Bu teulu fy ngwraig yn dod i Ynys Môn ers y 1960au, ac rydyn ni’n hen lawiau bellach ar ddod o hyd i’r llefydd gorau i chwilota am fwyd. Bob Pasg awn ati i gasglu llond lle o arlleg gwyllt i wneud cawl, a phan fydd y môr ar drai byddwn yn hel cregyn gleision a chocos ar yr aber rhwng y Fali a Rhoscolyn. Mae digonedd o sampier i’w gael hefyd.
Dal ati
Yn yr haf fe fyddwn ni’n dal crancod, cimychiaid a mecryll. Cimychiaid Ynys Môn yw’r rhai gorau gefais i erioed. Chewch chi ddim rhai gwell yn unman. Mae gennym ni ddau gawell a thrwydded i’w dal nhw, ac mae popeth yn gweithio’n hwylus iawn. Rydyn ni wrth ein bodd â’r mecryll hefyd. Ac fe gewch chi gorgimychiaid mor fawr â’ch bys bawd.
Gogoniant y gaeaf
Chawn ni ddim cyfle i ddod yma yn yr hydref gan fod y bwyty mor brysur, ond mae’r gaeaf yn odidog yma. O’r tŷ gallwn weld Eryri a mwynhau drama’r mynyddoedd a’r tywydd. Mae cigyddion bendigedig ar Ynys Môn – ym Modedern, er enghraifft, mae E T Jones, ei Feibion a’i Ferched yn lladd eu defaid eu hunain ac yn gwerthu cig oen y glastraeth sy’n anhygoel. Dwi wedi ceisio dwyn perswâd arnynt i anfon cig ataf i yn Llundain. Pan sefydlais i bopty Peyton and Byrne yn Llundain, roedden i’n arfer gwerthu Mêl Môn. Ac mi fedrwn i sôn hyd syrffed am yr halen. Chewch chi ddim byd gwell na Halen Môn. Dwi’n ei brynu mewn tybiau fesul hanner cilo. Mae’r halen mwg yn fendigedig hefyd.
Natur yr ynys
Weithiau mae rhywun yn amau a ydy pobl Ynys Môn yn sylweddoli mor lwcus ydyn nhw. Dwi’n gweld pobl yn mynd yn eu ceir i siopa yn archfarchnadoedd Caergybi, ac ar eu ffordd maen nhw’n gyrru heibio cigyddion o fri, gwneuthurwyr caws a siopau bach annibynnol, sydd i gyd yn gwerthu bwyd lleol arbennig o dda.
Mae rhywbeth go gignoeth am Ynys Môn – dwi wrth fy modd â hynny. Rydych chi’n ei weld yn y ffordd o fyw, teithi’r tir a’r cynnyrch a ddaw o’r ynys. Mae’n lle hollol wahanol i’r unman arall – mae gan y lle ei flas arbennig ei hun, rywsut.