 10.8 cilomedr / 6.7 milltir yn y Canolbarth. Ewch ar hyd ran o lwybr cenedlaethol Llwybr Glyndŵr, heibio cerflun er cof am yr hybarch ddarlledwr ac awdur, Wynford Vaughan Thomas, a gweld Cader Idris yn ei holl ogoniant. Wrth grwydro 540 erw Gwarchodfa Natur Glaslyn fe gewch chi gip ar adar ysglyfaethus fel y barcud coch, y cudyll bach a’r hebog tramor.
Croesor i'r Cnicht
Wrth feddwl mynd am dro bach hamddenol, efallai na fyddech chi’n ystyried dringo Matterhorn Cymru. Ond coeliwch neu beidio, mae’r llwybr hwn sy’n mynd am 6.3 cilomedr / 3.9 milltir o bentref bach Croesor i gopa’r Cnicht yn llawer haws na mae’n swnio. O’r copa fe gewch hefyd weld golygfeydd panoramig o fynyddoedd Eryri.
Rhodio'r Rhaeadrau
Mae'r Rhaeadr Fawr yn disgyn 120 troedfedd (37 metr) a dyma’r prif atyniad ar y llwybr hwn sy’n mynd am 7.5 cilomedr / 4.7 milltir ger Abergwyngregyn, hen gadarnle Tywysogion Gwynedd. Byddwch hefyd yn cerdded ar hyd rhannau o Lwybr y Gogledd a Llwybr y Pererin, lle dewch chi ar draws amrywiaeth o aneddiadau o’r Oes Efydd a meini hirion.
Pen-y-fâl
Fe welwch chi gopa pigfain Pen-y-fâl o bell yng nghyffiniau’r Fenni. Mae llwybr 7.4 cilomedr / 4.6 milltir yn mynd mewn cylch o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle cewch chi olygfeydd godidog o’r Mynydd Du a Bannau Brycheiniog, yn ogystal ag aber Afon Hafren draw tua’r de.
Llecyn teg y Tŷ Hyll
Mae rhai sy'n dotio at yr awyr agored ar ben eu digon ym Metws-y-Coed yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri wrth gwrs. Ar hyd y llwybr hwn byddwch yn cerdded am 6.1 cilomedr / 3.8 milltir drwy goedwigoedd, dros Bont y Mwynwyr, heibio’r Rhaeadr Ewynnol ac ar hyd glannau prydferth Afon Llugwy, cyn i chi gyrraedd y Tŷ Hyll, bwthyn hardd sy’n llawn dirgelwch. Mae rhai’n sôn mai lle i ladron guddio yn y bymthegfed ganrif oedd hwn, a bydd rhai eraill yn dweud wrthych mai ffoledd o Oes Fictoria yw’r tŷ – pwy a ŵyr? Does dim amheuaeth am ansawdd y mêl sydd yn y cychod gwenyn yng ngardd y bwthyn, na’r amrywiaeth helaeth o gynnyrch cartref a gewch chi yn ystafell de Pot Mêl.
Ewch am dro o gwmpas Llangollen...
Mae’r llwybr 8.8 cilomedr / 5.5 milltir hwn yn nhref brydferth Llangollen yn mynd â chi o’r bont a godwyd dros Afon Dyfrdwy yn y 14eg ganrif ac ar daith fendigedig drwy ardal sydd ag iddi hanes cyfoethog. Abaty Glyn y Groes oedd yr abaty Sistersaidd olaf a adeiladwyd yng Nghymru, ar droad y 13eg ganrif. Rai degawdau’n ddiweddarach adeiladwyd Castell Dinas Brân yn gadarnle i Dywysogion Powys, ar safle bryngaer o’r Oes Haearn a godwyd chwe chan mlynedd cyn Crist. Ac er bod Camlas Llangollen yn fwy newydd, mae’n un arall o’r perlau sy’n eich disgwyl wrth fynd am dro yn Sir Ddinbych.
Cwta ugain milltir o Langollen saif Bryniau Clwyd, lle gewch chi amser braf a hamddenol yn cerdded ar y llwybr 11.2 cilomedr / 7 milltir sy’n mynd drwy’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a golygfeydd bythgofiadwy o’r llecyn bendigedig hwn.
Cerdded Caerdydd
Mae llefydd campus i fynd am dro yng nghyffiniau Caerdydd. Un o’r llwybrau gorau yn yr ardal yw’r un 8.9 cilomedr / 5.5 milltir sy’n mynd drwy bentref Gwaelod-y-garth dros Fynydd y Garth, a fu’n ysbrydoliaeth ar gyfer ffilm Hugh Grant, The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain, mae’n debyg. Mae’n werth mentro i ben Mynydd y Garth i weld y golygfeydd hyfryd o Gaerdydd a Môr Hafren.
Cerdded yn ôl drwy hanes...
Cerddwch mewn cylch am 6.6 cilomedr / 4.1 milltir o bobtu’r ffin yn Sir Fynwy ar lwybr Wintour's Leap. Mae’r daith yn dechrau yn nhref hynafol Cas-gwent, lle mae’r castell cerrig hynaf ym Mhrydain, a godwyd yn yr 11eg ganrif. Aiff y llwybr drwy bentref diffaith Llan Cewydd tuag at Wintour’s Leap – clogwyn 200 troedfedd o uchder lle soniwyd fod yr haearnfeistr Syr John Wintour a’i geffyl wedi neidio dros y dibyn i’r afon i ddianc rhag y Seneddwyr oedd ar eu gwarthaf yn ystod y Rhyfel Cartref.