Does dim ots ble yn y wlad rydych chi, mae digonedd i danio eich dychymyg. Orielau crand yn llawn o ddarluniau hanesyddol yn Ne Cymru, lleoliadau celf gymunedol cyffrous yng Ngorllewin Cymru a Chanolbarth Cymru ac arbrofion cyffrous gyda thecstilau a serameg yng Ngogledd Cymru.
Mae gan lawer o orielau celf Cymru gaffis prysur a siopau’n gwerthu celf unigryw hefyd.
Orielau celf yng Ngogledd Cymru
Academi Frenhinol Gymreig, Conwy
Sefydlwyd yr Academi Gelf Frenhinol Gymreig yn 1881 pan fu i grŵp o artistiaid Prydeinig gyfenwid y Daith Fawr o gwmpas Ewrop am dirweddau dramatig gogledd Cymru. Wnaethon nhw ddim difaru. Bellach ceir dros 100 o aelodau o artistiaid, yr arddangosir eu gwaith, a’i werthu, yn yr oriel eang hon a leolir mewn hen gapel.
Tŷ Pawb, Wrecsam
Mewn hwb cymunedol llathraidd du a gynlluniwyd gan bensaer, Tŷ Pawb yw un o brif leoliadau celf weledol a chymwysedig gyfoes Cymru. Mae’r ffocws ar arlunio, print a gwaith graffig cyfoes. Ceir digwyddiadau diddorol hefyd, yn ogystal â chwrt bwyd bywiog a marchnad sy’n cynnwys gwaith gan amrywiaeth eang o grefftwyr lleol yn gwerthu’u gwaith.
Oriel MOSTYN, Llandudno
Y tu cefn i arwyneb Edwardaidd nodedig yn nhref glan môr Llandudno, mae oriel wreiddiol MOSTYN, sy’n dyddio o ddechrau’r ugeinfed ganrif yn sefyll ysgwydd ac ysgwydd â lleoliadau golau ac agored modern. Mae’r chwe ystafell yn arddangos y gorau o blith celf a chrefft gyfoes ryngwladol, gan arddangos gwaith artistiaid a gwneuthurwyr o Gymru a thu hwnt. Bydd arddangosfeydd yn newid yn dymhorol gan amrywio o sioeau thematig ar raddfa fawr i brosiectau bychain sy’n benodol i’r safle.
Canolfan Grefft Rhuthun, Rhuthun
Ers ei sefydlu yn y 1980au, mae Rhuthun wedi creu enw da fel un o leoliadau gorau’r Deyrnas Unedig ar gyfer crefft gyfoes. Mae’r casgliad slic o orielau carreg a sinc yn clystyru o gwmpas cwrt agored a chaffi. Bydd eich llygad yn cael ei ddenu i bob cyfeiriad gan waith serameg chwyrlïog, gwaith gwydr amryliw, cerfio cywrain, brodwaith, ffasiwn, cerfluniau a llawer mwy. Mae’n bosib y gwelwch artistiaid wrth eu gwaith yn y stiwdios hyd yn oed.
Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli
Achubwyd y plasty Gothig dramatig hwn rhag mynd â’i ben iddo gan yr artist lleol Gwyneth ap Tomos a’i gŵr Dafydd tua dechrau’r 1970au. Yn 1984, daethant i ben ag agor oriel yma, gan gyflawni’u breuddwyd o ddarparu llwyfan ar gyfer artistiaid Cymreig yr oedd gwir angen amdano. Y tu mewn i Oriel Plas Glyn-y-Weddw, fe gewch gasgliad rhyfeddol o borslen Cymreig ac arddangosfeydd o waith celf gyfoes o Gymru. Mae theatr awyr agored, caffi a llety dafliad carreg o’r môr a Llwybr Arfordir Cymru yma hefyd.
Orielau celf yng Nghanolbarth Cymru
MOMA, Machynlleth
Mae MOMA Cymru’n cynnwys pedair oriel braf ochr yn ochr â’r Tabernacl, cyn gapel Wesle a agorodd fel canolfan ar gyfer y celfyddydau perfformio yn 1986. Mae’r casgliad parhaol yn cynnwys gweithiau o 1900 ymlaen gyda phwyslais ar artistiaid sy’n gweithio neu’n byw yng Nghymru. Mae’n cynnwys dros 400 o weithiau – peintio, cerflunio, darlunio a mwy.
Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth
Wedi’i lleoli ynghanol campws y brifysgol, mae Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn hyb ar gyfer popeth celfyddydol gyda sinema, dawns a drama’n cael ei gynnig law yn llaw â chymysgedd o leoliadau arddangos llai o faint, arddangosfa serameg ac oriel gyfoes drawiadol. Ar ôl i chi fwynhau’r cerfluniau, y paentiadau a’r gwaith serameg, mae yma gaffi braf i dorri syched a mwy hefyd.
Y Gaer, Aberhonddu
Y tu mewn i golofnau a chynteddau trawiadol Neuadd y Sir yn Aberhonddu, mae gan Y Gaer oriel heddychlon sy’n arddangos gweithiau celf o blith casgliad parhaol, sy’n cynnwys gweithiau gan artistiaid lleol a gweithiau sy’n dangos ardal gyfagos Brycheiniog. Yma hefyd mae ’na atriwm trawiadol yn llawn golau, a Gerddi Rhodfa’r Capten a dirluniwyd yn hardd iawn.
Canolfan Gelfyddydau Lluest Llantarnam, Cwmbrân
Lluest Llantarnam yw canolfan Cwmbrân ar gyfer Celf a Chrefft Gyfoes, ac fe’i lleolir mewn hen dŷ fferm deniadol. Mae ystafelloedd a arferai fod yn ystafell filiards, cegin a neuadd wledda bellach yn cynnwys rhaglen gyffrous o arddangosfeydd sy’n dangos gwaith serameg, gwydr, gemwaith, cerfluniau a thecstilau. Mae’r ystafelloedd cyfarfod yn cynnwys y casgliad parhaol ble gwelir gwaith sawl artist cyfoes rhagorol, a gellir gweld y rhain pan nad yw’r ystafelloedd yn cael eu defnyddio.
Oriel Davies, Y Drenewydd
Wedi’i henwi ar ôl Gwendoline a Margaret Davies, dwy o garedigion celf mwyaf Cymru, lleolir y tair oriel braf brics, dur a gwydr yma ynghanol parc ir a deiliog. Ceir 10 arddangosfa bob blwyddyn yn Oriel Davies gan amrywio o gampweithiau o gasgliadau cenedlaethol i waith gan artistiaid amlwg. Cewch gyfle i weld darnau mwy arbrofol gan artistiaid ar eu prifiant yn lleoliad Test Bed yr oriel. Mae yma gaffi a siop hefyd, ble gwerthir gweithiau celf.
Orielau celf yng Ngorllewin Cymru
Oriel Mission, Abertawe
Yn cuddio yn ardal Forwrol Abertawe, mae’r gofod arddangos bychan hwn mewn hen gapel yn agos-atoch a thawel. Dyma’r lle delfrydol i ddangos celf arloesol gan artistiaid lleol a gwneuthurwyr cyfoes. Mae rhaglen gyfnewidiol Mission yn cynnwys gosodiadau, fideo a ffilm, cerfluniau, ffotograffiaeth a chrefft a dylunio.
Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
Mae llawer i’w weld yn Oriel Gelf Glynn Vivian, sy’n bartner i oriel Tate Llundain, gan gynnwys gweithiau gan yr hen feistri, porslen a llestri Abertawe, ynghyd â phaentiadau a cherfluniau gan fawrion yr 20fed ganrif fel Hepworth, Nicholson, Nash ac artistiaid o Gymru fel Ceri Richards, Gwen John ac Augustus John. Maen nhw’n cael eu harddangos yn yr adeilad crand yn arddull glasurol yr Eidal. Bydd y darn modern cysylltiedig yn cynnal arddangosfeydd mawr rheolaidd o gelf gyfoes.
Oriel Myrddin, Caerfyrddin
Lleolir cartref Sir Gaerfyrddin ar gyfer celf weledol, crefft a dylunio cyfoes, Oriel Myrddin, mewn adeilad Fictoraidd rhestredig ynghanol tref Caerfyrddin. Mae’r oriel yn cynnwys rhaglen ddiwylliannol amrywiol o arddangosfeydd celf weledol a chymwysedig sy’n cynnwys gwaith gan artistiaid lleol a rhai o fannau eraill yng Nghymru a’r DU. Gwerthir gweithiau celf gan yr artistiaid rhanbarthol a chenedlaethol gorau yn y siop.
Oriel Mwldan, Aberteifi
Mae Mwldan yn ganolfan gelfyddydau a ffilm fywiog ynghanol Aberteifi. Bydd yr oriel yma’n curadu wyth arddangosfa bob blwyddyn ar draws amrywiaeth o gyfryngau, gan weithio’n aml ar y cyd ag orielau eraill o bob cwr o Gymru. Bydd arddangosfeydd yn tueddu i ddangos gwaith artistiaid o Gymru neu artistiaid sydd â chyswllt cryf â Chymru.
Oriel y Parc, Tyddewi
Wedi’i lleoli yn Nhyddewi, mae Oriel y Parc yn gydweithrediad unigryw rhwng Amgueddfa Cymru-National Museum Wales ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Y canlyniad yw cyfuniad calonogol o ganolfan ymwelwyr a lle i gynnal arddangosfeydd. Mae’n dangos casgliad o weithiau sy’n newid yn gyson o blith casgliadau cenedlaethol sy’n dathlu môr a thirweddau Sir Benfro. Bydd llawer o’r gwaith yma gan artistiaid a chrefftwyr o Sir Benfro.
Darllen mwy: Darganfod ein saith Amgueddfa Genedlaethol
Orielau celf yn Ne Cymru
G39, Caerdydd
Mae G39 yn sefydliad a gofod cymunedol creadigol dan ofal artistiaid yng Nghaerdydd a chanddo’r nod o ddod â gwaith celf gyfoes ysbrydoledig ac arloesol gan artistiaid lleol gerbron cynulleidfaoedd newydd. Mae’r hyn a welwch yma’n eclectig, yn gyffrous ac weithiau’n heriol, Dyma gelf ar ei fwyaf llachar a chyffrous mewn lleoliad syml, diymhongar.
Oriel Martin Tinney
Mae Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd yn cael ei hystyried yn un o brif orielau celf fasnachol breifat Cymru. Mae’r oriel yn arbenigo’n bennaf mewn artistiaid Cymreig a'r rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Ymhlith y gwaith mae celf Shani Rhys James RCA, peintiwr o Bowys sydd wedi ennill sawl gwobr ac a enillodd MBE am wasanaethau i gelf yn 2006.
Ffotogallery, Caerdydd
Mae Asiantaeth Ffotograffig Genedlaethol Cymru’n trefnu arddangosfeydd gan ffotograffwyr o bob cwr o’r wlad yn y cyn-adeilad Ysgol Sul hwn yn Cathays, Caerdydd. Mae lleoliadau’r oriel yn teimlo ychydig fel gosodiad ynddyn nhw’u hunain, gyda’i phileri a distiau haearn agored y to ynghyd ag atriwm Fictoraidd a adnewyddwyd er mwyn boddi’r llawr uchaf â golau ddydd.
Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd
Mae pob math o bethau’n digwydd yn Chapter. Dyma ganolfan ryngwladol ar gyfer celf a diwylliant cyfoes, a chanolfan gymunedol bwysig, sy’n croesawu bron i 800,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Fe’i lleolir mewn adeilad a arferai fod yn ysgol, ac a estynnwyd a’i newid yn fendigedig. Ynghyd ag orielau sy’n dangos detholiad bythol newidiol o arddangosfeydd, mae hefyd yn gartref i stiwdios artistiaid, felly gallwch weld pobl wrth eu gwaith yma hefyd.
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Casnewydd
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, sy’n canolbwyntio ar ddarlunio gwedd gyfnewidiol y dirwedd wledig a diwydiannol yma yn Ne Cymru, wedi casglu casgliad anhygoel o dros 7,300 gwaith celf. Wrth gwrs, dyw’r cyfan ddim yn cael ei arddangos ar yr un pryd, ond mae’n bosib y gwelwch weithiau gan Syr Stanley Spencer, L.S. Lowry, y Fonesig Laura Knight, Stanhope Forbes a James Flewitt Mullock, artist uchel ei barch o Gasnewydd y 19eg ganrif.
Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn gartref i weithiau celf sy’n dyddio o bum canrif. Rhoddwyd y llawr cyntaf drosodd i’r casgliadau celf cenedlaethol, o baentiadau a darluniau i gerfluniau a serameg. Mae’n cynnwys un o’r casgliadau gorau o baentiadau gan yr Argraffiadwyr ym Mhrydain.Mae gwaith Turner, Monet, Rodin, Van Gogh ac artistiaid blaenllaw o Gymru fel Richard Wilson, Thomas Jones, Augustus John a Gwen John i’w gweld yma. Mae gan y rhan gyfoes fawr a’r oriel ffotograffiaeth arddangosfeydd sy’n newid yn gyson.