Fe ddewch chi o hyd i rai o fwytai gorau Cymru wedi eu gwasgaru ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. The Walnut Tree yn Llanddewi Ysgyryd â’u sêr Michelin, i The Hardwick yn y Fenni a The Checkers yn Nhrefaldwyn sydd ill dau ag enw da, does dim gwadu safon uchel y bwyd sydd ar gynnig yn y rhan wledig hon o Gymru.

Wedi eu plannu mewn corneli a’u cuddio i lawr strydoedd igam-ogam cul, mewn llyfrgelloedd a hyd yn oed mewn hen siopau nwyddau caled, mae perlau o fwytai llai amlwg yn aros i chi eu darganfod. Dyma gyfle heb ei ail i ddilyn eich trwyn ar helfa drysor o fwytai ar hyd y ffin.

Platiaid o fwyd a chyllell a fforc.
Brest cyw iâr, bacwn, caws parmesan a deiliach ar blât.

The Hardwick, Y Fenni, Sir Fynwy

Wrecsam

Fe ddechreuwn ni yn Wrecsam yng ngogledd Cymru, y lle diweddaraf i gael ei enwi’n ddinas yng Nghymru. Dyma lle mae bwyty Levant, wedi ei leoli yn hen archfarchnad Kwik Save, ac yn ceisio cynnig profiad unigryw â’i brydau Dwyreiniol-Brydeinig. Mae’r prydau’n cynnwys sbageti corbwmpen sbeislyd gyda cêl crensiog a chnau collen; caws ar dost Cymreig gyda chranc, sibwns a tsili; a chig oen wedi ei fygu â chrwst o berlysiau gyda thatws melys wedi eu stwnsio a’u blasu gydag olew tryffl, asbaragws, a saws mintys a theim.

Wedi i chi fwyta, ewch am dro ar hyd y llwybr cyhoeddus wrth ddyfrbont Pontcysyllte, strwythur mordwyol talaf y byd yn 23 metr o uchder. Fel arall, ewch ar daith ar gwch camlas yn ôl a blaen am 45 munud.

Edrych i fyny ar Draphont Pontcysyllte - Safle Treftadaeth y Byd.
Narrowboat from Aqueduct Cruises

Dyfrbont Pontcysyllte

Penarlâg

Yn gartref ar un adeg i Brif Weinidog Prydain, William Gladstone, mae Ystâd Penarlâg yn Sir y Fflint bellach yn gartref i dafarn, bwyty, siop fferm a chaffi sydd wedi ennill gwobrau, heb sôn am fod yn gartref i gastell eiconig Penarlâg sy’n dyddio o’r 18fed ganrif. Mae’r Glynne Arms, a enwyd gynt yn Dafarn y Flwyddyn yng Nghymru gan yr AA, yn gweini bwydlen o gynhwysion lleol, tymhorol a chynaliadwy.

Mae’r cawl seleriac wedi ei rostio, y pei cyw iâr confit a madarch gwyllt, a’r bol porc mewn seidr yn ddewisiadau poblogaidd.

Tra rydych chi ym Mhenarlâg, hwyliwch draw i Lyfrgell Gladstone, a adeiladwyd rhwng 1898 a 1908 i ddal casgliad llyfrau William Gladstone. Cewch ymgolli mewn llyfr yn yr ystafelloedd darllen byd-enwog, llenwi eich bol yng nghaffi Food for Thought, a threulio’r nos yn ‘cysgu gyda’r llyfrau’ yn unig lyfrgell preswyl y Deyrnas Unedig.

Y Waun

Mae’r Waun, ger Wrecsam, yn gartref i Gastell a Gerddi hardd y Waun sy’n dyddio o’r 13eg ganrif, yn un o sawl caer ganoloesol a adeiladwyd ar y gororau.

Os ydych chi’n bwriadu bwyta allan yn y Waun, anelwch am fwyty 412 o flynyddoedd oed y Coach House yn yr Hand Hotel ar Stryt yr Eglwys (mae’n debyg ei fod yn un o’r gwestai hynaf yng Nghymru). Neu fe gewch chi stecen flasus a phrydau tafarn clasurol eraill ym mwyty’r Regency o’r 1800au.

Os ydych chi awydd blas Canoldirol, crwydrwch i Castle Bistro and Wine Bar yn y rhes teras ar Stryt yr Eglwys. Mae’r bwyty Eidalaidd hyfryd hwn yn enwog am ei pizzas ffwrn, pasta ffres, risoto, pysgod ac, wrth gwrs, ei ddewis o winoedd.

Trefyclo

Trefyclo, â’i dai hanner coediog o’r 17eg ganrif a’i strydoedd troellog, yw’r unig dref sy’n sefyll ar linell Clawdd Offa – ac felly sy’n cynnig taith gerdded hir iawn 155 milltir o hyd o’r fan wrth ichi allu dilyn llwybr Clawdd Offa (er, mae’n debyg y byddai’n well gennych chi wneud y daith fesul dipyn!).

Wedi ei leoli mewn hen siop nwyddau caled drws nesaf i gloc y dref, mae The Clock Tower Tea Rooms yn lle perffaith i stopio am baned a phwdin bara menyn arbennig (y mae sôn ei fod y pwdin bara gorau yng Nghymru).

Fel arall, beth am fwyta mewn hen fanc o’r 19eg ganrif yn The Banc. Mae gan y bwyty a’r bar hwn bellach enw da am gynnig stecen wedi dod o fferm leol, byrgyrs cartref, a phwdinau godidog.

Yr olygfa o ffenest caffi, yn edrych ar stryd serth yn mynd am i fyny.
Y tu allan i adeilad wedi ei baentio’n las ar stryd.

Clock Tower Tea Rooms, Trefyclo

Trefaldwyn

Mae Trefaldwyn yn adnabyddus am ei amrywiaeth ddifyr o dai, o fythynnod ffrâm coed i dai tref Sioraidd a Fictorianaidd. Ond mae hefyd yn adnabyddus am fwyty The Checkers, a gafodd sylw am i’r perchnogion ildio eu seren Michelin er mwyn canolbwyntio ar ymrwymiadau teuluol.

Mae gwerth galw heibio The Dragon Hotel yn Sgwâr y Farchnad hefyd. Yn yr hen lety ceffyl a throl hwn o’r 17eg ganrif y dewch chi o hyd i fwyty eclectig Bistro 7 sy’n cynnig bwydlen sy’n amrywio o fwyd bistro Canoldirol à la carte i basta a phrydau tafarn.

Dafliad carreg i ffwrdd, mae caffi a swyddfa bost yr Ivy House yn ddewis gwahanol ar gyfer tamaid cyflym i’w fwyta, yn gaffi clyd a chyfeillgar ar un llaw ac yn swyddfa bost ar y llaw arall. Gwnewch yn siŵr eich bod yn blasu’r cawl cartref, y brechdanau, y quiches a’r platiau mezze yn Castle Kitchen hefyd.

Cawl llysiau coch ei liw gyda darnau o fara ar blât pren.
Pwdin bisgedi brandi ac aeron.

The Checkers, Trefaldwyn

Y Gelli Gandryll

Yn fyd-enwog am lyfrau ac am Ŵyl y Gelli, mae’r Gelli Gandryll yn gartref i un o ddim ond dau fwyty yng Nghymru sydd â seren werdd Michelin, yn gydnabyddiaeth am ymdrechion i fod yn gynaliadwy. Wedi ei leoli yn hen ystafelloedd cyfarfod Capel St John, caiff Chapters ei redeg gan y perchennog a’r cogydd Mark Mchugo a Charmaine Blatchford. Mae’r hyn sy’n cael ei weini yn lleol a thymhorol ac yn cynnwys asen drwchus o gig eidion longhorn gyda thatws dauphinois, brisged wedi’i fygu â saws grawn pupur, a risoto sbelt Hodmedod gyda madarch y Mers a thryffl o Swydd Amwythig.

Fel arall, mwynhewch bryd yng ngwesty rhestredig Gradd II The Old Black Lion sy’n fwyty crand â dwy Roséd AA. Wedi ei leoli yn y Lion Gate oedd ar un adeg yn gwarchod Castell y Gelli, mae’r bwyty yn cael ei redeg gan y cogydd Mark Turton a’r fwydlen yn cynnig platiau bach o fwydydd tymhorol, byrgyrs cartref a brechdanau gourmet.

Trefynwy

 dau o fwytai seren Michelin Cymru wedi eu lleoli yn Sir Fynwy (The Whitebrook yn Nyffryn Gwy a The Walnut Tree yn y Fenni), mae ‘prifddinas bwyd Cymru’ yn denu cogyddion sydd wedi ennill gwobrau a rhai sy’n breuddwydio am redeg bwytai. Mae Marches Delicatessen ar flaen y gâd gyda’u bwyd a’u diodydd artisan wedi eu cynhyrchu’n annibynnol yn ardal y gororau, a dyma’r lle i fynd am ddanteithion bwytadwy i lenwi eich pantri gartref, neu am goffi (a hwnnw’n goffi lleol, wrth gwrs!) a thamaid o gacen yn y caffi.

Tra rydych chi yn Nhrefynwy, mae’r siop win annibynnol, Fingal Rock, yn gwerthu gwinoedd, gwirodydd, cyrfau a seidr gan gynhyrchwyr lleol fel Apple County Cider a gwinllan White Castle.

Wedi ei guddio yn hen iard Canolfan Siopa’r White Swan, mae Whole Earth Thai Bistro yn gweini prydau ysgafn drwy gydol yr wythnos ac ar benwythnosau mae’n trawsnewid i fod yn fwyty a thecawê bwyd Thai.

 

Plataid o fwyd Thai gyda chnau cashiw a naddion tsili ar yr ochr.

Whole Earth Thai Bistro, Trefynwy

Tyndyrn

Yn nythu yn Nyffryn Gwy rhwng Trefynwy a Chas-gwent, mae pentref bach Tyndyrn yn enwog am ei abaty Sistersaidd o’r 12fed ganrif, Abaty Tyndyrn.

Ar dir Abaty Tyndyrn mae’r Anchor Inn oedd yn felin seidr ac yn storfa rawn ar un adeg. Mae’r dafarn yn gweini seidr a chwrw lleol o ansawdd o fragdai Kingstone a Dyffryn Gwy, yn ogystal â dewis o win o Tanners yn Amwythig. Mae’r fwydlen yn llawn o brydau tafarn clasurol a bwyd da a chysurlon, yn fyrgyrs, pizzas, stecen a phrif gyrsiau blasus fel hadog mewn cytew cwrw Dyffryn Gwy gyda sglodion tenau, chilli cig eidion a phorc wedi eu coginio’n araf, a bolognese cnau Ffrengig a madarch.

24 Hours to go.... We are getting our final bits ready. We can't wait to welcome you back ⚓

Posted by The Anchor - Tintern on Sunday, April 25, 2021

Fel arall, anelwch am Ffermdy Parva. Lai na milltir i ffwrdd o Abaty Tyndyrn, mae’r bwyty hwn o’r 17eg ganrif gyda’i ystafelloedd yn cael ei restru yng nghanllaw Michelin ac wedi cael ei enwi yn un o’r 50 uchaf o ran gwestai a B&B yn y Deyrnas Unedig gan y Guardian. Nid yw hynny’n fawr o syndod o gofio mai Marta a Roger Brook sydd wrth y llyw yno (a fu’n rhedeg The Walnut Tree yn y Fenni gynt). Mae’r fwydlen yn gryno ond yn hoelio sylw, yn newid gyda’r tymhorau ac fe gewch yma gynhwysion o safon wedi eu coginio’n ofalus. Yn y gorffennol, mae prydau fel makhani draenog môr gyda raita ciwcymbr, lasagne ffolen cig oen gyda phlanhigyn wy, nionyn a chaws ricotta, a strudel eirin Mair gyda hufen iâ llefrith wedi cael eu gweini. Mae’r bwyty hwn yn un bach, agos atoch chi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn bwcio ymlaen llaw!

Ar ôl llenwi’ch bol yn Ffermdy Parva, croeswch y ffordd i winllan fferm Parva i gael taith o amgylch y winllan a chyfle i flasu gwin o Gymru.

Cas-gwent

Mae’r lle olaf ond un i ni oedi ar ein taith fwytai yn mynd â ni i’r de o Dyndyrn, i Gas-gwent. Yma, cewch grwydro o amgylch Castell Cas-gwent sy’n 600 mlwydd oed, cyn mynd drws nesaf i The Three Turns. Â’i gardd gwrw sy’n edrych dros y castell, mae’r dafarn hon o’r 16eg ganrif yn gweini bwyd cartrefol braf. Os ewch chi yno ar ddydd Sul fe gewch chi gladdu cinio rhost enfawr gyda’r holl drimins.

Edrych i fyny ar Gastell Cas-gwent o dan awyr las

Castell Cas-gwent

Os ydych chi’n chwilio am bryd ysgafnach, rhowch gynnig ar gaffi The Cwtch. Mae’r llecyn bach clyd hwn sydd mewn caban bach ar Rifleman’s Way yn gweini brechdanau, brechdanau wedi’u crasu, prydau ysgafn, salad, a chacennau.

Dylai pob un sy’n hoff o win anelu’n syth am y siop win annibynnol Tell Me Wine i brynu gwinoedd da o bob cwr o’r byd. Mae yma ddewis helaeth o winoedd o Ffrainc.

Brynbuga

Efallai mai tref farchnad hynafol Brynbuga yw un o gyfrinachau gorau’r sîn bwytai ar y ffin. Llenwch eich bol – a’ch cypyrddau – â bwyd a diod da gan gynhyrchwyr bach artisan yn y deli, bwyty a bar annibynnol, 57 Bridge Street.

Yn nesaf, ewch draw i ddistyllfa jin y White Hare am jinsen fach, neu ddosbarth meistr ar greu jin hyd yn oed (ond bydd rhaid i chi archebu lle ymlaen llaw). Wedi hynny, ewch drws nesaf am blataid o gaws, charcuterie neu fwyd môr yn The Mad Platter.

Wedi ei leoli ar gyrion tref Brynbuga, mae The Black Bear yn dafarn gastro groesawgar sy’n canolbwyntio ar fwyd tymhorol Prydeinig. Gallwch ddisgwyl wystrys o greigiau Jersey; macrell a chranc o Gernyw gydag artisiog Jerwsalem ac afal; a myn gafr gyda brocoli porffor, tatws confit a saws grawn pupur gwyrdd.

Wrth i chi adael y dref, stopiwch yn Morris’ of Usk. Mae yn y ganolfan arddio annibynnol hon gaffi a siop fferm gyda chownter caws, cigydd, becws a deli.

Gobeithio eich bod chi, erbyn hyn, wedi magu chwant i fynd i archwilio’r bwyd a’r diod arbennig sydd i’w gael yn ardal y ffin! Pwy â ŵyr beth y dewch chi o hyd iddo?

Dysgwch ragor am Kacie a’i gwaith:

Straeon cysylltiedig