Biwmares – Priordy Penmon, Sir Fôn
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd heibio i ddrws ffrynt Priordy Penmon a ffynnon pererinion Sant Seiriol. Mae'n fan hudolus; mae yna awyrgylch arbennig a golygfeydd o fynyddoedd Eryri. Mae castell rhestredig Unesco gerllaw hefyd ym Miwmares.
Porthgain, Sir Benfro
Mae'r daith gerdded o Borthgain i Abereiddi mor brydferth ar hyd yr arfordir hwn fel bod y rhan fwyaf o gerddwyr yn anghofio am ei dreftadaeth ddiwydiannol. Ac eto mae’r hopranau brics rhestredig ym Mhorthgain yn adrodd am gyfnod ffyniant yr harbwr a phan fyddai’n allforio cerrig ar gyfer adeiladu ffyrdd ar ddechrau’r 1900au - ystyr Porthgain yw ‘Chisel Port’ - ac mae Lagŵn Glas enwog Abereiddi yn gyn chwarel lechi. Mae'r daith am yn ôl tua'r tir yn dilyn yr hen dramffordd rhwng y ddau leoliad.
Aberdaron - Mynydd Mawr, Eryri
Byddwch yn cerdded yn ôl traed beirdd a phererinion ar gylchdaith Aberdaron i Fynydd Mawr. Roedd RS Thomas, y bardd Cymreig, ynghyd â chanrifoedd o bererinion yn ymweld ag Eglwys Sant Hewyn yn Aberdaron. Roedd yn parhau'r daith i gyfeiriad Ynys Enlli, ynys yr 20,000 o seintiau, sydd wedi’i lleoli rhyw ychydig oddi ar Benrhyn Llŷn.
Darllen Mwy: Grym hynod Ynys Enlli
Taith Tyddewi, Sir Benfro
Mae Taith Tyddewi yn cychwyn yng nghapel canoloesol Santes Non, man geni Dewi Sant yn ôl y sôn, ac yn mynd rownd i Borth Clais, harbwr ers cyfnod y Rhufeiniaid lle dywedwyd i’r sant gael ei fedyddio. Mae’r uchafbwynt ar y diwedd – dychwelyd drwy eglwys gadeiriol dinas leiaf Prydain, adeilad sy’n dyddio o’r 12fed ganrif.
Taith Branwen, Harlech
Mae Castell Harlech mor drawiadol nes iddyn nhw ysgrifennu cân amdano, ‘Gŵyr Harlech’, a rhoddodd UNESCO y castell ar restr Treftadaeth y Byd. Mae taith Branwen yn cynnwys y gaer ganoloesol nerthol honno, un o’r traethau gorau ar arfordir Ceredigion a chopaon Eryri yn gefndir iddi.
Creigiau Ystagbwll - Capel Sant Gofan
Mae'r daith gerdded hon yn mynd â chi o Gei Ystagbwll i Gapel Sant Gofan. Does neb yn gwybod yn union pryd y codwyd Capel Sant Gofan. O leiaf 1,000 o flynyddoedd yn ôl. 1,400 efallai. Does neb ychwaith yn sicr am y grisiau; dywed y chwedl bod eu rhif yn newid pan fyddwch chi'n cerdded i fyny ac i lawr.
Taith Gerdded Dylan Thomas, Talacharn
Dim ond yn Nhalacharn Dylan Thomas y gallwch chi ddilyn 'a heron priested shore'. Dilynwch daith gerdded pen-blwydd Dylan Thomas o amgylch yr aber ac ewch i’r Boathouse lle’r arferai bardd enwocaf Cymru ysgrifennu, ac adfeilion castell canoloesol Talacharn. Gobeithio y llwyddwch i osgoi 'the pale rain over the dwindling harbour''. Os na, gwnewch fel y gwnâi Dylan: ewch am beint i Browns Hotel.
Maenorbŷr - Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
Crwydrwch gastell Normanaidd ac eglwys gyfoes ym Maenorbŷr – ‘llecyn mwyaf dymunol Cymru’ meddai’r croniclydd o’r 12fed ganrif, Gerald Cambrensis, man y gellir ei gyrraedd heddiw ar drên o Ddinbych-y-pysgod. Yna dodwch y môr ar y dde i chi er mwyn darganfod siambr Neolithig, King’s Quoit, ynghyd â golygfeydd o’r môr cyn cyrraedd traeth Burrows a thref gaerog Dinbych-y-pysgod.
Conwy - Llandrillo-yn-rhos, Gogledd Cymru
Castell Conwy sydd wedi ei restru fel Safle Treftadaeth y Byd a Chapel Sant Trillo’r Rhos o’r 6ed ganrif, yw'r ddau leoliad ar bob pen i’r daith gerdded hon. Yn y canol mae cyrchfan draddodiadol orau Cymru, Llandudno; enwebodd Bill Bryson yn lle fel ei ffefryn oherwydd y pier Fictoraidd. Am y profiad llawn, dewch i lawr o bentir y Gogarth ar dram Fictoraidd.
Castell Oxwich, Gŵyr
Roedd Syr Rice Mansel ar drywydd Penrhyn Gŵyr ymhell cyn i’r lle gael ei glustnodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – yr ardal gyntaf ym Mhrydain. Adeiladodd ei faenor yn yr 16eg ganrif er mwyn manteisio ar yr olygfa orau yn Oxwich.