Aberdyfi
Rydym yn haeddiannol falch o'n meysydd golff yma yng Nghymru. Clwb Golff Aberdyfi yw un o'r rhesymau pam. Wedi’i wasgu rhwng twyni arfordir Dyfi a chopaon Parc Cenedlaethol Eryri, lluniwyd ei gynllun gymaint gan fyd natur â'i ddylunwyr dynol, sy'n cynnwys mawrion fel Herbert Fowler a James Braid. Gair i gall serch hynny: bydd chwaraewyr sy'n chwilio am amodau hawdd yn cael eu siomi. Mae gêm yn safle gwyllt a gwyntog Aberdyfi yn brofiad elfennol, yn gyfuniad o dir garw a thywydd garw sy'n cynnig heriau o’r newydd gyda phob rownd.
Conwy
Mae angen i safle fod yn eithaf arbennig i fod yn amlwg yn y byd golff yng ngogledd Cymru sy'n cynnwys bron i 50 o gyrsiau gwych, ond mae cwrs Conwy sy’n gymwys am y Gystadleuaeth Agored yn bendant yn serennu. Mae'n rhaid i unrhyw un sy’n dwlu ar feysydd golff ymweld, am fod yma golff fel y bwriadwyd erioed iddo gael ei chwarae – profiad elfennol sy'n cyfuno peryglon naturiol â dyluniad cwrs gofalus. Mae’n edrych yn weddol wastad ar yr olwg gyntaf efallai, ond mae'r gwyntoedd sy'n chwythu o Fôr Iwerddon yn golygu na allwch gymryd unrhyw beth yn ganiataol. 'Awesome' yw’r gair a ddewisodd Sam Torrance, arwr Cwpan Ryder Ewrop, i ddisgrifio Conwy. Rydym yn siŵr mai cytuno gwnewch chi.
Dewi Sant Brenhinol
Yn enwog am fod yn gwrs par-69 anoddaf y byd, nid cwrs i’r gwangalon mo Dewi Sant Brenhinol. Ar dir a oedd dan y tonnau ychydig ganrifoedd yn ôl, bydd ei dwyni tal a'i ffyrdd teg tonnog gwir yn herio hyd yn oed y mwyaf galluog. Yn cynnwys dewis di-ri o dyllau sy'n amrywio o ran hyd a chyfeiriad, bydd angen pob ffon yn eich bag arnoch i gael sgôr isel. Mae Castell Harlech yn clwydo ar frigiad creigiog wrth ymyl y cwrs.
Nefyn a’r Cylch
Mae'n anodd cael gwell na chwrs Nefyn ar Ben Llŷn. Mae wyth twll olaf yr Hen Gwrs wedi'u gosod ar lain gul o dir sy'n estyn i Fôr Iwerddon. Gyda chlogwyni serth i bob ochr a gwyntoedd sy'n newid o hyd, mae rownd yma'n aml yn heriol.
Southerndown
Yn ôl cylchgrawn Golf Monthly, mae Southerndown ger Pen-y-bont ar Ogwr yn glasur tragwyddol. Mae'n fwy o gwrs rhostir na maes golff ond fe'i cyfunwyd â golygfeydd arfordirol ysblennydd i wneud cwrs pen clogwyn sy’n darparu cynnig golff helaeth ac amrywiol. Fe’i hadeiladwyd o amgylch cyfuchliniau naturiol y tir, a phrin y mae ei gynllun wedi newid ers y 1920au. Pam ymyrryd â rhywbeth sy'n gweithio cystal? Mae hefyd yn gwasgu elfennau o barcdir a chlogwyni i'w gynnig golff cyfoethog ac amrywiol. Wedi'i lunio'n wreiddiol fel clobyn o 7,170 o lathenni, mae bellach yn ymestyn i 6,428 llath sy’n fwy hydrin. Dim maint yw popeth – mae Southerndown yn cynnig her a hanner o faes golff yn nannedd y gwynt.
Pennard
Nid yw'n cymryd llawer i ddeall pam mae Pennard yn cael ei alw’n ‘faes golff yn y cymylau'. Er bod ei bonciau, ei dwyni a'i fryncynnau tonnog yn dwyn holl arwyddion clasur o gwrs arfordirol, mae’n clwydo 200 troedfedd uwchben lefel y môr mewn gwirionedd, gan gynnig golygfeydd godidog o Fae’r Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae golff Pennard yn cyfiawnhau’r lleoliad, gyda ffyrdd teg gwyntog wedi’u hymylu gan eithin yn cynnig her sy'n newid o hyd. Mae'r 7fed twll par-4 yn uchafbwynt arbennig, gan fynnu dreif rhwng adfeilion eglwys o'r 13eg ganrif ac olion castell o'r 12fed ganrif wedi'i osod yn uchel ar y clogwyn.
Brenhinol Porthcawl
Os ydych chi'n chwilio am brofiad sy’n cynnig cystadleuaeth ddidrugaredd, rhaid chwarae ar gwrs Brenhinol Porthcawl. Cwrs Brenhinol Porthcawl oedd lleoliad Pencampwriaeth Agored Uwch 2014 a 2017, ac mae’n ymgorffori maes golff arfordirol clasurol. A’r môr yn y golwg o hyd, mae ei droellau a'i droeon yn gofyn cywirdeb pendant yn hytrach na grym llwyr. Gyda thyllau'n wynebu pob pwynt o'r cwmpawd, rhaid i chwaraewyr addasu eu dull yn gyson i gyfrif am y gwynt gorllewinol yn chwipio i mewn o Fôr Hafren.
Dinbych-y-pysgod
Sefydlwyd maes golff glan môr Dinbych-y-pysgod ym 1888, ac mae’n honni mai’r clwb hynaf yng Nghymru ydyw. Efallai y bydd ambell un yn anghytuno â hyn, ond does dim dadlau ag ansawdd golff Dinbych-y-pysgod. Peidiwch â chymryd ein gair ni drosto. Dyma sut oedd cylchgrawn Golf Monthly yn disgrifio'r lle: 'Mae Dinbych-y-pysgod yn faes golff clasurol, hen ffasiwn lle bydd trawiadau dall, safiadau lletchwith a sbonciau creulon yn nodweddu unrhyw rownd. Mae'r cwrs yn teithio drwy’r twyni, ac weithiau drostynt, o'r tiau uwch i lawntiau gwastad, heibio i fynceri pot cudd a garw twyllodrus. Cwrs yw hwn lle daw sgiliau golff traddodiadol i'r blaen a bydd pawb sy’n selog dros feysydd golff wrth ei fodd gyda’r her.'