Rhannu’r weledigaeth
Nid beth dwi'n methu ei wneud sy’n diffinio bywyd – yn hytrach yr hyn y gallaf ei wneud. Ac os oes gennych chi'r agwedd iawn dwi'n credo y gallwch fwy neu lai wneud unrhyw beth. Mae’n golygu edrych ar y pethau bach sy’n creu rhywbeth gwirioneddol bwysig i chi. Yng ngŵyl The Good Life Experience mae pawb yn chwilio am yr un peth: bywyd mwy ystyrlon. Roedd hi’n braf iawn gweld pobl yn dod ynghyd, yn ymuno a chyd-dynnu. Roeddwn i’n teimlo’n rhan o un teulu mawr yno. Er fy mod i mewn cadair olwyn, doedd hi ddim yn anodd symud o gwmpas y safle. Wnes i gyfarfod â phobl eraill mewn cadair olwyn a sgwrsio gyda nhw – roedden nhw wedi mynychu’r ŵyl sawl gwaith yn y gorffennol. Yr unig broblem yw mwd os bydd hi’n bwrw glaw, ond mae honno’n broblem i bawb!
Blas ar y bywyd da
Yn aml, y profiadau symlaf yw’r rhai gorau. Un o uchafbwyntiau’r ŵyl i mi oedd eistedd o amgylch tanllwyth o dân yn coginio cebabs. Roedd gŵr o’r enw Ambrose yn cadw’r tân ynghynn, a gallai unrhyw un ddod â’i fwyd draw. Mae’r cyfan yn gymdeithasol iawn. Mae’r ŵyl yn lle gwych i grwydro, mynd o amgylch y stondinau a’r gweithiau celf, a gweld yr holl bethau bach sy’n digwydd - fel pobl yn cerfio llwyau neu’n taflu bwyeill. Mae'r awyrgylch yno'n hyfryd.
Gair a chân
Cawsom ni gyfle i weld a chlywed cymysgedd dda o berfformwyr. Roedd Jnr. Williams, a oedd yn perfformio ar y nos Sadwrn, yn wych – canwr llawn emosiwn. Llwyddom ni i weld mwy o’r gweithgareddau llafar, yn cynnwys sgwrs gan Helen Sharman, y person cyntaf o wledydd Prydain i anturio i'r gofod. Roedd ei stori'n ysbrydoledig. Cawsom ni gyfle i weld y bardd Mike Garry, a roddodd berfformiad llawn angerdd gyda cherddoriaeth yn gefndir.
Atseiniau hanes
Rwy’n edmygu yr hyn mae Cerys Matthews a’i thri cyd-sylfaenydd wedi’i gyflawni gyda’r ŵyl yn fawr. Gwnes i ei chyfarfod ar y diwrnod cyntaf, a bu’n sgwrsio ychydig am sut y dechreuon nhw o ddim. Mae’n wybodus iawn am hanes Ystâd Penarlâg a’r ardal - roedd Sir y Fflint yn lleoliad nifer o frwydrau. Roedd y cyfan yn ddiddorol dros ben a hoffwn i ddarllen mwy am yr elfen honno o’n hanes.
Lleoliad godidog
Mae Penarlâg wedi’i leoli mewn rhan odidog o Gymru, ac roedd hi’n hyfryd gyrru i Sir y Fflint ar gyfer yr ŵyl. Nid yw’n gymaint o gyrchfan ymwelwyr ag Eryri ond mae’n hawdd ei chyrraedd o fannau fel Llangollen - tref ryfeddol y treuliais beth amser ynddi yn gynharach eleni - a Chaer, ychydig dros y ffin. Mae’r ystâd ei hun yn hardd iawn, yn enwedig ar lan y llyn. Ar un adeg roedd yn gartref i Brif Weinidog Prydain William Gladstone, ac mae ei linach yn dal i fyw yn y tŷ.
Y pethau bach
Does dim bwriad gan y trefnwyr i dyfu’r ŵyl flwyddyn ar ôl blwyddyn. Maent yn falch ei bod yn fach a hygyrch. Dwi'n teimlo weithiau y gall pethau golli’r hyn y bwriadwyd iddynt fod pan maent yn mynd yn rhy fawr.
Pan gaf i gyfle i ymweld â The Good Life Experience eto, hoffwn dreulio’r penwythnos cyfan a gwersylla yn un o’r podiau yno. Byddai hynny’n rhoi mwy o gyfle i gael ambell ddiod, blasu mwy ar y bwyd bendigedig ac ymlacio.