Bywyd gwyllt wnaeth fy nenu i at blymio. Roeddwn i wastad wedi mwynhau snorcelu, a thua deng mlynedd yn ôl meddyliais, 'Aros funud, mae byd cyfan o dan y dŵr i fynd i chwilota ynddo.' Felly, rhoddais gynnig arni ym Mhwll Deri nid nepell o Ben Strwmbl, ac fe ges i fy syfrdanu gan yr amrywiaeth anhygoel o liwiau o dan y don. Dyna wnaeth fy nharo i. Fe agorodd fy llygaid i’r byd newydd yma nad oeddwn i wir yn gwybod ryw lawer amdano. Ac yna fe ddes i allan o’r dŵr a meddwl: 'Ers 40 mlynedd dwi wedi mynd o amgylch Cymru gydag un llygad ar gau.'
Wedi hynny fe wnes i gwrs Dŵr Agored gyda PADI, dechreuais gyflwyno rhaglenni o dan y dŵr, a gwneud fy nghymhwyster Meistr Plymio hefyd, i gyd yng Nghymru – mae’n bwysig ein bod ni'n gwerthfawrogi’r hyn sydd ar garreg ein drws cyn mentro ymhellach. Erbyn hyn dwi wedi plymio dros y lle i gyd – Iwerddon, yr Alban a’r moroedd cynnes ym mhob cwr o’r byd – ond dwi’n dal yn dod yn ôl i Gymru. Mae rhannau o Gymru sydd cystal ag unrhyw le yn y byd.
Mae gennym ni gyfuniad arbennig o greaduriaid dŵr cynnes yn llif y gwlff a rhywogaethau sy’n ffynnu mewn dŵr oer hefyd. Felly, gallwn weld pysgod clicied a gwyntyllau môr yma, ond hefyd pethau fel cimychiaid, crancod sy’n dda i’w bwyta, llysywod môr ac ati. Gyda’r ddau’n byw’n benben â’i gilydd, mae’r amrywiaeth o fywyd gwyllt yn arbennig iawn.
Peth arall yw bod y byd anhygoel hwn mor agos – yn bodoli ochr yn ochr â’n bywydau beunyddiol ni. Pryd bynnag dwi’n mynd i blymio, mae rhyw dawelwch meddwl mawr yn dod drosta’ i. Yn enwedig pan dwi’n ffilmio. Dyna lle’r ydw i gyda mwgwd dros fy wyneb i gyd, a phawb yn ffysian o ’nghwmpas i yn ffidlan gyda’r offer a gwneud yn siŵr fod y camerâu’n gweithio, ac mae meddwl pawb ar waith. Gallwch chi deimlo rhyw fath o banig dan reolaeth ym mhawb. Yna dwi’n mynd o dan y dŵr, ac mae popeth yn mynd yn angof. Dwi’n clywed fy hun yn anadlu ac mae’n lleddfol dros ben. Mi fu bron i mi ddisgyn i gysgu unwaith wrth blymio ger Caergybi. Wir yr!
Dyma’r peth nesaf a gewch chi ym Mhrydain at nofio mewn acwariwm. Anhygoel."
Mae’n rhyfedd. Mae cymaint o bobl yn plymio ar eu gwyliau bellach, heb sylweddoli’r hyn sydd ganddynt gartref. Dwi’n adnabod plymwyr brwd iawn sy’n mynd i blymio yn y Môr Coch neu’r Maldives, ond fyddan nhw byth yn gwneud yng Nghymru. Wrth gwrs, dwi’n deall yr atyniad o ran plymio mewn gwledydd tramor, ond pe bydden nhw’n treulio rhywfaint o amser yn plymio yma - dim ond yn yr haf, hyd yn oed – dwi’n sicr y bydden nhw’n rhyfeddu.
Fy hoff lefydd i blymio yw Ynys Môn a Sir Benfro, ond dwi hefyd wrth fy modd ag un lle ger Aberaeron, yng Ngheredigion. Mae’r dŵr mor llawn o faeth fel bod amrywiaeth aruthrol o fywyd gwyllt yma: anemonïau rhyfeddol o bob math, a chimychiaid di-ri. Dyma’r peth nesaf a gewch chi ym Mhrydain at nofio mewn acwariwm. Anhygoel. Wrth blymio yma mae’n dod yn amlwg i mi mor lwcus ydyn ni i fyw mewn lle fel hyn.