Mewn byd o ruthro o un cyfarfod, gweithgaredd, clwb ar ôl ysgol neu ddigwyddiad i’r llall, ac mewn cyfnod o sŵn a strach ffonau symudol a thechnoleg, mae’n bwysig weithiau diffodd y cyfan a chlirio dy feddwl.

Mae digon o gyfleoedd yn dy filltir sgwâr yng Nghymru i wneud hynny – sy’n golygu y galli di ymlacio o’r cychwyn cyntaf, heb orfod poeni am straen maes awyr prysur neu deithio ymhell.

Dyma chwe ffordd i gymryd saib a gwarchod dy hun, rhag i’r byd a’i bwysau dy lethu.

Cadw’n ffit i’r corff a’r meddwl

Dydi hi’n fawr o gyfrinach bod ymarfer corff yn llesol i dy iechyd corfforol a meddyliol, a does dim prinder llwybrau cerdded, rhedeg neu feicio yng Nghymru. O Lwybr Arfordir Cymru i lwybrau rhedeg 5 cilomedr ar hyd a lled y wlad, ac o lwybrau beicio i lwybrau hygyrch sy’n addas i bawb does dim angen teithio ymhell i fanteisio ar yr awyr agored. Ac fel mae ymgyrch Every Body Outdoors yn ei bwysleisio, mae’r awyr agored yno i bawb, waeth beth yw dy faint neu lefel dy ffitrwydd.

Dau berson yn cerdded ar hyd llwybr arfordirol.
Beicwyr mynydd ar lwybr ar ochr bryn.
Pobl yn darllen map wrth gerdded mynyddoedd.

Llwybr Arfordir Cymru, Sir Benfro, taith feicio mynydd gyda WyeMTB ac Cwrs Every Body Outdoors yn Eryri

Encil er mwyn yr enaid

Tra bod awyr iach ac ymarfer corff yn help o ddydd i ddydd, o bryd i’w gilydd mae angen camu yn ôl a threfnu hoe hirach i roi hwb i’r enaid. Mae nifer o lefydd yng Nghymru sy’n arbenigo mewn gwyliau lles a meddwlgarwch, o The Dreaming yn Rhaeadr, sy’n cynnal gweithgareddau dyddiol i’ch hannog i ail-gysylltu gyda natur, i benwythnosau encil yn Nant Gwrtheyrn, a phenwythnos ysgrifennu a llesiant yn Tŷ Newydd. Mae’r Seren Retreat ym Mhenrhyn Gŵyr yn cynnig gwyliau sy’n rhoi cyfle i chi weithio ar eich hapusrwydd mewnol, gan gynnwys amrywiaeth o driniaethau yn cynnwys ioga a chyngor ar fwyd, ac mae Adventure Tours UK yn trefnu nifer o wyliau iechyd a lles i bob rhan o Gymru.

Adeilad mawr gwyn wedi'i fframio gan ddail a phlanhigion lliwgar.
Grŵp o bobl sy'n sefyll y tu allan i fws bach.

Y Breuddwyd, Cwmdauddwr, Rhaeadr, Canolbarth Cymru, Teithiau Antur UK 

Iechyd da a ffrindiau da

Does dim gwell i les neb na chwerthin gyda ffrindiau da. Felly beth am drefnu gwyliau gartref gyda chriw o ffrindiau? Mae digon o ddewis o lefydd i aros i grwpiau mwy, sydd hefyd yn rhoi yn ôl i’r gymuned.

Neu beth am drefnu cyfarfod yn wythnosol yn dy dafarn gymunedol leol? Mae mwy a mwy o dafarndai ar hyd a lled y wlad yn cael eu rhedeg gan bobl leol, ar gyfer pobl leol, ac yn cynnal digwyddiadau a sesiynau di-ben-draw ar gyfer y gymuned. Gall dy dafarn leol hefyd fod y lle delfrydol i drefnu clwb darllen gyda ffrindiau, gan fanteisio ar y degau o siopau llyfrau Cymraeg ar hyd a lled y wlad i roi ysbrydoliaeth am y nofel nesaf i’w darllen a’i thrafod.

Hen gartref mawr cerrig gydag arwydd Glna-llyn Isa tu allan.
Criw o bobl tu allan i dafarn y Saith Seren - tafarn brics coch ar gornel stryd.
Person yn darllen mewn siop lyfrau.

Glan Llyn, Tafarn Saith Seren, Wrecsam ac Siop Caban, Caerdydd

Sêr y nos yn gwenu

Cwyd dy ben, cwyd dy galon meddai’r hen gân, a does dim all roi problemau’r byd mewn persbectif cystal ag edrych i fyny i’r ffurfafen a gweld mawredd y bydysawd y tu hwnt i’r byd hwn. Mae tystiolaeth i brofi bod treulio amser yn syllu ar y sêr yn llesol i hapusrwydd a iechyd meddwl. Mae Cymru yn un o leoliadau gorau’r byd i edrych ar y sêr, gyda’r awyr ymysg y tywyllaf, cliriaf a glanaf yn y byd. Manteisia felly ar edrych ar y sêr uwch ben dy stepen drws.

Llun o Lyn y Fan Fach a mynyddoedd yn y cefndir, a'r ser uwchben

Llyn y Fan Fach, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Therapi dŵr i dwymo’r enaid

Mae ymchwil hefyd i brofi bod nofio yn y môr neu mewn llyn yn llesol i’r enaid. Mae nofio gwyllt yn help i rai sydd gan iselder ysbryd ac yn gymorth i dawelu’r meddwl. Does dim prinder dewis o lefydd i fynd i nofio yng Nghymru – o’r arfordir 870 o filltiroedd i’r llynnoedd di-ri wedi swatio yng nghanol ein mynyddoedd. Dyma syniadau am lwybrau cerdded a nofio gwyllt gwerth eu profi gan arweinydd mynydd profiadol.

Ond un peth sy’n hollbwysig cyn mentro i mewn ydi sicrhau dy fod mewn lle diogel i nofio. Dos gyda grŵp, neu gydag arweinydd profiadol, paid byth â neidio yn syth i mewn i ddŵr oer, pacia ddillad cynnes a rho wybod i rywun bob amser i lle'r wyt ti’n mynd. Mae cyngor ar gael ar Adventure Smart UK.

Os am gynhesu’n syth bin wedi mentro i’r môr cer i leoliad sydd gan sawna ar lan y dŵr. Mae mwy a mwy o sawnau yn ymddangos ar draethau a glannau Cymru – gan gynnwys Tŷ Sawna ym Mae Oxwich, Sawna Bach yn Porth Tyn Tywyn, Môn, a Llyn Padarn, Llanberis, Wildwater Sauna yn Nolton Haven, Logi Saunas, Sir Benfro a Willow Springs yn Nyffryn Aman.

Ac os am osgoi dŵr oer yn gyfan gwbl, mae bath gwymon Halen Môn yn ddelfrydol. Ymlacia ar lan y Fenai mewn casgen o ddŵr cynnes yn llawn gwymon llesol, tra’n mwynhau golygfeydd godidog o Eryri.

Roedd dau berson yn eistedd mewn casgenni derw wedi'u llenwi â dŵr a gwymon yn edrych allan ar draws cae gwyrdd gyda darn o ddŵr yn y pellter y tu hwnt.
Dyn a menyw yn sawna yn edrych allan i'r traeth.

Baddonau Gwymon Gwyllt, Halen Môn, Ynys Môn ac Tŷ Sawna, Bae Oxwich, Gŵyr, Gorllewin Cymru

Gwirfoddoli a datblygu sgiliau

Mae gwirfoddoli yn grêt i gymysgu, dod i adnabod pobl newydd, datblygu sgiliau a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Mae hefyd yn ffordd dda i ail-edrych ar fywyd a chymryd seibiant o’r dydd-i-ddydd, a rhoi cynnig ar brofiadau gwahanol. Mae nifer o sefydliadau ar draws Cymru yn cynnig cyfle i wirfoddoli am gyfnod byr neu hir. Felly beth am ymweld ag ardal wahanol o Gymru a gwirfoddoli? O gasglu sbwriel ar Yr Wyddfa i ddatblygiadau cynaliadwy yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, neu o fod yn gard ar drên bach i warchod ac amddiffyn ein bywyd gwyllt – mae cyfleoedd anhygoel ym mhob cwr o’r wlad.

Mae dysgu a datblygu sgiliau newydd yn llesol i’r meddwl, hunanhyder a hapusrwydd cyffredinol, ac yn ffordd wych o roi chydig o amser i ganolbwyntio arnat ti dy hun. Os am ddatblygu sgiliau newydd mae digon o gyfleoedd i ddysgu crefft newydd ar draws Cymru – o roi sglein ar dy iaith ar gwrs yn Nant Gwrtheyrn, cychwyn ar daith lenyddol ar gwrs ysgrifennu yn Nhŷ Newydd, cymryd rhan mewn gweithdy crefftau yng Nghorris neu bod yn rhan o hanes yn Amgueddfa Cymru. Mae cyfleoedd di-ben-draw i fagu diddordebau a dysgu crefft newydd yng Nghymru.

Dau berson yn codi sbwriel ar draeth
Pobl yn eistedd y tu allan i adeilad ar fyrddau picnic gyda blodau o’u hamgylch.
Gwirfoddolwr trên

Cadwraethwyr yn helpu i lanhau sbwriel oddi ar draeth, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Rheilffordd Ffestiniog 

Straeon cysylltiedig