Folly Farm, Sir Benfro
Agorodd Folly Farm i’r cyhoedd yn wreiddiol fel fferm laeth ble gallai pobl gymryd rhan ym 1988, a 25 mlynedd yn ddiweddarach mae’n denu llwyth o wobrau a 400,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r fferm foch, a’r fferm ffuredau yn rhai o’r uchafbwyntiau, heb sôn amr ardal chwarae antur a’r ffair hen ffasiwn.
Parc Fferm Foel, Ynys Môn
Bwydwch ŵyn a lloi gyda photel, neu ewch am reid ar gefn tractor, trelyr neu geffyl ym Mharc Fferm Foel, sy’n cynnig golygfeydd hyfryd o Gastell Caernarfon, Afon Menai ac Eryri. Mae’r siop siocled sydd ar y fferm wedi dal ein sylw, ac mae’r caffi a’r tŷ te yn cynnig arlwy mwy cytbwys o luniaeth.
Ynys Aberteifi, Ceredigion
Mewn lleoliad ar y môr sy’n edrych i lawr dros warchodfa natur, mae Ynys Aberteifi yn rhyfeddod ar ben clogwyn, sy’n croesawu dolffiniaid, morloi llwyd, lloi bach, lamhidyddion, adar y môr ac amryw o ymwelwyr morol eraill. Dywedwch helô wrth Tex a Mex, llygod y paith sy’n byw ar y bryn, Llinos y lama a Bruce y walabi o Awstralia, heb anghofio moch o Fietnam.
Fferm Gymunedol Greenmeadow, Cwmbrân
Ffermdy 250 mlwydd oed yw canolbwynt Fferm Gymunedol Greenmeadow. Mae’r safle hynafol hwn yn gartref i wartheg, moch, defaid, cathod gwyllt, gwenyn a geifr. Mae yna 120 acer i’w harchwilio a’u mwynhau yma, yn cynnwys caffi gwych sy’n gweini bwyd sydd wedi cael ei dyfu ar y fferm.
Children’s Farm Park, Llanfair, Gwynedd
Llanfair, ger Harlech, yw lleoliad Children’s Farm Park, ble gallwch gadwdiddordeb y plant yn hawdd trwy’r dydd. Mae moch, lloi a geifr pigmi ymysg y trigolion lleol, ac mae yna bwll tywod dan-do, golff gwyllt a digonedd o fannau caffi a phicnic.
Parc Fferm Cefn Mabli, Caerdydd
Mae Parc Fferm Cefn Mabli wedi cael ei gynllunio gyda phlant mewn golwg; mae yna filoedd o droedfeddi o ardaloedd chwarae dan-do, wedi eu gwresogi, ar gyfer plant yn y sioe anifeiliaid hon rhwng Casnewydd a Chaerdydd. Reidiau merlod, ardaloedd picnic a digonedd o gyfleoedd i fynd yn agos at yr anifeiliaid , yn ogystal ag ardal chwarae arbennig ar gyfer plant o dan bedair.
Parc Fferm Bodafon, Llandudno
Cartrefol a phrydferth, ond wedi ei osod mewn parc eang ger y môr, mae gan Barc fferm Bodafon hwrdd Dartmoor, asynnod, gwartheg, moch, cwningod a hwyaid. Ymlaciwch a mwynhewch yr olygfa o gaeau bychan o’r llecyn picnic, a cadwch eich llygaid ar agor am yr adar ysglyfaethus a’r rhaglen o ddigwyddiadau.
Parc Anifeiliaid Greenacres, Sir y Fflint
Pa bynnag anifeiliaid rydych chi neu’ch plant yn eu hoffi, byddwch yn medru eu mwytho a’u bwydo ym Mharc Anifeiliaid Greenacres. Mae adar, tylluanod, moch a chŵn yn flaenllaw yma, a gall plant ifanc sy’n teimlo’n ddewr neidio i’r cyfrwy a mynd ar gefn ceffyl. Mae yma hefyd lamas a gweithgareddau brawychus ar gyfer Calan Gaeaf.
Fferm Antur Cantref, Aberhonddu
Mae yna ddwsinau o weithgareddau i’w mwynhau yn Fferm Antur Cantref, sydd wedi ennill sawl gwobr. I ddechrau, dewiswch ymysg bwydo moch â photel, rhedeg yn wyllt trwy’r ardal chwarae, dal moch bochdew, reidiau merlod, rasio anifeiliaid anwes, anturiaethau trwy gorsydd, a thrywydd ar thema moch daear. Mae yna ardaloedd dan-do a’r tu allan, yn ogystal â reidiau ar gefn tractor.
Parc Gypsy Wood, Caernarfon
Tîm gŵr a gwraig greodd Parc Gypsy Wood yn wreiddiol i ofalu am Simba, sef ceffyl bychan oedd wedi cael ei eni gyda choesau cam. Bron i ddegawd yn ddiweddarach, mae Simba yng nghanol haid o anifeiliaid hapus, yn cynnwys asynnod, geifr, moch boliog a ffrindiau eraill, yn cynnwys y brîd lleiaf o ddefaid yn y byd. Yma hefyd mae’r rheilffordd mewn gardd fwyaf yng Nghymru a jaciau codi baw bychan i’w mwynhau.