Gŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd
Dyddiad 2025 i'w gadarnhau. Mae Gŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o berfformiadau yng Ngerddi Sophia yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf. Mae perfformiadau'r gorffennol yn cynnwys Shrek, Abba Revival a One Man Two Guvnors.
Sioe Awyr Cymru, Bae Abertawe
05 - 06 Gorffennaf 2025. Mae Sioe Awyr Cymru yn dychwelyd i Fae Abertawe am ddau ddiwrnod o arddangosiadau o'r awyr. Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnwys hofrenyddion, jetiau a'r Red Arrows, ac mae arddangosfeydd daear, cerddoriaeth fyw, gweithgareddau teuluol a reidiau hefyd.
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
09 - 13 Gorffennaf 2025. Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen bob blwyddyn, gyda phum diwrnod o gerddoriaeth a dawnsio gwerin o bob cwr o'r byd mewn un lle.
Gŵyl Love Trails, Penrhyn Gŵyr
10 - 13 Gorffennaf 2025. Mwynhewch gerddoriaeth, DJs, tripiau i'r traeth, gweithgareddau chwaraeon a lles a bwyd yng ngŵyl Love Trails.
Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin
12 Gorffennaf 2025. Mae gŵyl Gymraeg Caerfyrddin, Gŵyl Canol Dre, yn dychwelyd i Barc Myrddin am ddiwrnod o hwyl i'r teulu cyfan a chwip o line-up cerddorol. Mae mynediad i'r ŵyl am ddim.
Ironman Abertawe 70.3
13 Gorffennaf 2025. Mae Ironman Abertawe 70.3 yn ôl gyda chystadleuwyr yn nofio, seiclo a rhedeg ym Mae Abertawe.
Sesiwn Fawr Dolgellau
17 - 20 Gorffennaf 2025. Ar benwythnos cynta’r gwyliau haf yn flynyddol mae’r Sesiwn Fawr yn troi strydoedd Dolgellau yn faes gŵyl werin fywiog, gyda cherddoriaeth, llên, comedi, a gweithgareddau i blant yn cael eu llwyfannu ar draws amrywiol leoliadau’r dref.
Darllen mwy: Dolgellau: Crwydro tref y Sesiwn Fawr


Ras Ryngwladol yr Wyddfa
19 Gorffennaf 2025. Cynhelir Ras Ryngwladol yr Wyddfa ar gopa uchaf Cymru a Lloegr, gyda bron i 600 o redwyr o bob cwr o'r byd yn mynd i'r afael â llethrau serth yr Wyddfa.
Sioe Frenhinol Cymru, Powys
21 - 24 Gorffennaf 2025. Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Canolbarth Cymru yw pinacl calendr amaethyddol Prydain. Mae da byw, amrywiaeth o weithgareddau ac adloniant, yn ogystal ag amrywiaeth o fwyd.
Gŵyl Steelhouse, Blaenau Gwent
25 - 27 Gorffennaf 2025. Mae Gŵyl Steelhouse yn dod â cherddoriaeth roc i fynyddoedd godidog Glyn Ebwy.

Red Bull Hardline, Dyffryn Dyfi, Machynlleth
26 - 27 Gorffennaf 2025. Mae Red Bull Hardline yn dychwelyd i Ddyffryn Dyfi. Dyma un o rasys beicio lawr allt gorau'r byd.
Gŵyl Para Chwaraeon, Abertawe
I'w gadarnhau. Mae'r Ŵyl Para Chwaraeon yn dychwelyd i Abertawe, gyda chymysgedd o ddigwyddiadau Cymryd Rhan a Chystadleuol. Gwyliwch athletwyr para elitaidd a rhowch gynnig ar amrywiaeth o chwaraeon.
Darllen mwy: Arddangos para-chwaraeon yn Abertawe