Gŵyl Croeso Abertawe
28 Chwefror – 01 Mawrth 2025. Dathliad o bopeth Cymreig a gynhelir dros benwythnos Gŵyl Dewi yw Gŵyl Croeso Abertawe. Ym Marchnad Abertawe bydd sesiynau blasu bwyd a diod a chynnyrch Cymreig. Ar draws y ddinas bydd cerddoriaeth, barddoniaeth ac adloniant byw yn ogystal â Gorymdaith Dewi Sant. Dyma fwy o lefydd i’w gweld a phethau i’w gwneud yn Abertawe.
Dydd Gŵyl Dewi
01 Mawrth 2025. Dydd Gŵyl Dewi - diwrnod i ddathlu nawddsant Cymru, Dewi Sant. Beth am ddathlu trwy wneud a rhannu rhai o'r Pethau Bychain yma?
Ar eich marciau, barod, ewch!
Mae sawl ras redeg ym mis Mawrth - pob un gyfle i weld arfordir a thirweddau Cymru ar eu gorau.
- 01 Mawrth - Ras Gŵyl Dewi, Parc Bute, Caerdydd
- 02 Mawrth - 10K a Hanner Marathon Jones o Gymru, Ynys Môn
- 16 Mawrth - Marathon, Hanner Marathon a 10K, Parc Gwledig Pen-bre
Amgueddfa Dros Nos: Deinos
08 + 09 Mawrth 2025. Cyfle i ddarganfod beth sy’n digwydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi iddi nosi... ac aros y nos! Mwynhewch daith o’r Amgueddfa dan olau fflach lamp, gweithdai crefft, ffilm cyn gwely, a chyfle i gwrdd ag ambell ddeinasor cyfeillgar. Mae’r digwyddiad yn addas i blant 6 i 12 oed a’u teuluoedd.

Rygbi Chwe Gwlad Guinness, Caerdydd
15 Mawrth 2025. Mae gêm Cymru v Lloegr Chwe Gwlad Guinness yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality, Caerdydd eleni. Os ydych chi yn y brifddinas am benwythnos hir, dyma rai syniadau am bethau i'w gweld a'u gwneud.


Penwythnos Talacharn
28 - 30 Mawrth 2025. Rhaglen lawn o weithgareddau llenyddol a cherddorol o bob cwr o'r byd - i gyd yn dathlu Dylan Thomas.
Sul y Mamau
30 Mawrth 2025. Prynwch anrheg Sul y Mamau arbennig i'ch mam neu'ch mam-gu neu nain. Beth am ymlacio ar wyliau sba yng Nghymru? Neu dangoswch eich cefnogaeth i fusnes lleol gyda rhodd gan fanwerthwr annibynnol o Gymru. Dyma rai gweithgareddau Sul y Mamau yng Nghymru a syniadau i ddefro'r Gwanwyn.
