Wyddoch chi mai’r lle mwyaf diogel i nofio neu gorff-fyrddio yw rhwng y baneri coch a melyn? Dyma rai o’n ffefrynnau ni ar gyfer hwyl i’r teulu, fforio mewn pyllau creigiog, chwaraeon dŵr cyffrous, a sglaffio hufen iâ. I gael rhestr gyflawn o draethau Cymru ble ceir achubwyr bywyd, ewch i wefan yr RNLI.
Bae Whitmore, Ynys y Barri – hwyl i’r teulu
Daeth Ynys y Barri’n enwog dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd y cysylltiad â Gavin and Stacey, ond mae’r lle wedi denu ymwelwyr ers y 1870au, ac mae apêl y traethau euraidd, y caffis a’r adloniant teuluol yn fwy nag erioed. Mae Parc Pleser Ynys y Barri’n denu miloedd o ymwelwyr sy’n chwilio am ias cyffro’r ffair. Yma hefyd gallwch ymweld â phrofiad RNLI Ynys y Barri, ble gall yr holl deulu gael tro mewn bad achub y glannau a dysgu popeth am fod yn ddiogel ar y traeth. Edrychwch am yr esgid law fawr felen.
Rest Bay, Porthcawl – chwaraeon dŵr ar eu gorau
Mae Rest Bay yn draeth poblogaidd â milltiroedd o dywod euraidd o safon uchel, ac ambell bwll creigiog. Y tu cefn i’r traeth ceir creigiau isel a Chlwb Golff Royal Porthcawl. Dyma draeth rhagorol ar gyfer chwaraeon dŵr, syrffio traeth, canŵio, barcudsyrffio neu syrffio gwynt a chorff-fyrddio; mae Academi Syrffio’n cynnig gwersi yn ystod y tymor brig. Lle delfrydol i gerdded – gallwch gerdded ar hyd yr arfordir i’r Bae Pinc a thu hwnt.
Traeth Aberafan, Port Talbot – sglaffio hufen iâ
Gall Traeth Aberafan gynnig rhywbeth at ddant pawb. Does dim angen i deuluoedd fynd fodfedd ymhellach i ddarganfod pethau i’w gwneud ar un o draethau tywodlyd hiraf Cymru, sy’n cynnwys maes chwarae Aquasplash, ardaloedd chwarae i blant a digonedd o lecynnau glaswelltog agored ble gallwch ddiddanu’r teulu am oriau. Mae’r Llwybr Celtaidd, rhan o’r rhwydwaith seiclo cenedlaethol, yn mynd â chi ar hyd y prom yn Aberafan ac mae’n un o’r darnau mwyaf hamddenol a phleserus, gan gynnig golygfeydd bendigedig a dewis ardderchog o barlyrau hufen iâ a chaffis.
Bae Caswell, Gŵyr – pyllau creigiog i’w harchwilio
Mae Bae Caswell, gyda’i dywod meddal, dymunol, a’i byllau creigiog diddorol, yn ffefryn gan deuluoedd sydd â phlant bach. Ceir creigiau sylweddol y tu cefn i’r tywod, ac mae digonedd o lwybrau arfordirol sy’n cynnig golygfeydd ysgubol dros y bae, ble gallwch weld cip ar ogledd Sir Ddyfnaint ar draws Môr Hafren ar ddiwrnod clir. Gerllaw, ceir gwarchodfa natur Coed yr Esgob, sy’n cynnig dewis amrywiol o fywyd gwyllt a llwybrau natur hardd. Mae Bae Caswell yn addas i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr.
Cefn Sidan, Sir Gaerfyrddin – mynediad hawdd
Disgrifiwyd Cefn Sidan fel un o draethau gorau Ewrop, ac mae’r traeth euraid wyth milltir o hyd yn un o drysorau pennaf Parc Gwledig Pen-bre. Mae’r traeth hwn, gyda’i achubwyr bywyd a’i dywod gwastad, yn lle diogel a chyfeillgar sy’n hawdd mynd iddo, ac mae yma gyfleusterau rhagorol i ymwelwyr anabl a phlant bach.
Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro – golygfeydd deniadol
Traeth tywodlyd, cysgodol, rhagorol, â phinacl Craig Goskar yn bigfain yn ei ganol. Mae’n bosib mai Traeth y Gogledd yw un o’r golygfeydd y tynnwyd ei lun amlaf yng Nghymru gyfan, gyda’r harbwr yn y pen gorllewinol. Dyma draeth amgaeedig sy’n wynebu’r dwyrain, ac mae’n heulog iawn yma, hyd yn oed ar ddiwrnodau gwyntog. Rhaid i chi fynd i’r gyrchfan brysur hon ar hyd arfordir dramatig sir Benfro, ble ceir chwaraeon dŵr rhagorol ac amrywiaeth dda iawn o gaffis, bwytai, siopau a thafarndai. Yn y pellter, fe gewch gip ar y gorsafoedd bad achub hen a newydd yn pipo heibio i Fryn y Castell – galwch i mewn i weld y criw a’r bad achub os cewch chi gyfle.
Traeth Mawr, Gogledd Sir Benfro – paradwys syrffio
Traeth eang, tywodlyd ym Mae San Ffraid, Sir Benfro, yw Traeth Mawr; fe’i lleolir ddwy filltir i’r gorllewin o Dyddewi, a thua milltir i’r de o Benrhyn Dewi. Dyma un o draethau syrffio gorau’r wlad, ac o ganlyniad mae’n boblogaidd iawn. Mae ‘brêc’ y syrff ar ben gogleddol y traeth, ac ar ddiwrnodau prysur ceir pobl yn canŵio, syrffio a chorff-fyrddio yma, a phawb yn cystadlu am y tonnau gorau.
Llangrannog, Ceredigion – cael cip ar ddolffiniaid
Yn wreiddiol, pentref cudd uwchlaw hen borthladd oedd Llangrannog, ond erbyn hyn mae’n un o gyrchfannau traeth mwyaf poblogaidd y rhan hon o Lwybr yr Arfordir. Mae’r traeth tywodlyd yn swatio islaw creigiau, ac mae’n lle sy’n denu teuluoedd ar ddiwrnod glan-môr, pobl sy’n cael gwyliau traeth a syrffwyr. Ceir pyllau creigiog gwych i’w harchwilio, gallwch ddarganfod gwymon lliwgar, cregyn fel llygad maharen a chragen las, yn ogystal â sêr môr a chrancod. Cadwch lygad barcud, ac efallai byddwch yn ddigon ffodus i weld ddolffiniaid yn y pellter.
Traeth y Gogledd, Aberystwyth, Ceredigion – mynd ar daith drwy amser i Oes Fictoria
Mae Traeth y Gogledd a’r Prom yn ganolbwynt i’r dref ac yn atyniad poblogaidd gan ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd – ac i'r rheiny sydd eisiau ymlacio ar lan y môr. Mae’r traeth o dywod tywyll a graean yn agos i’r dref, ac yn cynnig ffefrynnau glan-môr traddodiadol fel adloniant y bandstand a Phier Fictoraidd y dref. Adeiladwyd Pier Aberystwyth ym 1864, ac ar un adeg roedd yn tua 242 troedfedd o hyd; yn anffodus mae amser a stormydd garw wedi’i fyrhau i 90 metr erbyn heddiw.
Traethau Rhyl a Phrestatyn, Sir Ddinbych – y traddodiad bwced a rhaw
Rhyl a Phrestatyn. Mae’r enwau’n cydweddu fel pysgod a sglodion, Pwnsh a Judy, môr a thywod, gan greu darlun perffaith o wyliau glan-môr traddodiadol yn ei holl ogoniant difalio. Efallai fod yr ardal yn profi gweddnewidiad hollol fodern, ond mae’r trefi hyn yn dal i gynnig hwyl a gwerth am arian, a mwynhau diwrnod hen-ffasiwn bendigedig ar lan y môr. Peidiwch ag anghofio eich bwced a rhaw!
A pheidiwch ag anghofio cadw’n ddiogel, a mwynhewch!