Cerdded yn ôl troed Glyndŵr
Llwybr Cenedlaethol 135 milltir (217km) o hyd yw Llwybr Glyndŵr sy’n mynd ar daith anuniongyrchol - ond hardd - rhwng y Trallwng a Thref-y-clawdd. Dyma dro hamddenol drwy rostir, tir amaethyddol, coedwigoedd a fforestydd ar draws Canolbarth Cymru. Gallwch gerdded o un pen i’r llall mewn naw niwrnod, neu daclo tameidiau byrrach ar y tro. Mae Owain Glyndŵr ei hun yn arwr cenedlaethol hyd heddiw, a byddwch yn siŵr o weld ei faner frenhinol goch a melyn yn cyhwfan ar bolion ledled y wlad. Ef oedd y Cymro brodorol olaf i fod yn Dywysog Cymru, a bu bron i’w wrthryfel yn y 1400au lwyddo, cyn iddo ddiflannu’n ddirgel.
Ar ddwy olwyn, drwy'r mwd
Mae beicio mynydd yn beth mawr yng Nghymru - mae yma ddigon o fryniau a mynydoedd, wedi'r cyfan… Cewch ganllaw trylwyr yn Beicio Mynydd Cymru, sy'n cynnwys gwybodaeth am ein saith prif Ganolfan - sef cyfleusterau â adeiladwyd yn bwrpasol; Lleoliadau beicio mynydd - sef ardaloedd sy’n gyforiog o lwybrau wedi’u mapio; a Llwybrau - gwahanol deithiau i'w dilyn. Mae nifer o'r rhain yn sgrialu ar draws Ffordd Cambria, a chwarae teg i’r criw a ddyfeisiodd eu Llwybr Traws Cambria eu hunain oddi ar y ffordd fawr rhwng Tref-y-clawdd ac Aberdyfi.
Ar ddwy olwyn, ar yr heol
Eisiau her? Mae Lôn Las Cymru’n rhedeg fwy na 250 milltir (400km) ar hyd Cymru o Gaergybi i Gas-gwent neu Gaerdydd. Mae’r rhan fwyaf o’r lôn yn dilyn ffyrdd bach tawel neu lwybrau seiclo, sy’n mynd â chi dros dri chasgliad o fynyddoedd a dau Barc Cenedlaethol. Gorau oll, mae’r Lôn Las yn cysylltu â phob un o’r llwybrau Sustrans eraill a geir yn ei rwydwaith 1,200 milltir (1,930km) yng Nghymru.
Ar hyd rheilffyrdd gwledig
Torrir yn dwt ar draws Ffordd Cambria gan y rhwydwaith reilffyrdd cenedlaethol - yn y pen, y canol a’r gwaelod. Ond Rheilffordd Calon Cymru sy'n mynd at… wel, galon Cymru, gan ymlwybro rhwng Llanelli ac Amwythig, a thorri llwybr drwy ddrysfa’r Canolbarth ir. Prin iawn yw tir gwastad yn yr ardal hon, felly rhaid dibynnu ar sawl traphont a thwnnel ar y ffordd. Caewyd y rhan fwyaf o’r is-reilffyrdd gwledig hyn yn y 1960au, ond llwyddodd hon i oroesi ac mae’n werth ei gwarchod.
Yn y cyfrwy, yng nghefn gwlad
Yn yr ucheldir, bu merlod a chobiau Cymreig yn rhan hanfodol o fywyd beunyddiol bob amser. Bydd rhai ffermwyr yn dal i ddefnyddio merlod i fynd i fannau sy’n ormod o her i’r beic pedair olwyn. Fe welwch chi ddigonedd o ganolfannau marchogaeth a merlota ar hyd Ffordd Cambria, sy’n cynnig popeth o deithiau hanner diwrnod i daith epig Llwybr Traws Cymru, taith wythnos o hyd o’r Mynyddoedd Duon i Fôr Iwerddon, ar draws Cymru gyfan.