Riff mwydod crwybr ym Mae Dwnrhefn
Mae llawer o resymau dros ymweld â Bae Dwnrhefn: y traeth, y syrffio, y clogwyni amlhaenog, y castell adfeiliedig ar ben y clogwyn. I'r naturiaethwr, mae hefyd yn lle gwych i ddod o hyd i riffiau mwydod crwybr ar lanw isel. Dyma waith cytrefi o fwydod crwybr, sy'n defnyddio tywod i adeiladu cyfres o diwbiau cymhleth i ffurfio riffiau byw, sydd yn eu tro’n creu cynefin ar gyfer anemonïau, malwod, crancod a gwymonau.
Eogiaid yn neidio ym Mharc Bute
Ychydig y tu ôl i Gastell Caerdydd, yng nghanol ein prifddinas, mae Parc Bute. Mae'n barc 56 hectar enfawr lle gallwch ymgolli yn y tawelwch rhwng parcdir, yr ardd goed, y llwybrau natur a chaffis cudd. Dilynwch Lwybr Taf ar hyd yr afon i Blackweir, drwy goed coch ac aur, lle byddwch yn gweld eogiaid yn llamu i fyny'r afon ddiwedd yr hydref.
Adar y gaeaf yng Ngwlyptiroedd Casnewydd
Mae Gwarchodfa'r RSPB yng Nghasnewydd ar ei gorau yn yr hydref a'r gaeaf pan fydd adar hirgoes ac adar dŵr mudol yn cyrraedd am y tymor. Mae gylfinirod, pibyddion coesgoch, pibyddion y mawn a phiod môr yn bwydo yn yr aber ar lanw isel gan ddefnyddio eu pigau hir, main i chwilota drwy'r mwd ar gyfer mwydod a phryfed. Mae hyd at 50,000 o ddrudwy yn ffurfio heidiau trawiadol fin nos, ac efallai y clywch chi alwad annaearol aderyn y bwn.
Siglennod brith yng Nghaerdydd
Mae Heol y Frenhines yn ganolbwynt ardal siopa Caerdydd, gan ddenu heidiau o siopwyr i'w siopau adrannol a'i harcedau. Mae hefyd yn glwyd aeaf enfawr ar gyfer siglennod brith: adar bach clyfar, sionc sy'n ymgynnull yn eu miloedd i swatio gyda'i gilydd yng nghoed y stryd. Os ydych chi'n gwybod ble i edrych, gall siopa Nadolig fod yn daith natur hefyd!
Capiau cwyr yng Nghronfa Ddŵr Llanisien
Dysgodd Hannah Mills, a enillodd fedal Olympaidd, sut i hwylio ar Gronfa Ddŵr Llanisien, a adeiladwyd yn y 1880au i ddarparu dŵr i Gaerdydd. Roedd ei pherchenogion am adeiladu mwy na 300 o dai ar y safle (gan ei ddraenio'n gyntaf, yn amlwg...). Ond aeth eu cynlluniau i’r gwellt yn dilyn ymgyrch leol angerddol a’r ffaith i fwy na 25 rhywogaeth o gapiau cwyr gael eu darganfod ar lannau glaswelltog y gronfa ddŵr (un o'r ffyngau mwyaf prin a hardd).
Lliwiau'r hydref yn Nyffryn Gwy
Mae darn isaf Afon Gwy yn dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn fras, ac mae'r cwm coediog hwn yn un o'r rhai hyfrytaf yn y byd. Mae ei liwiau gogoneddus yn yr hydref yn syfrdanol. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn rheoli nifer o goetiroedd a gwarchodfeydd natur ledled yr ardal.
Clwydi’r gaeaf yng Nghors Magwyr
Cors Magwyr yw’r ardal naturiol olaf o ffendir ar Wastadeddau Gwent. Mae'n cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent i warchod hafan ecolegol werthfawr nad yw prin wedi newid ers y bedwaredd ganrif ar ddeg, gyda dolydd gwair a choetiroedd yn arwain at gors a dŵr agored, gyda rhwydwaith o ffosydd draenio hynafol ar draws y cyfan. Y gaeaf yw'r amser gorau i wylio adar, gyda digon o adar dŵr sy'n gaeafu ac adar mudol sy'n pasio ar eu hynt, yn ogystal â chorws swnllyd o frain sy’n clwydo.
Lliwiau'r hydref ym Mryngarw
Roedd plasty a thiroedd Tŷ Bryngarw yn un o olygfeydd cyfarwydd y dirywiad ar ôl y Rhyfel tan y 1980au, pan luniodd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr gynllun i achub yr ystad. Mae'r tiroedd bellach yn Barc Gwledig, ac mae'r pum ardal unigryw o goetir wedi cael eu rheoli'n ofalus i greu cynefinoedd sydd nid yn unig yn wych ar gyfer bywyd gwyllt, ond hefyd – yn enwedig yn yr hydref – yn odidog i gerdded drwyddynt.
Gwylio'r môr o Drwyn Larnog
Mae Trwyn Larnog yn eistedd ar 'sawdl' Cymru, gyda golygfeydd syfrdanol o'r clogwyni dros Fôr Hafren. Anfonodd Marconi y signalau di-wifr cyntaf ar draws y môr agored o'r fan hon, ac mae wedi cael ei ddefnyddio ar amryw achlysuron fel batri gynnau, byncer niwclear a man arsylwi. Heddiw, mae'n warchodfa natur arbennig a hoff fan gan yr adarwyr lleol ar gyfer gwylio adar mudol.
Aderyn y bwn yn Llynnoedd Cosmeston
Mae clywed bas dwfn aderyn y bwn ar restr dyheadau pob naturiaethwr. Gwrandewch am yr alwad eich hun yn Cosmeston ger Penarth, lle mae chwareli calchfaen sydd bellach dan ddŵr wedi dod yn warchodfa bywyd gwyllt, gydag amrywiaeth enfawr o rywogaethau’n cael eu denu i'w lynnoedd, ei goetir, ei ddolydd ac – os ydych chi'n aderyn y bwn – ei welyau cyrs.