Mae bwyd a diod cenedl yn rhan annatod o’i hanes a’i diwylliant. A dydy bryniau, cymoedd ac arfordir rhyfeddol Cymru ddim yn eithriad. Dyma dir lle mae’r traddodiad ffermio wedi’i wreiddio’n ddwfn; o’r hufenfeydd cynhyrchu caws a ddaeth â chyfoeth i’r cymoedd bum canrif yn ôl, i’r gwelyau wystrys yn afon Menai, i’r cig oen amheuthun y mae Cymru’n fyd-enwog amdano. Yn y blynyddoedd diwethaf, wrth i bobl ddod i werthfawrogi treftadaeth fwyd Cymru o’r newydd, mae cynhyrchwyr arbenigol, bragdai crefft a theithiau bwyd wedi dechrau britho’r wlad. Mae’r rheini’n cynnig teithiau a chyfleoedd blasu o bob math, a digonedd o bethau hyfryd i’w cludo adref gyda chi.

Teithiau blasus

Ymuno â thaith dywys drwy’r byd bwyd yw un o’r ffyrdd gorau o ddeall yn iawn y traddodiadau sydd wedi bod yn sail i ddiwylliant bwyd Cymru ers cyn cof.

Yng Nghaerdydd, mae Loving Welsh Food yn cynnig nifer o deithiau sy’n rhoi cipolwg ar fywyd gastronomig y brifddinas, gyda saith sesiwn flasu wahanol. O gacennau cri llawn menyn i fwyd stryd Kerala, mae’n gyfle hefyd i ddysgu mwy am hanes cythryblus y ddinas. I gael taith gwbl arbennig, mae Wales Beckons yn gallu creu trefniadau personol i chi, gan gynnwys ymweliadau â chynhyrchwyr caws, tai cochi, a bwytai sy’n canolbwyntio ar gynnyrch sy’n unigryw i Gymru, fel cig oen morfa heli a chig eidion du Cymreig. I gyfuno teithiau cerdded â danteithion, mae’r Pembrokeshire Food Tour yn cynnig taith flasu sy’n stopio mewn pum lle o amgylch tref brydferth Dinbych-y-pysgod, gan ganolbwyntio ar gynnych lleol y sir.

Dwy fenyw yn rhoi cynnig ar gaws ac aelod o staff yn dal hambwrdd o gaws gwahanol.
Pobl ar daith fwyd mewn arcêd brysur.

Teithiau Caru Bwyd Cymru Caerdydd, De Cymru.

Tameidiau sawrus

Yn ogystal â theithiau sydd wedi cael eu drefnu, mae gan Gymru gynhyrchwyr annibynnol rif y gwlith, gyda llawer o’r rhain yn defnyddio dulliau traddodiadol sydd wedi cael eu trosglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall.

Mae Caws Cenarth yn y gorllewin wedi bod yn cynhyrchu caws â llaw mewn hufenfa deuluol ers tair cenhedlaeth. Rhwng 12 a 3pm, o ddydd Llun i ddydd Mercher, gall ymwelwyr wylio’r caws yn cael ei greu, cyn blasu’r cawsiau hynod boblogaidd hyn. Yn eu plith mae Brie Cenarth a chaws sawrus Perl Las.

I brofi treftadaeth pyllau glo Cymru yn ogystal â’r dreftadaeth fwyd, ewch i’r Blaenafon Cheddar Company, yr unig gynhyrchydd yn y byd sy’n aeddfedu ei gaws Cheddar mewn hen bwll glo 300 troedfedd o dan y ddaear. Mae sgyrsiau a sesiynau blasu i grwpiau ar gael i’w trefnu ymlaen llaw, tra gall unigolion alw i mewn rhwng 10.30 a 3pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. I gael dewis o dros saith deg o gawsiau, ewch i’r Welsh Cheese Company yng Nghaerdydd, sy’n cynnal nosweithiau blasu misol.

Yn y Black Mountains Smokery, yn nhref brydferth Crughywel ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae cawsiau sawrus i’w cael ochr yn ochr â physgod, cigoedd a charcuterie wedi’u cochi. Ceir teithiau wythnosol drwy’r tŷ cochi, gan gynnwys sesiynau blasu, am 11am bob bore Mercher rhwng mis Mawrth a mis Medi.

Darllenwch fwy: Profiadau caws yng Nghymru.

Mae un o fusnesau bwyd mwyaf arloesol Cymru, Halen Môn, i’w ganfod ar lannau’r Fenai yn y gogledd-orllewin. Mae teithiau tywys yma sy’n adrodd hanes rhyfeddol halen Cymreig, gan gynnwys llwyddiant aruthrol Hanes Môn sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn priodasau brenhinol, yn y Gemau Olympaidd yn 2012, ac mewn uwchgynadleddau gwleidyddol. Mae cyfle hefyd i flasu’r gwahanol fathau o halen sydd ar gael, gan gynnwys halen blas fanila a halen blas coeden Nadolig.

Darllenwch fwy: Taith drwy ffatri halen hynod Cymru.

 Arwyddion Halen Môn y tu allan i fynedfa adeilad gwyn gyda phlanhigion gwyrdd a blodau pinc.
Bwrdd ac arno wahanol gynhyrchion Halen Môn.

Distyllfa Halen Môn, Ynys Môn, Gogledd Cymru.

Fforio

Mae teithiau fforio’n rhoi’r cyfle i chi gamu i dirweddau naturiol hardd Cymru a darganfod o ble y daw llawer o gynnyrch gwych y wlad.

Mae Brecon Beacons Foraging yn cynnig sesiynau fforio i greu jin botanegol ar ddydd Sul olaf pob mis, gyda’r perlysiau a’r planhigion a gaiff eu casglu’n cael eu defnyddio i greu cymysgedd jin unigryw. Maen nhw’n cynnig cyrsiau yn ystod yr wythnos i grwpiau o bedwar neu ragor, neu mae modd trefnu diwrnodau fforio i unigolion hefyd.

Ymhellach i’r gorllewin, ar arfordir anhygoel Sir Benfro, mae’r Really Wild Emporium yn cynnig cyrsiau fforio sy’n dilyn y llwybrau hynafol, y glannau godidog, a’r gwrychoedd heddychlon sy’n croesi’r bryniau. Bydd planhigion, hadau, dail, blodau a gwymon i gyd yn cael eu cynaeafu, gyda digonedd o wybodaeth am sut y bydden nhw’n arfer cael eu defnyddio i goginio.

Darllenwch fwy: Anturiaethau bwyd yn Sir Benfro.

Hanner bach sydyn

Mae’r byd bragu a chwrw Cymreig wedi gweddnewid dros y degawd diwethaf, gyda nifer o gynhyrchwyr bach, annibynnol yn cynnig cwrw a seidr crefft unigryw.

Mae’r Kingstone Brewery i’w ganfod yn Nhyndyrn, yn nyffryn prydferth Gwy, lle maen nhw’n addasu ryseitiau traddodiadol i greu cwrw hopys euraidd a chwrw chwerw ysgafn braf. Mae’r teithiau drwy’r bragdy’n para rhwng awr a diwrnod llawn.

Ym mhentref pysgota bychan Nefyn ym Mhen Llŷn, mae Bragdy Cwrw Llŷn yn sefyll ar un o lwybrau pererindota hynaf Prydain. Mae teithiau tri chwarter awr ar gael o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng hanner dydd a 5pm (mae’n rhaid trefnu ymlaen llaw), gyda chyfle i roi cynnig ar gwrw ysgafn hafaidd ac IPAs blasus. Dewiswch pwy sy’n gyrru cyn ymweld â’r Mad Dog Brewery yng Nghaerdydd, lle mae’r daith yn cynnwys traean peint o naw cwrw gwahanol, ynghyd â pheint arall o’ch ffefryn.

Darllenwch fwy: Cwrw campus Cymru.

Cynhaeaf da

Nid bragdai crefft yn unig sydd wedi gweld chwyldro yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r diwydiant Welsh winemaking hefyd wedi blodeuo, wrth i winllannau greu gwinoedd llonydd a gwinoedd pefriog mawr eu bri.

Mae Gwinllan y Dyffryn ym mhrydferthwch Dyffryn Clwyd yn creu gwinoedd pefriog a llonydd, a hynny o chwe math o rawnwin gan gynnwys cabernet noir a Pinot Noir. Mae teithiau tywys, gyda chyfle i flasu’r gwin a phlatiad o gaws, yn cael eu cynnal gan amlaf ar ddydd Sadwrn (mae’n rhaid trefnu ymlaen llaw). Mae gan winllan Kerry Vale, sydd ar y ffin rhwng Cymru â Swydd Amwythig, dair taith flasu gwin wahanol, gan gynnwys te prynhawn gyda gwin pefriog.

Darllenwch fwy: Llymaid a llawenydd – teithiau drwy winllannau yng Nghymru.

A pha ffordd well o ddirwyn pethau i ben nag â choffi wedi’i rostio’n lleol, a hynny drwy ymweld â Capital Roasters ar arfordir Sir Benfro? Mae yma arddangosfa am hanes byd-eang coffi, yn ogystal â stori Capital ei hun, gyda chyfle i flasu gwahanol gymysgeddau coffi a choffi sy’n tarddu o un lleoliad yn unig.

Straeon cysylltiedig