Ydw dwi'n cyfaddef, dwi’n geek cynnyrch Cymreig. Ond yr hyn sy’n rhagori ar sawru bwyd a diod gorau Cymru yw eu prynu’n anrhegion i’w rhannu. Mae’r ffaith fod cymaint o’r cwmnïau bellach yn cynnig cyfleustra gwasanaeth ar-lein, yn ei gwneud yn haws i gefnogi a dathlu cynnyrch gorau Cymru dros dymor y Nadolig a thu hwnt.

Diodydd

Yma yng Nghaerdydd, dwi’n hiraethu am fy hoff siop cwrw crefft, Stori Beers yn y Bala, a siop win ragorol Dylanwad yn Nolgellau. Dwi hefyd yn breuddwydio am gael galw ym mar Cwrw Llŷn yn Nefyn, Wild Horse Llandudno a Mŵs Piws Porthmadog am gyflenwad o fy hoff IPAs. A beth am ddistyllai Dyfi, Penderyn, Dà Mhìle ac Aber Falls? Ac wedi cyfnod hefyd o arbrofi â chwrw di-alcohol Cymru, amheuthun yw darganfod bod enghreifftiau gwych fel Drop Bear Beer yn Abertawe, hefyd ar gael i’w prynu o’u safle gwe. Dwi ’di potelu fy jin eirin, jin cwins a jin eirin tagu ers mis Medi, felly’r unig beth fydd ei angen ei ychwanegu dros rew yw joch da o ddŵr tonig Llanllyr Source o Dalsarn ger Llanbedr Pont Steffan. Ac am ddewis da o ddiodydd ysgafn, trowch at wefan dŵr Radnor Hills, a’u detholiad o ddiod ‘pop’ Heartsease Farm. Byddai’r Cwrw Sinsir Tanllyd yn hyfryd gyda gwasgiad o leim - neu ychwanegwch sudd lemwn a rhew at lasied o’r Blackberry Crush i greu moctel ‘Melys Moes Mwyar’ o fri!

Caws

Ble ma’ dechre, dwedwch, efo nghariad at gaws? Jyst galwch fi’n Mickey Mouse. Dydy'r gaeaf ddim ’run fath heb gosyn o gaws Hafod, Perl Wen neu Perl Las. A rhaid sawru blas tsili Red Devil Caws Eryri, a chwa marchruddygl caws Harlech, ar gracyr halen môr Cradoc’s a Menyn Shir Gâr! Gallen i rannu rhestr faith o ffefrynnau ledled Cymru (sut allen i anghofio am bleserau Cenarth Aur wedi’i doddi â garlleg a rhosmari?), ond gyfeillion, dwi am eich cyfeirio at arbenigwyr go-iawn. Mae siop gaws a deli & Caws ym Mhorthaethwy yn cynnig clybiau swper cawslyd megis noson fondue a raclette, yn ogystal â hamperi Nadoligaidd. Ac wedi cyfnod llwyddiannus ym marchnadoedd ffermwyr Caerdydd, mae gan Tŷ Caws siop yn Arcêd y Castell yng Nghaerdydd. Mae'r arbenigwyr hefyd yn danfon hamperi llawn Gorwydd Caerffili, Halloumi Teifi a chaws gafr Brefu Bach (i enwi ond tri) i bobman ledled Prydain, ynghyd â jamiau chatwadau gan Inner City Pickle, Penylan Preserves a Tŷ Caws ei hun. A sôn am bicls a chatwadau, ystyriwch ddetholiad Dylan’s - mae’r picalilli yn fendigedig. Neu trowch at archfarchnad ddigidol Cymru, Blas ar Fwyd o Lanrwst, i archebu llawer o’r cynhyrchion hyn – a chymaint mwy.

Hoffi Coffi?

Fel y canodd Cerys yn Catatonia ‘Deffrwch, Gymry cysglyd, gwlad y gân!', a gyda thri mis o’r gaeaf o’n blaenau, rhaid cael rhywbeth go arbennig i’n denu ni o’n gwlâu. P’run ai ydych chi’n ysu am ‘baned’ ben bore ynteu’n awchu am ‘ddishgled’ go gref, mae 'na gwmnïau te a choffi ardderchog ledled Cymru sy’n gwerthu’n uniongyrchol ar y we. Rhaid cyfaddef mai merch Glengettie ydw i ers yn blentyn, y te ag iddo ‘flas Cymreig’. Ond paned o de cynyddol boblogaidd o Gymru yw Murroughs Welsh Brew Tea. A ble mae dechrau gyda’r dewis helaeth o rostai coffi annibynnol sydd i’w canfod o Fôn i Fynwy? Mae bar coffi Coaltown yn Rhydman gystal ag unrhyw hafan i hipsters yn Oslo, San Francisco neu Melbourne - ac maen nhw wedi sefydlu gofod yn Arcêd y Castell, Caerdydd, hefyd. Dwi’n dal i sawru’r latte surop masarn ges i yno y llynedd gyda halen mwg derw Halen Môn, ond tan y tro nesaf, fe gymera i fagiad o glasur Coaltown, ‘Black Gold’, os gwelwch yn dda. A beth am gwmni Coffi Poblado yn Nyffryn Nantlle? Fe gymra i gyflenwad o flend Nadolig, diolch yn fawr. A sôn am Nadolig, ga’th fy nhad flas ar goffi Bore Nadolig Coffi Teifi y llynedd - mae hwnnw hefyd i’w ganfod ar y we. Nac anghofier chwaith am goffi Heartland o Landudno, Gower Coffee o Abertawe, a Hard Lines Coffee, Treganna Caerdydd – i enwi dim ond rhai!

Cig

Dwi’n siŵr nad oes angen i mi eich atgoffa mai eich cigydd lleol yw’ch cyrchfan cyntaf am y dewis gorau o gig Cymreig. Parhewch i’w cefnogi ar hyd y gaeaf, da chi - a thrwy hynny, ddiwydiant amaethyddiaeth Cymru. Hoffwn i yn bersonol ddiolch yn fawr i JT Morgan ym Marchnad Caerdydd ac Oriel Jones. Ond mae 'na gymaint o gigyddion lleol rhagorol ledled Cymru, yn barod eu croeso a’u cyngor i ni gyd. Os ydych chi hefyd yn chwilio am wasanaeth ar-lein o fri, yna mae gen i argymhellion gwobrwyol ar eich cyfer chi. Mae cwmni Edwards o Gonwy yn cynnig llawer mwy na selsig – yn wir, mae’r siop yng Nghonwy yn haeddu pererindod ynddo’i hun. Gellir dweud yr un peth am siop fferm ystâd Rhug, ar gyrion Corwen, sydd yn fecca i garwyr cig. A rhaid cyfaddef i mi gyffroi yn ddiweddar wrth sylwi ar bost gan Ifor’s Welsh Wagyu ar Instagram, yn hysbysebu blychau i'w prynu yn anrhegion. 

Melysion

Mae’n amhosib dathlu’r Dolig heb focs o losin wrth law, a 'sdim rhaid teithio i Frwsel neu’r Swistir am felysion o fri sy’n denu’r ebychiad ‘waw!’. Mae ‘fferins nôl mewn ffasiwn’ fel rapiodd Tystion slawer dydd, a ledled Cymru ceir danteithion lu. Ar frig fy rhestr mae cyffug Nadolig Sarah Bunton o Bontarfynach a bytymau siocled anferthol Coco Pzazz o Gaersws. Ac os am ddathlu Calennig mewn ffordd newydd eleni, beth am dro cyfoes ar yr hen arfer Cymreig o ‘wneud cyflaith’? Mae saws caramel hallt Halen Môn o Frynsiencyn yn wych ar eich uwd ganol gaeaf. Neu beth am dywallt caramel hallt rym Barti ar eich Pwdin Nadolig – un o gynigion gorau Crwst Aberteifi. Ond rhyngthoch chi a fi, cwmni siocled a malws The Mallow Tailor o Aberhonddu sy di cipio ’nghalon (a ’nant melys) i. Mae’r siocledi amryliw megis marblis seicadelig, ac mae’r blas yn gwbl arbennig.

Straeon cysylltiedig