Dyddiau cynnar...
Roeddwn i wedi dod i’r ŵyl gyda’r teulu ers blynyddoedd, ac roeddwn wrth fy modd. Ar ôl gweithio yn y Cymoedd ar brosiectau adfywio cymunedol, roedd arnaf eisiau defnyddio’r sgiliau’r oeddwn wedi’u dysgu i ennyn diddordeb pobl mewn cymryd rhan yn yr ŵyl, a hyrwyddo twristiaeth bwyd yng Nghymru yn ehangach. Mae’n waith heriol, ond mae’n hwyl aruthrol. Wyddoch chi a yw gobstopper yn ffrwydro mewn microdon? Feddyliais i fyth y byddai arbrofion felly’n rhan o fy ngwaith beunyddiol! (Nac ydy, gyda llaw).
Doedd y swydd ddim beth oeddwn i’n ei ddisgwyl ar y dechrau. Dwi'n cael yr amrywiaeth ryfeddaf: cwrdd ag Ysgrifennydd Cymru yn Whitehall, crwydro’r strydoedd yn gosod baneri ar bolion lamp, trafod polisïau twristiaeth bwyd gyda’r Gweinidog Bwyd, mesur trelar i gadw bwyd yn oer, ymweld ag ysgolion i’w cael i ymuno â’n Hacademi Fwyd, a chael fy ffilmio ar gyfer Gwobrau Busnes Sir Fynwy. Tîm bach sydd gennym ni’n trefnu’r ŵyl, felly dwi'n torchi fy llewys yn ôl y gofyn. Dwi hefyd yn llunio rhestrau di-ri.
Gwallgof – yn y ffordd orau bosib
Mae’n wallgof yma, ond yn y ffordd orau bosib. Rydyn ni’n ceisio creu gŵyl anghyffredin a blaengar, ac yn hoff o daflu ambell i syrpreis at bobl. Mae naws hyfryd i’r ŵyl o’i chynnal ynghanol y Fenni – tref farchnad fach hyfryd nid nepell o’r ffin. Ewch chi ddim yn bell o’ch lle wrth dreulio deuddydd yma’n gloddesta a mwynhau. Mae pawb sy’n cymryd rhan yn cymryd ei grefft o ddifrif ac yn fwy na pharod i rannu arbenigedd: cogyddion o fri, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr, awduron a pherfformwyr. Fe welwch chi griw digon gwirion yn crwydro’r strydoedd yn difyrru pobl, hefyd. Rydyn ni’n llwyddo i ddenu cynhyrchwyr o’r radd flaenaf, ac rwy’n bendant o’r farn ein bod wedi creu un o’r marchnadoedd bwyd gorau ym Mhrydain.
Fe welwch chi griw digon gwirion yn crwydro’r strydoedd yn difyrru pobl, hefyd.
Does dim fath beth â diwrnod arferol
Dwi'n cael digonedd o amrywiaeth i ’nghadw i’n brysur. Y nod wrth drefnu digwyddiad mawr fel hwn yw darbwyllo pawb i ddod gyda chi ar y daith; busnesau lleol, y gymuned, noddwyr, cynhyrchwyr, perfformwyr. O’n rhan i dwi wedi glanhau ceginau, gosod cyllidebau, llunio cynlluniau busnes, llusgo bocsys o le i le. Yn 2013 enillodd yr ŵyl wobr ‘Digwyddiad Gorau Cymru’ a bydd hi’n dipyn o gamp i ni ragori ar hynny!
Mae gennym ni lawer o bethau cyffrous ar y gweill ar gyfer y dyfodol; ysgol goginio ymarferol a marchnad nos glyd a chroesawgar lle bydd pobl yn medru mynd a dod a mwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig. Arlwy arbennig o berfformiadau byw, hefyd. Rydyn ni eisiau cynnal yr ŵyl a’i datblygu. Fel hyn byddwn yn curo’r drwm dros Gymru, yn helpu i feithrin y sgiliau a’r talentau coginio sydd yng Nghymru a chadw pethau’n ffres ac yn hwyliog.