O’n cestyll i’n diwydiant llechi, ac o gymoedd y de i'n chwedlau dirifedi, does dim prinder hanes yma yng Nghymru. 

Ond tybed a wyddoch chi ble i fynd i ddysgu rhagor? I dyrchu’n ddwfn er mwyn darganfod trysorau, rhyfeddodau a hanesion unigryw ein cenedl?

Wel, mae digon o ddewis. Yn wir, mae dros 90 o amgueddfeydd achrededig ledled y wlad, y rhain oll yn rhoi blas a golwg well ar hanes lleol a chenedlaethol. O'r diwydiant amaeth cynnar i’r chwyldro diwydiannol, ac o ddarluniau celf nodedig i weithiau enwocaf ein beirdd a’n awduron.

Felly beth am grwydro rhai o amgueddfeydd llai adnabyddus Cymru, er mwyn dod i adnabod y wlad fymryn yn well y tymor hwn? Bydd croeso cynnes yn disgwyl amdanoch.

Gogledd Cymru

Storiel, Bangor

Mae bron i 10,000 o eitemau yn Storiel. Mae'r amgueddfa yn dwyn ynghyd casgliadau hanes cymdeithasol o bob rhan o’r gogledd, o ddodrefn i decstilau, i archaeoleg, cerameg a ffotograffiaeth. Yma gallwch weld cleddyf Rhufeinig Segontium, a ddarganfyddwyd yng Nghaernarfon yn 1879, un o gleddyfau Rhufeinig mwyaf cyflawn Ynysoedd Prydain. Mae cyfle hefyd i weld y Welsh Not o Ysgol y Garth, sy’n adnabyddus bellach fel teclyn a ddefnyddiwyd i gosbi plant am siarad Cymraeg hyd at droad yr 20fed ganrif.

Amgueddfa Dyffryn Maes Glas, Treffynnon

Dyma le difyr i'w ddarganfod. Mae Amgueddfa Dyffryn Maes Glas yn swatio yng nghanol Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, sy’n 70 erw i gyd. Agorwyd y safle yn 1982 ac mae’r casgliadau yn ymwneud â chyfnod 1850 – 1950 yn bennaf. Mae cyfle yma i ddysgu am amaethyddiaeth y dydd, ond hefyd hanes cymdeithasol a diwydiannol Sir y Fflint. Bydd y plant yn siŵr o fod yn dotio ar gael gweld hen beiriannau fferm, ac mae eitemau cartref bob dydd o’r cyfnod i'w gweld, yn ogystal â ffermdai a thŷ ysgol Fictoraidd.

Canolbarth Cymru

Amgueddfa y Gaer, Aberhonddu

Er ei fod y tu mewn i hen Neuadd y Sir restredig yn Aberhonddu, mae Y Gaer yn amgueddfa ac oriel fodern. Mae cyfle arbennig yma i weld bad pren wedi ei naddu o foncyff coeden dderw. Daeth y bad i’r fei ar waelod llyn Llan-gors ym 1925, ac mae’n gysylltiedig â chrannog Llan-gors - preswylfa frenhinol yn ystod Teyrnas Brycheiniog. Gall ymwelwyr hefyd archwilio celf a hanes lleol, gan ddod i adnabod Sir Frycheiniog lawer gwell yn ystod eu hymweliad.

Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth

Wedi'i leoli mewn theatr Edwardaidd ger traeth Aberystwyth, mae casgliad helaeth Amgueddfa Ceredigion yn amrywio o gregyn cnau wedi eu cerfio’n fân gan forwyr, i ddarnau sy'n darlunio’r newidiadau fu yng Ngheredigion yn y 1970au. Yma hefyd mae dros 50 o arteffactau 'prin iawn' o'r Oes Efydd – gan gynnwys arfau ac addurniadau corff – wedi eu canfod mewn cae yn 2020, tua 20 milltir i ffwrdd. Beth am annog y plant i ddod a chwydd wydr gyda nhw yn barod i archwilio?

Gorllewin Cymru

Amgueddfa Sir Gâr, Caerfyrddin 

Dyma leoliad arbennig – amgueddfa sydd wedi ei lleoli mewn palas sy’n 700 mlwydd oed! Codwyd y palas ar gyfer Esgobion Tyddewi yn wreiddiol. Heddiw, yn Amgueddfa Sir Gâr cewch ddarganfod straeon y sir mewn orielau thematig, gan ddechrau gyda Phŵer, Pobl, a Phrotest, cyn mynd ymlaen at Ystafell Ysgol Fictoraidd a Chegin yr Ail Ryfel Byd. Mae parc bendigedig yma hefyd, sydd wedi ei adnewyddu i fod yn debyg i sut y byddai wedi edrych ar ddechrau’r 19eg ganrif. Beth am ddod â phicnic gyda chi er mwyn mwynhau’r awyr agored hefyd?

Canolfan Dylan Thomas, Abertawe 

Mae'r arddangosfa 'Dwlu ar y Geiriau' yn arddangos bywyd a gwaith y bardd a’r awdur enwog o Gymro, Dylan Thomas. Mae digon i’w wneud yng Nghanolfan Dylan Thomas wrth i chi ddilyn llinell amser o ddyddiadau a digwyddiadau allweddol yng nghyfnod Dylan, crwydro arddangosfeydd rhyngweithiol, a darganfod eitemau diddorol, gan gynnwys llawysgrifau gwreiddiol, recordiadau, celf a ffilm. Peidiwch â phoeni am gadw’r plant yn brysur chwaith – mae llwybr plant arbennig wedi ei ddatblygu yma, felly bydd digon i'w diddanu. Taith arbennig i’r teulu cyfan.

Dau berson yn edrych ar arddangosfa mewn amgueddfa.

Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

De Cymru

Amgueddfa Crochendy Nantgarw

Gwaith Crochendy Nantgarw yw'r unig waith porslen o ddechrau'r 19eg ganrif sydd wedi goroesi yn y Deyrnas Unedig. Wyddoch chi tybed mai yma yng Nghymru, dan ofal William Billingsley, y cynhyrchwyd porslen mwyaf gwych y byd? Mae’n enwog am ei fanylder a’i harddwch. Ar ôl cyrraedd cewch fynd ar daith i ddysgu am hanes y Crochendy a hynny dan arweiniad profiadol un o wirfoddolwyr y safle. Ar ôl gweld y safle gwreiddiol, beth am droi eich llaw at weithdy ymarferol? Mae cyfle i gwrdd â seramegwyr wrth eu gwaith yma hefyd.  

Tŷ gwyn mewn gardd gyda choed.
Person yn gwneud gwaith crochenwaith

Amgueddfa Crochendy Nantgarw

Amgueddfa Pontypridd

Dewch i ddysgu am y trawsnewid anhygoel a fu yn yr ardal hon yn ystod y chwyldro diwydiannol. Dros nos bron, trodd y gymuned dawel hon yn dref ddiwydiannol, brysur a hithau yng nghanol ardal lofaol de Cymru. Mae Amgueddfa Pontypridd i’w chanfod yn hen Gapel Cymreig y Bedyddwyr, y Tabernacl, ac mae 16,000 o wrthrychau ac eitemau yma, gan gynnwys rhai sy’n dathlu'r bont leol - y gyntaf yn Ewrop i fod yn fwy na rhychwant y Rialto yn Fenis! Mae eitemau yma hefyd oedd yn perthyn i gyfansoddwyr anthem genedlaethol Cymru, sef Evan a James James, tad a’r mab o Bontypridd.

Gŵyl Amgueddfeydd Cymru

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn gyfle perffaith i ddarganfod amgueddfeydd bach a mawr Cymru. Cynhelir yr ŵyl yn flynyddol yn ystod hanner tymor yr hydref. 

Dilynwch Gŵyl Amgueddfeydd Cymru ar Facebook, Instagram a X am y newyddion diweddaraf.

Straeon cysylltiedig