Os ydych chi’n chwilio am brofiad gyrru i gyflymu’r galon, fe fyddwch chi ar y trywydd iawn yng Nghymru. Cynlluniwch eich antur foduro nesaf drwy ddarllen ein canllaw ni i rai o brofiadau gyrru gorau’r wlad.
Mae’r dewis yn ddi-ben-draw. I deuluoedd sydd â phlant iau, mae cyfleoedd gwych ar gael i feicio cwad a gwibgertio, tra gall oedolion a phlant hŷn roi cynnig ar yrru ceir chwim neu feiciau modur. Mae’n ffordd wych o brofi’ch sgiliau neu fwynhau tipyn bach o antur.
I gael gwefr oddi ar y ffordd, beth am ralïo a gyrru safon uwch, neu brofiad mewn cerbyd 4x4? At hynny, mae’r Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn yn siŵr o gyffroi pawb sy’n ymddiddori mewn chwaraeon moduro.
Beicio cwad
Mae modd cael blas o feicio cwad mewn canolfannau ledled Cymru. Dyna i chi’r Taff Valley Quad Bike & Activity Centre ym Mhontypridd sy’n cynnig llwybrau cyffrous ar draws gwlad drwy brydferthwch Cwm Taf, nepell o Gaerdydd. Busnes teuluol yw Border Quad Trekking yn y Trallwng, a hwnnw’n cynnig profiadau i bawb o bob oed. Dinbych-y-pysgod yw cartref Ritec Valley Quad Bikes, sydd â dros 12km o lwybrau ynghyd â thraciau fflat i’r teulu cyfan. Ac os am antur ychydig yn fwy heriol, ewch draw i Dulais Valley Quads yng Nghastell-nedd, lle mae cyfle i yrru ar hyd 175 erw o dir garw a choetiroedd.
Gwibgertio
I’r rheini sy’n hoff o wibgertio, mae traciau dan do aml-lefel i’w cael yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Mae gan drac Teamsport Cardiff gorneli eang epig, corneli tynn heriol, a darnau syth, cyflym i brofi’ch holl sgiliau rasio. Mae certiau Cadet ar gael i blant 8-12 a rhai mwy o faint i blant dros 12 oed ac oedolion. Mae Supakart Newport hefyd yn addas i oedolion a phlant 8 oed a hŷn. Rhaid i’r plant fod yn 1.3m o daldra. Mae’r trac anarferol o lydan yn rhoi digon o le i oddiweddyd a rasio’ch gwrthwynebydd, gan weu’ch ffordd drwy bob math o rwystrau ar yr un pryd. Mae hyd yn oed ddarn o’r trac yn yr awyr agored i roi mwy fyth o her.
Os am wibgertio y tu allan, gan GYG Karting yng Nghonwy y mae’r trac awyr agored mwyaf yng Nghymru. Mae modd cyrraedd a gyrru ar unwaith, ac mae’r sesiynau’n addas i oedolion a gyrwyr ifanc sy’n 11 oed a hŷn. Mae’r ganolfan ar agor gydol y flwyddyn ac ym mhob tywydd. Mae siwtiau sych ar gael pan fydd hi’n bwrw glaw, a’r rheini’n hwyl garw wrth roi cyfle i chi ymarfer eich sgiliau drifftio. Mae’n golygu na fydd y glaw fyth yn eich gorfodi i roi brêcs ar eich antur.
Mae Zip World yn Chwarel y Penrhyn yn cynnig profiad gwibgertio unigryw ar unig drac certio mynydd y Deyrnas Unedig. Fe gewch chi gyfle i yrru ddwywaith yn Certiau Chwarel i lawr y llwybr mynydd llechi 3km, gan ddod ar draws twneli, ysgafellau a chicanes.
Profiadau gyrru ceir chwim
Mae profiad yn gyrru car chwim yn rhywbeth a fydd at ddant pawb sy’n chwilio am wefr a gwib.
Mae Trac Môn yn drac sydd â rhai o olygfeydd gorau’r wlad, ac mae’n cynnig nifer o ddiwrnodau lle gallwch chi yrru ceir chwim eiconig fel y Lotus Elise neu Formula 1600. Agorwyd y trac yn wreiddiol yn 1978 ac mae’r llwybr wedi’i ailddylunio’n ddiweddar, sy’n golygu mai dyma’r unig drac yn y Deyrnas Unedig sydd wedi’i ddylunio yn y ganrif hon.
Mae’r prif drac yn Llandow Circuit, yn y Bont-faen, yn cynnig heriau technegol gyda chorneli chwith a dde, ac mae’n addas i geir a beiciau modur. Mae pecynnau ar gael sy’n rhoi profiadau gyrru i bobl ifanc yn eu harddegau ac i oedolion, gyda chyfle i rasio ar drac go iawn a mwynhau’r wefr o yrru car chwim. A hwnnw’n un o draciau llai o faint y Deyrnas Unedig, mae’n gyfle unigryw hefyd i egin yrwyr a’r rheini sydd ar lefel ganolraddol i yrru eu ceir eu hunain o amgylch corneli sy’n herio’n dechnegol, a’r cyfan wedi’i reoli’n ofalus.
Profiadau beicio modur
Dewch i grwydro Cymru ar ddwy olwyn wrth fwynhau profiad beicio modur. Mae’r Harley-Davidson Adventure Centre yng Nghroesoswallt yn ganolfan sydd wedi’i lleoli mewn 1,500 erw o goetir preifat, a hwnnw’n llawn golygfeydd ysblennydd. Fel rhan o brofiad diwrnod cyfan, fe gewch chi reidio yng nghwmni’r seren Dakar, Mick Extance, gan feistroli amrywiaeth o lwybrau graean a cherrig, a hynny ar yr Harley-Davidson® Pan America™ 1250 Special. Dyma brofiad reidio cwbl ryfeddol ar y ffordd ac oddi arni.
Mae’r Mick Extance Kawasaki Experience, ym Mynydd y Berwyn ger Llangynog, yn cynnig antur oddi ar y ffordd ym mherfeddion y canolbarth. Mae’r diwrnodau sy’n rhoi profiad oddi ar y ffordd yn cynnwys amrywiaeth o lwybrau drwy 1,500 erw o goedwigoedd hardd Cymru. Mae modd dewis diwrnod ar feic trydan hefyd, neu brofiad diwrnod i grŵp a phawb ar ei feic ei hun.
Mae Trail Rides Wales yn Aberystwyth yn cynnig teithiau tywys ar lwybrau gwlad a theithiau anturio ar feiciau modur, a hynny ar rywfaint o dir mwyaf heriol y canolbarth a’r gogledd. Byddwch chi’n reidio ar laswellt, mwd, creigiau a cherrig, gyda nentydd a phyllau i’w croesi. Mae modd llogi beics, neu fe allwch chi ddefnyddio eich beic modur gwlad neu’ch beic anturio eich hun.
Profiadau ralïo a gyrru safon uwch
A’r wlad yn gartref i Bencampwriaeth Rali Cymru Motorsport UK Pirelli, mae Cymru’n enwog am ei phrofiadau ralïo. Mae’r Phil Price Rally School ym Mhowys yn cynnig profiadau ralïo diwrnod llawn mewn ceir rali Subaru sydd wedi’u hadeiladu’n benodol at y diben.
O’u canolfan yng Nghastell-nedd, mae V-FORCE Training yn cyfuno chwaraeon moduro a chwaraeon eithafol mewn un antur gyffrous. Byddwch chi’n dysgu technegau gyrru safon uwch, a’r rheini’n seiliedig ar ralïo, er mwyn gwella’ch sgiliau gyrru, cyn wynebu senario dactegol sy’n wefreiddiol ac yn heriol ar yr un pryd.
Profiadau gyrru 4x4
I gael profiad o’r iawn ryw oddi ar y ffordd, cerbydau 4x4 amdani. Yn Abertawe, mae All Terrain Services yn cynnig profiadau gyrru 4x4 oddi ar y ffordd ar dir anodd, a hynny i oedolion a phobl yn eu harddegau rhwng 12 ac 16 oed. Mae profiadau un-i-un ar gael i oedolion, gyda’r opsiwn o gael ffrindiau neu deulu yn y cerbyd yn gwmni i chi (y gyrrwr a hyd at 3 arall).
Mae Ultra Adventure Driving yn cynnig profiadau sy’n eich cyflwyno i yrru 4x4 oddi ar y ffordd yn y canolbarth a’r gogledd, a’r rheini ar gael i unigolion neu grwpiau o ddau neu dri. Byddwch chi’n cael gyrru Land Rover Discovery ar dir heriol dros ben, gan weld sut bydd y cerbyd yn ymdopi!
Yr Amgueddfa Cyflymder
I’r rheini sy’n gwirioni ar chwaraeon moduro, fydd ymweliad â Chymru ddim yn gyflawn heb daith i’r Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn. Mae’r amgueddfa ryngweithiol hon yn adrodd stori Traeth Pentywyn a’r recordiau cyflymder tir a dorrwyd yma. O Blue Bird Syr Malcolm Campbell i gampau’r dydd hwn, mae’r amgueddfa’n bwrw golwg ryfeddol ar hanes cyflymder.
