Mae nofio mewn dŵr agored yn brofiad hollol wahanol i nofio mewn pwll nofio sy'n ei wneud yn hyfryd ac yn heriol. Cyn i chi gychwyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer heriau’r amgylchedd naturiol fel dŵr oer, cerrynt anweledig, a thonnau. Ymunwch â chlwb lleol neu dysgwch gan arbenigwyr cyn mentro - rydym yn argymell defnyddio tywysydd neu nofio dan oruchwyliaeth gyda chlwb mewn dŵr agored. Darllenwch fwy o awgrymiadau ar sut i nofio'n ddiogel a sut i gadw'n ddiogel ar arfordir Cymru.
P'un a ydych chi'n nofiwr gwyllt profiadol, neu eisiau trochi'ch traed am y tro cyntaf. Dyma ein hawgrymiadau ar gyfer lleoliadau gwych i nofio’n wyllt yng Nghymru.
Llyn Padarn, Eryri
Mae nofio yn Llyn Padarn yn rhoi golygfa unigryw o'r Wyddfa i chi. Mae’r llyn hwn wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei ddaeareg ynghyd â’r blodyn gwyn tlws - llyriad-y-dŵr arnofiol, a’r torgoch Arctig, pysgodyn prin a ddaeth yn ynysig yn y llyn ar ôl yr Oes Iâ. Mae Llyn Padarn wedi’i ddynodi’n Ddŵr Ymdrochi, sy’n golygu bod ansawdd ei ddŵr yn cael ei fonitro drwy gydol yr haf. Mae’r pontŵn yn Y Glyn, Llanberis yn lle gwych i nofio ohono. Os ydych chi'n newydd i nofio gwyllt neu eisiau awgrymiadau da, cofrestrwch am sesiwn nofio â chymorth gyda Chwaraeon Dŵr Eryri sydd wedi'i leoli gerllaw.

Porthdinllaen, Pen Llŷn
Cildraeth tywodlyd perffaith sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Man perffaith i nofio, cadw llygad am forloi yn torheulo ar y creigiau a gwrando am alwadau mesmerig piod y môr ac adar arfordirol eraill. Nid oes achubwyr bywyd ar y traeth hwn, felly cofiwch gadw o fewn eich galluoedd nofio. Wedi hynny, torrwch syched yn nhafarn enwog Tafarn y Tŷ Coch ar lan y môr.

Porth Oer, Pen Llŷn
Gelwir Porth Oer yn Whistling Sands yn Saesneg oherwydd bod y gronynnau yn gwichian dan draed, sy'n adleisio nodau pibau pan fydd y gwynt yn chwythu i mewn o'r gorllewin. Mae’r llecyn hudolus hwn yn un o gyfres o gildraethau perlog a ffurfiwyd wrth i fynydd arfordirol gogledd-orllewinol y penrhyn ildio i weundir. Mae'n eithaf anghysbell ac nid oes achubwyr bywyd felly cymerwch ofal. Mae yna gaffi bach yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y traeth i gael tamaid i'w fwyta neu yfed.

Bae Caswell, Abertawe
Mae traeth Bae Caswell yn draeth tywodlyd rhyfeddol, deg munud mewn car o'r Mwmbwls. Yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr a phobl leol, gall fod yn brysur ar benllanw ond anelwch yno pan fo’r llanw yn y canol neu ar drai ac mae lle i bawb. Mae achubwyr bywyd ar y traeth yn ystod misoedd yr haf, cofiwch gadw o fewn y baneri coch a melyn.
Llyn Llandegfed, Pont-y-pŵl a Llys Y Fran, Sir Benfro
Os ydych yn ‘nofiwr’ yn hytrach na ‘throchwr’ ewch i Lyn Llandegfedd neu Lyn Llys y Fran. Mae'r ddau yn eiddo i Dŵr Cymru ac wedi'u hachredu fel safleoedd S.A.F.E Cymru Nofio Cymru. Os ydych yn nofiwr hyderus gallwch roi cynnig ar y cyrsiau amrywiol sy'n amrywio o tua 100m - 300m, i gyd gyda goruchwyliaeth achubwr bywyd. Byddwch yn dechrau gyda sesiwn cynefino - fel arfer cynhelir y rhain o fis Mai i fis Hydref, ac ar ôl hynny gallwch wisgo'ch gogls a mynd amdani. Gall nofio heb awdurdod mewn cronfeydd dŵr fod yn berygl i fywyd, felly mae’r sesiynau hyn dan oruchwyliaeth yn ffordd berffaith o fwynhau’r dŵr yn ddiogel.
Traeth y Borth, Ceredigion
Mae dyfroedd bas a bron i dair milltir o dywod euraidd yn golygu mai Traeth y Borth, gyda'i Faner Las a Gwobr Glan Môr, yw un o fannau gorau Ceredigion i fentro i'r dyfroedd. Mae clogwyni Craig yr Wylfa yn cynnig cysgod ym mhen deheuol y traeth o'r gwyntoedd de-orllewinol - mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd yn ystod misoedd yr haf felly cadwch lygad am eu baneri. Os ydych chi ffansi nofio gyda chwmni yna ymunwch â'r Aberystwyth Bluetits Chill Swimmers.


Traeth Whitesands yn Sir Benfro
Ychydig iawn o leoedd sy’n fwy prydferth i nofio na Bae Whitesands, sy'n cael ei ddominyddu gan Garn Llidi creigiog. Beth am oedi i drochi wrth i chi gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro, neu dreulio'r diwrnod yn nofio ac yn gwylio'r syrffwyr yn reidio'r tonnau. Mae parcio'n gyfyngedig felly beth am ddal y bws gwennol Y Gwibiwr Celtaidd. Mae achubwyr bywyd ar draeth Whitesands.

Bae Tor, Abertawe
Nid oes achubwyr bywyd ar draeth Bae Tor felly dyma’r lle i’r nofwyr gwyllt mwy profiadol, ond os ydych yn hyderus yn eich gallu ac eisiau dod o hyd i fae hardd, tawelach mae hwn yn berffaith i chi. Ychydig oddi ar y prif lwybr gallwch gerdded o bentref Penmaen a fydd yn cymryd tua 20 munud. Ar ôl nofio ewch am dro i gael golygfeydd anhygoel o Fae'r Tri Chlogwyn a Bae Oxwich.

Byddwch yn ddiogel!
Gall arfordir Cymru fod yn llawer o hwyl ac mae’n cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer gweithgareddau anturus, ond darllenwch am y risgiau a gwnewch yn siŵr eich bod yn barod.
- Dilynwch yr awgrymiadau hyn gan yr RNLI ar gyfer cadw'n ddiogel ar arfordir Cymru.
- Ewch i AdventureSmart.uk i gael rhagor o wybodaeth am sut i gadw'n ddiogel wrth grwydro Cymru.