A hwnnw’n croesi pum sir yn yr hen Forgannwg, mae gan Lwybr Mawr Morgannwg rwydwaith gwych o lwybrau beicio a llwybrau ceffylau sy’n cysylltu â’i gilydd. Efallai mai marchogaeth fyddwch chi o un tirlun amrywiol i’r llall, neu gerdded yn hamddenol ar hyd ochr camlas. Mae yma heddwch a llonyddwch, a chyfle heb ei debyg i fwynhau byd natur. Mae’r llwybrau’n cael eu diweddaru a’u gwella o hyd er mwyn creu profiad bythgofiadwy i bawb. Felly, ar y cyfrwy neu ar y sedd â chi, i brofi hud a lledrith y llwybrau hyn drosoch chi’ch hun!
Hanes hynod Llwybr Mawr Morgannwg
Mae 16 o lwybrau i’w crwydro, gan gynnwys hwnnw o Radur i Dŷ’n Y Coed. Llwybr drwy diroedd hanesyddol yw hwn sy’n rhoi golygfeydd heb eu hail. Gan gychwyn yn Radur, fe ewch chi heibio i gaeau gwyrddion a bryngaerau o’r oes a fu, gan droedio darnau o lwybr pererindod Penrhys. Mae darn o’r llwybr yn dilyn hen reilffordd yng nghysgod y coed, ac yn croesi pompren a arferai fod yn rhan o waith haearn. Daw’r daith i ben yn Nhŷ’n y Coed, lle mae modd mynd yn eich blaenau i fryn coediog Craig Gwilym, sy’n lle poblogaidd ymhlith beicwyr mynydd a marchogion.
Mae’r llwybr o Bont y Gwaith i Nelson yn eich arwain ar hyd glannau afon Taf, gan roi golygfeydd godidog i chi a chip ar hanes diwydiannol yr ardal.
Golygfeydd a thaith go egnïol gewch chi ar y llwybr o Fwlch i Don Pentre, a hwnnw’n arwain drwy berfeddion Morgannwg. Gan gychwyn o gopa Bwlch y Clawdd, mae’n eich tywys yn raddol i lawr y rhiw i ganol harddwch Ton Pentre. Ar hyd y ffordd, fe gewch chi edmygu’r golygfeydd eang a phasio tirnodau hanesyddol, gyda charnedd Tarren Felen Uchaf a bryngaer o’r Oes Haearn yn eu plith. Dyma lwybr perffaith i feicwyr a cherddwyr fel ei gilydd. Mae’r daith 3.2km yn cyfuno prydferthwch byd natur ar y naill law a thipyn o hanes ar y llall, sy’n ei gwneud hi’n ddelfrydol i bawb sy’n mwynhau’r awyr agored.
Llwybrau cerdded ar lannau’r dŵr
I’r rheini sy’n hoff o gerdded, mae’r llwybrau halio ar Lwybr Mawr Morgannwg yn rhai heb eu hail. Llwybrau oedd y rhain y byddai ceffylau’n arfer eu defnyddio i dynnu’r badau ar hyd y camlesi. Drwy barhau i wella a chynnal a chadw’r hawliau tramwy cyhoeddus hyn, maen nhw bellach yn creu llwybrau cerdded hamddenol a hyfryd. Mae’r tir gweddol wastad a’r golygfeydd braf yn golygu eu bod nhw’n ddelfrydol i gerddwyr o bob oed a gallu. Efallai eich bod chi awydd taith gerdded fer, neu rywbeth hirach a mwy heriol. Y naill ffordd neu’r llall, mae’r llwybrau halio’n cynnig troeon braf tu hwnt drwy ganol siroedd y de.
Y gwanwyn (mis Ebrill i fis Mehefin) a’r hydref (mis Medi i fis Tachwedd) yw’r adegau gorau i fwynhau’r llwybrau hyn. Mae’r tywydd mwyn yn golygu bod y rhain yn adegau perffaith i wneud gweithgareddau awyr agored fel cerdded a beicio. At hynny, fe gewch chi fwynhau’r golygfeydd harddaf, gyda’r blodau’n egino yn y gwanwyn a’r lliwiau’n wledd i’r llygad yn yr hydref.
Dewch i farchogaeth ar hyd Llwybr Mawr Morgannwg
Mae marchogaeth ar hyd Llwybr Mawr Morgannwg yn fwy na rhywbeth i’w wneud er mwyn hamddena; mae’n brofiad gwerth chweil sy’n llesol i’r corff a’r enaid. Bydd yr ymarfer corff a gewch chi wrth farchogaeth yn helpu i wella’ch cydbwysedd, eich cydsymud a’ch cryfder craidd. Ac mae’r rhwydwaith o lwybrau ceffylau yn addas i farchogion o bob gallu, gan roi profiad diogel a braf i bawb.
Gan bwyll!
Mae crwydro’r awyr agored yn gallu bod yn hwyl di-ben-draw, ac mae yno gyfleoedd gwych i wneud gweithgareddau anturus. Ond darllenwch am y peryglon a chofiwch baratoi.
- Boed chi’n marchogaeth ar y ffordd neu oddi arni, mae’n bwysig gwybod beth yw’ch cyfrifoldebau er mwyn bod mor ddiogel â phosibl. Drwy farchogaeth yn gyfrifol, byddwch chi’n gofalu am eich diogelwch chi’ch hun a diogelwch y ceffylau, gan osgoi difrodi harddwch naturiol y llwybrau hyn. Bydd hynny’n golygu bod modd i bawb eu mwynhau.
Cofiwch baratoi am eich taith drwy ddarllen cyngor AdventureSmart ar gyfer mwynhau marchogaeth.