Dilynwch lwybrau coediog, croeswch draethau tywodlyd, dringwch dwyni uchaf Cymru, does dim prinder dewis o ran mynd â’r ci am dro yn y Fro. Mae naw o’r pedwar ar ddeg traeth sy’n rhan o Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn caniatáu cŵn trwy gydol y flwyddyn, ac mae llawer o barciau a chestyll i ymweld â nhw ar y ffordd hefyd.
Rydyn ni wedi trefnu diwrnod cyfan i chi ger Arfordir Treftadaeth Morgannwg i roi syniad o’r hyn y gallwch ei wneud yno. Rydyn ni wedi cynnwys cyfleoedd i gŵn redeg heb dennyn, detholiad o fwytai sy’n croesawu cŵn, ac ambell i awgrym o ran llety ar ôl diwrnod prysur o fwynhau’r awyr agored.
Diwrnod perffaith i chi a’ch ci ger Arfordir Treftadaeth Morgannwg
Bore o Gerdded yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr
Treuliwch y bore yn crwydro llwybrau coediog ac yn dringo twyni tal yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr. Mae gan y warchodfa dirwedd amrywiol iawn, mae’n ymestyn sawl milltir ar hyd yr arfordir a thua milltir i mewn o’r môr, gydag Afon Ogwr yn llifo ar hyd ei ffin ddwyreiniol. Y Big Dipper yw twyn tywod talaf Cymru, ac mae oddeutu 200 troedfedd o daldra. Y tu hwnt i’r twyni, mae llwybrau cysgodol trwy’r coed gyda blodau gwylltion dan draed, ac yn nes at y lan mae’r moresg euraidd yn tyfu yn y tywod melyn.
Dylid cadw cŵn ar dennyn pan fyddwch i mewn o’r môr, a dylid aros ar y llwybrau sydd ag arwyddion er mwyn gwarchod bywyd gwyllt unigryw'r arfordir. Ond pan gyrhaeddwch y traeth llydan, bydd digonedd o le i redeg. Bydd tywod gwyn y twyni’n eich gwahodd i dynnu’ch esgidiau a gorwedd yn yr haul cyn mynd i drochi yn y tonnau.
Cinio cyflym yn Cobbles Kitchen and Deli
Mae’n debyg y byddwch ar lwgu erbyn hyn, felly ewch draw i Cobbles Kitchen and Deli ar Heol Ogwr am ginio. Mae'r deli mewn hen sgubor wedi’i hadnewyddu ac mae yno gwrt bach cysgodol i eistedd a bwyta. Er mai caffi yng nghefn gwlad Morgannwg yw hwn, mae’r fwydlen yn nes at beth fyddwch chi’n ei weld mewn deli yn Efrog Newydd. Dewiswch o blith bagels brecwast, brechdanau pastrami a phicl, stecen a chaws wedi toddi, neu frechdan Cuban gyda phorc drwy fforc a chaws Monterey Jack. Maen nhw’n gwneud Vegan Reuben arbennig o dda hefyd.
Prynhawn ger y lli a chrwydro Castell Ogwr
Ar ôl cael tamaid i’w fwyta, mae hi’n hen bryd i ni deimlo gwynt y môr eto. Y tro yma, awn draw at draeth euraidd Aberogwr. Gyda chlogwyni dramatig yn gefn iddo, gall y rhai sy’n llawn egni ddringo i gerdded y llwybr ar hyd yr arfordir a chael golygfeydd gwych. Ar y traeth ei hun, mae digonedd o byllau ac ogofâu i’ch diddori, ac mae hufen iâ i’w gael yn y pentref.
Oddi yno, dilynwch yr afon tuag at adfeilion hanesyddol Castell Ogwr (Cadw). Codwyd y castell gwreiddiol o bren yn y 12fed Ganrif, ond fe’i cryfhawyd â cherrig yn hwyrach ymlaen. Heddiw, mae’n olygfa heddychlon, gyda’r castell yn dawel ar lannau gwyrddion yr afon, ac ar lanw isel gallwch groesi’r afon gan ddefnyddio’r hen gerrig sarn.
Pastai a pheint yn y Pelican
Ar ôl diwrnod prysur o grwydro, beth well na thŷ tafarn cysurus i’ch croesawu? Mae The Pelican Inn o fewn tafliad carreg o’r castell, ac mae yno ardd gwrw fawr a lle dan gysgod i fwyta y tu allan. Os yw’n well gennych eistedd y tu mewn, mae croeso i gŵn ddod i’r bar hefyd. Mae’r Pelican yn cynnig bwyd tafarn da, gyda’r hen ffefrynnau fel sgod a sglods, selsig a thatws stwnsh, pastai, stecen, a dewisiadau llysieuol oll ar gael.
Llety sy’n croesawu cŵn
Dechrau blino? Bydd y bythynnod hunan-arlwyo yma yn Sealands Farm yn berffaith. Mae’r fferm weithredol hon wedi adnewyddu hen adeiladau’r fferm i gynnig tri bwthyn gwyliau bendigedig, pob un â’i ardd gaeedig a’i dwba twym! Gallwch gerdded at lwybr yr arfordir yn hawdd o’r fferm, handi iawn i fynd am dro! Mae Gwesty Coed-Y-Mwstwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn blasty Fictoraidd hardd sy'n swatio yng nghanol coetir. Mae'r gwesty moethus yn cynnig pecynnau arbennig i gŵn.
Gall y rhai sydd eisiau gwersylla neu garafanio gyda’u cŵn fynd draw i Happy Jakes Camping Park neu Heritage Coast Campsite.
Awgrymiadau i’r rhai sydd eisiau aros yn hirach
Mae mwy o lawer o bethau i’w gwneud ym Mro Morgannwg, felly dylech ystyried llacio’r goler ac aros ychydig ddyddiau’n rhagor. Piciwch draw i Borthcawl i grwydro’r dref a cherdded ar hyd y traeth, neu gwibiwch lawr yr arfordir i Ynys y Barri am gandi fflos. Neu, arhoswch yng nghefn gwlad a dilynwch lwybr yr arfordir, gan ddefnyddio’r gwasanaeth 303 arfordir a phentrefi rhad ac am ddim i grwydro ymhellach.
Am fwy o wybodaeth am ddiwrnodau allan sy’n croesawu cŵn ym Mro Morgannwg ewch i Pawennau'r Fro, ac i weld bariau, bwytai, teithiau cerdded ac atyniadau sy'n addas i gŵn yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr ewch i’w tudalen gwybodaeth am ysbrydoliaeth.