Mentrwch oddi ar y brif Ffordd Cambria, gan ddarganfod llwybrau a gelltydd sy'n gwau eu ffyrdd dros y mynyddoedd.
Dolen y Bala
Ewch tua’r dwyrain o Drawsfynydd ac mae’r ffordd yn sgubo heibio i fynyddoedd Arenig, y mae cynifer o artistiaid wedi’u peintio, i Lyn Tegid. Dyma lyn naturiol mwyaf Cymru, ac mae rhywogaeth unigryw o bysgod yn byw ynddo ers Oes yr Iâ – y Gwyniad. Mae’r llyn yn boblogaidd gan syrffwyr gwynt, hwylwyr a physgotwyr. Bu tref y Bala’n ganolog i fywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru erioed. Ychydig filltiroedd tua’r gogledd, codwyd argae ar Afon Tryweryn yn 1965 i greu cronfa i gyflenwi Lerpwl, gan foddi pentref Capel Celyn. Hyd heddiw, mae pobl yn dal i ddweud Cofiwch Dryweryn – a’i ysgrifennu ar waliau – fel atgof a datganiad o hunaniaeth.
Dros y top
Bydd pobl leol yn tueddu i dorri’r gornel rhwng Machynlleth a Llanidloes drwy fynd heibio i Lyn Clywedog. Mae hi’n ffordd droellog, donnog ar hyd y rhan fwyaf o’r daith, ond yn hen ddigon llydan i geir basio’i gilydd. Tua’r gogledd y cewch chi’r olygfa orau: oedwch ger cofeb Wynford Vaughan-Thomas i weld panorama eang dros Eryri. Hon oedd hoff olygfa’r darlledwr mawr yn y byd i gyd.
'Ardal y Llynnoedd' Cymru
Yn ôl teithwyr Oes Fictoria, dyma ‘ddiffeithwch glas Cymru’: y Mynyddoedd Cambrian, sy'n eangderau mawrion, heb ddim pobl. Dyma’r ardal â’r boblogaeth leiaf drwy’r wlad o hyd (o ran pobl, o leiaf): bywyd gwyllt sy’n teyrnasu yn y dirwedd enfawr hon. Y lle gorau i gychwyn yw Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan. Gallant argymell llwybrau cerdded, seiclo a gyrru o gwmpas y rhwydwaith o argaeau a chronfeydd dŵr, a’r rhosydd a’r coedwigoedd sy’n eu hamgylchynu.
Bannau Brycheiniog
Mae’r A470 yn torri llwybr dramatig fel cyllell drwy fenyn ar draws mynyddoedd Bannau Brycheiniog yng nghanol y Parc Cenedlaethol. Ond mae’n werth archwilio unigeddau'r bryniau sydd ar ddwy ysgwydd y Bannau hefyd: i’r gorllewin, y Mynydd Du (unigol) sy’n rhoi golygfeydd godidog dros Sir Gaerfyrddin, a’i draed yn cyffwrdd â Llandeilo. Tua’r dwyrain, y Mynyddoedd Duon (lluosog, peidiwch â drysu!) sy’n ymestyn tua’r ffin â Lloegr (lleoliad Gŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nghrughywel). A thua’r de, mae Bro’r Sgydau’n cynnig y casgliad gorau o raeadrau a cheunentydd ym Mhrydain gyfan.
Y Daith Fwyd
Byddwch chi’n pasio (neu, yn ddelfrydol, yn oedi yn) y Felin Fach Griffin rhagorol; dyma flas o’r hyn sydd i ddod. Anelwch i’r dwyrain i’r Fenni, a dyma chi ym mhrifddinas fwyd Cymru. Cynhelir Gŵyl Fwyd y Fenni yma bob mis Medi, a cheir dyrnaid o fwytai-â-llety rhagorol yn Sir Fynwy a Dyffryn Gwy: The Walnut Tree (sydd wedi derbyn seren Michelin), The Hardwick, The Bell at Skenfrith, The Bear... mae pob un yn werth stopio ynddo.