Ceirw yn rhidio ym Mharc Margam
Mae Parc Gwledig Margam yn ystâd 850 erw sydd â nifer o atyniadau drwy gydol y flwyddyn, ond yn ystod yr hydref mae’r haid o fwy na 300 o ddanasod yn serenu. Maent ar eu prysuraf ym mis Hydref pan mae’r tymor paru (neu’r tymor rhidio) yn digwydd. Bydd cyrn y bychod yn taro yn erbyn ei gilydd mewn brwydr - rhai mwy ffyrnig nag eraill - gan gystadlu am yr hawl i baru gyda’r ewigoed llwyd (y ceirw benywaidd) sydd, yn y cyfamser, yn esgus nad oes ganddyn nhw lawer o ddiddordeb.
Adar hirgoes yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli
Fuasech chi ddim yn disgwyl dim llai gan bencadlys Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir (WWT) Cymru, a gyda’r holl fywyd gwyllt sydd yno, nid yw Cilfach Tywyn yn un sy’n siomi. Mae 50,000 o adar y dŵr yn cyrraedd yma bob gaeaf. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae adar y bwn, neu am ychydig o hiwmor, gwylio gormod o grehyrod bach yn trio clwydo ar yr un goeden. Efallai y gwnewch chi hefyd weld pob un o’r pum rhywogaeth o dylluanod brodorol.
Cwm Clydach
Cwm Clydach yw’r lle delfrydol i grwydro yn yr hydref. Mae’n warchodfa adar coetir ar bwys Afon Clydach Isaf. Mae’r dail amryliw yn gwneud hwn yn dymor hudolus, wrth i bilaod gwyrdd a llinosiaid pengoch bychain fwydo ar hadau’r gwern ger yr afon a dotiau lliwgar o ffwng yn carpedu’r ddaear. Yn y gaeaf, mae bwncathod, barcutiaid a chigfrain yn hedfan dros y dyffryn; bydd cochion yr adain a socanod eira yn bwydo ar eirin y ddraenen wen; a heidiau cymysg o ditwod, dringwyr bach a delorion cnau yn hedfan heibio wrth chwilota am fwyd.
Morloi llwyd ar Benrhyn Marloes
Y tafod o dir caregog hwn ar Benrhyn Marloes yw man geni a magu’r morloi llwyd yn ystod yr hydref. Mae hi hefyd yn lle gwych ar gyfer adar y gaeaf gyda digonedd o frain croesgoch yn dawnsio ar y clogwyni. Bellach, mae Cors Marloes yn lleoliad da i gael cip ar adar dŵr ac adar ysglyfaethus tymor y gaeaf, er iddi arfer bod yn enwog am ddarparu gelod i’r byd meddygol ar un adeg.
Adar dŵr yng Nghei Cydweli
Mae afonydd Tywi, Taf a Gwendraeth yn llifo i Fae Caerfyrddin, ac mae gan bob aber ei nodweddion arbennig ei hun. Castell Llansteffan yw’r lle sy’n hudo afon Tywi, tra awn i dref unigryw Talacharn i weld atyniad mwyaf afon Taf. Y fforch sy’n gwahanu’r afonydd Gwendraeth Fach a Fawr yw’r safle tawelaf o’r tri ymysg ymwelwyr. Mae hyn yn golygu ei fod yn gynefin ardderchog ar gyfer adar hirgoes ac adar y dŵr dros y gaeaf. Y lle gorau i’w cyfarch yw’r hen gei yng Nghydweli, lle’r arferai llongau lanio ganrifoedd yn ôl.
Coed hynafol Dinefwr
Ar un adeg, roedd Llandeilo yn brifddinas frenhinol hynafol, ond nid y castell sy’n gwneud Dinefwr yn lleoliad pwysig i’r genedl erbyn hyn - ond y coed. Hwn yw’r unig barcdir yng Nghymru sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol, ac mae’n enwog am y nifer o goed hynafol sydd yno: mae bron i 300 ohonynt dros 400 mlwydd oed, gyda sawl un arall dros 700 mlwydd oed. Mae maint y coed derw yn syfrdanol ac ers cyflwyno gwiwerod llwyd ym Mhrydain, mae’n annhebygol y bydd coed y wlad yn tyfu i’r maint yma byth eto.
Drudwy yn clwydo ym Mynyddoedd y Preseli
Bron nad yw ‘mynydd’ yn deitl gwbl addas yma (does dim un ohonynt yn uwch na 180m o uchder), ond mae’r bryniau yma yng ngogledd Sir Benfro yn gartref i un o’r heidiau mwyaf o ddrudwy yng Nghymru. Wrth iddi nosi, mae’r adar yn heidio mewn cymylau trawiadol, cyn swatio am y noson mewn coedlan gonwydd, i gyd wrth drio osgoi tynnu sylw’r hebogiaid a’r bodaod tinwyn lleol.
Adar y gaeaf ym Mae Abertawe
Yn ystod y gaeaf, mae cwt gwylwyr y glannau Blackpill yn cael ei drawsnewid yn Ganolfan Bywyd Gwyllt, gan gynnig defnydd o finocwlars a llawer o gyngor ar dros 70 o rywogaethau o adar y gellir eu gweld ar y traeth - lle sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac ond yn daith fer ar droed o ganol dinas Abertawe. Mae Blackpill yn safle bwydo pwysig i adar ymfudol y glannau fel pibyddion y tywod, cwtiaid torchog a phiod môr, sy’n gorffwys yma am gyfnod cyn ailgychwyn ar eu taith i lefydd pell fel Affrica a gwastatir Rwsia.
Lliwiau hydrefol yn Ystad y Gnoll
Yn ôl yn y ddeunawfed ganrif, doeddech chi ddim wir yn fonheddwr heb ardd goed, ambell adeilad trawiadol yn yr ardd a sawl rheadr odidog ar eich ystad. Mae gan Barc Gwledig Ystad y Gnoll y tair nodwedd hyn, ac yn cynnwys 240 erw o goetir a mannau agored, ac felly’n lle perffaith i grwydro o gwmpas yn yr hydref.