Dewch o hyd i lety ym Mae Abertawe, yn y Mwmbwls neu yng Ngŵyr i gael dewis rhagorol o draethau hyfryd o fewn tafliad carreg i chi. Mwynhewch wyliau teuluol ar y traeth, rhowch gynnig ar chwaraeon dŵr, neu ewch ar droed i fwynhau rhai o olygfeydd godidocaf Llwybr Arfordir Cymru.
Mae llawer o’r traethau sydd ar Lwybr Arfordir Cymru yn croesawu cŵn gydol y flwyddyn. Ac mae sawl traeth gwych i gŵn yng Ngŵyr, sy’n golygu ei fod yn lle penigamp i gael gwyliau gyda’ch cŵn gydol y flwyddyn gron.
Dyma ddeg o draethau i’w darganfod ym mro Abertawe. I gael mwy fyth o ddewis, darllenwch ganllaw Croeso Bae Abertawe i draethau’r fro.
Traeth Bae Rhosili
A hwnnw’n croesawu cŵn drwy’r flwyddyn, mae Traeth Bae Rhosili ar Benrhyn Gŵyr yn draeth syfrdanol. Gyda thair milltir o dywod euraidd, llwybrau ar hyd y clogwyni, bywyd gwyllt, a golygfeydd heb eu hail, mae’n lle delfrydol i wneud chwaraeon dŵr ac i fynd â’r teulu am y dydd. Mae angen dilyn llwybr serth ac arno risiau er mwyn cyrraedd y traeth.
Rhai o’r cyfleusterau:
- Mae maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (mae angen talu) 400m i ffwrdd
- Mae toiledau cyhoeddus, llefydd i newid babis a chawodydd awyr agored yn y maes parcio
- Mae’r siopau a’r caffis agosaf ym mhentref Rhosili
Cofiwch hefyd: am Ben Pyrod sydd gerllaw, tra bo llongddrylliad yr 'Helvetia' i’w weld o’r traeth.

Traeth Bae y Tri Chlogwyn
A hwnnw wedi’i enwi ar ôl y tri chlogwyn calchfaen trawiadol sy’n ei amgylchynu, mae gan Fae y Tri Chlogwyn ddigonedd o dwyni tywod i’w crwydro ynghyd â nant sy’n troelli’i ffordd ar hyd y traeth. Dyma le perffaith i fynd am dro ac i wylio bywyd gwyllt. Gallwch chi hyd yn oed wersylla uwchben y bae prydferth ym Mharc Gwyliau’r Tri Chlogwyn.
Rhai o’r cyfleusterau:
- Mae croeso i gŵn gydol y flwyddyn.
- Mae achubwyr bywydau ar ddyletswydd yn ystod y prif dymor gwyliau. Oherwydd y llanw a'r cerrynt cryf, y cyngor yw peidio â nofio na gwneud chwaraeon dŵr yma.
- Mae llefydd parcio (mae angen talu) a thoiledau 400m i ffwrdd ym Mharc Gwyliau’r Tri Chlogwyn, ac mae llefydd parcio eraill hefyd ger Canolfan Dreftadaeth Gŵyr.
Cofiwch hefyd: groesi’r nant gan ddefnyddio’r cerrig sarn.


Traeth Bae Langland
Ar arfordir deheuol Gŵyr mae Traeth Langland yn lle gwych i’r teulu, gan fod modd cyrraedd y tywod yn rhwydd gyda phramiau a chadeiriau olwyn o’r promenâd. Ewch i chwilota yn y pyllau glan môr neu fwynhau rhywfaint o syrffio. Mae Cwrs Golff Bae Langland uwchben y traeth.
Rhai o’r cyfleusterau:
- Dim cŵn ar y traeth rhwng mis Mai a diwedd mis Medi
- Mae achubwyr bywydau ar ddyletswydd rhwng mis Mai a diwedd mis Awst
- Mae llefydd parcio talu ac arddangos a thoiledau ar gael gerllaw
Cofiwch hefyd: wylio un o’r cystadlaethau syrffio rheolaidd.


Traeth Bae Oxwich
A hwnnw’n enwog am ei chwaraeon dŵr, ac wedi’i enwi yn Draeth y Flwyddyn yn y Deyrnas Unedig ddwywaith, mae gan Fae Oxwich ddwy filltir a hanner o draeth, twyni tywod a choetiroedd i’w crwydro.
Rhai o’r cyfleusterau:
- Mae croeso i gŵn gydol y flwyddyn
- Ceir llwybrau cerdded drwy goetir yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich
- Mae llefydd parcio (mae angen talu) a thoiledau ar gael gerllaw
Cofiwch hefyd: roi cynnig ar y Tŷ Sawna – sawna siâp casgen gyda thân coed ar y traeth!


Traeth y Mwmbwls
Mae traeth bychan y Mwmbwls yn lle gwych i chwilota drwy byllau glan môr – yn fwy felly na thorheulo – ond mae digonedd i’r teulu cyfan ei wneud yn yr ardal. Crwydrwch drwy bentref y Mwmbwls a’i siopau bach, neu ewch am dro ar hyd yr arfordir.
Rhai o’r cyfleusterau:
- Mae croeso i gŵn gydol y flwyddyn
- Mae toiledau a llefydd parcio (mae angen talu) ar gael gerllaw
- Mae digonedd o lefydd bwyta gerllaw
Cofiwch hefyd: am yr hwyl glan môr traddodiadol ar Bier y Mwmbwls.

Traeth Bae Abertawe
A hwnnw’n agos at ganol dinas Abertawe, mae Traeth Bae Abertawe yn ddarn eang o arfordir tywodlyd sy’n ymestyn am bum milltir o amgylch y bae. Mae digonedd i’w wneud yma – mae’n lle poblogaidd i wneud chwaraeon dŵr ac i ymlacio ger y môr. Neu beth am fynd am dro ar Lwybr Arfordir Cymru tuag at Benrhyn Gŵyr?
Rhai o’r cyfleusterau:
- Dim cŵn ar y traeth rhwng 1 Mai a 30 Medi
- Toiledau hygyrch gyda llefydd newid ar gael
- Mae modd mynd â chadeiriau olwyn a phramiau ar y traeth, gyda phromenâd llydan a llwybr beicio i grwydro’r arfordir
- Mae’n rhwydd cyrraedd yno ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae llefydd parcio (mae’n rhaid talu) ar gael gerllaw
Cofiwch hefyd: am Sioe Awyr Cymru sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn ym mis Gorffennaf.

Traeth Bae Mewslade
Traeth diarffordd, bychan, gyda llwybr serth yn arwain ato yw Traeth Mewslade. Dim ond pan fydd y môr ar drai y bydd y tywod yn ymddangos. A hwnnw wedi’i gynnwys yn rhestr y Times o’r traethau gorau, cofiwch chwilota drwy’r pyllau glan môr a mwynhau’r golygfeydd anhygoel. Mae amrediad y llanw’n golygu nad yw’n lle addas i wneud chwaraeon dŵr.
Rhai o’r cyfleusterau:
- Mae croeso i gŵn gydol y flwyddyn
- Mae llefydd parcio (mae angen talu) 400m i ffwrdd dros lwybr anwastad
- Does dim toiledau na llefydd lluniaeth gerllaw
Cofiwch hefyd: am y bywyd gwyllt sydd i’w weld yma



Bae Traeth Llangynydd
Traeth sy’n wynebu’r gorllewin ac sy’n ffefryn ymhlith syrffwyr yw Traeth Bae Llangynydd, a hwnnw nesaf at draeth Rhosili. Mae’r darn hir o dywod yn berffaith i wneud chwaraeon dŵr, i fynd am dro, ac i redeg. Dyma hefyd un o’r llefydd gorau i ddysgu syrffio yng Nghymru.
Rhai o’r cyfleusterau:
- Mae croeso i gŵn gydol y flwyddyn
- Mae llefydd parcio, toiledau a lluniaeth ar gael tua 200m i ffwrdd mewn meysydd gwersylla lleol (mae angen talu)
- Mae gwersi syrffio ar gael
Cofiwch hefyd: y gallwch chi gerdded i Ynys Lanwol – ond edrychwch ar amseroedd y llanw cyn mynd.

Traeth Bae Caswell
Mae Traeth Bae Caswell yn draeth arall yng Ngŵyr sy’n denu teuluoedd a syrffwyr. A hwnnw’n lle gwych i fynd â’r teulu am y dydd, mae yma siopau sy’n gwerthu pethau glan môr ynghyd â chaffis gerllaw. Mae Surfability UK CIC yn cynnig gwersi syrffio wedi’u teilwra i bobl sydd ag anghenion ychwanegol.
Rhai o’r cyfleusterau:
- Mae achubwyr bywydau ar ddyletswydd dros y Pasg a rhwng mis Mai a mis Medi
- Dim cŵn ar y traeth rhwng 1 Mai a 30 Medi
- Mae modd llogi cadeiriau olwyn sy’n addas i’r traeth drwy ffonio 01792 635718 ymlaen llaw yn ystod oriau swyddfa
Mae toiledau, gan gynnwys toiled a lle newid, ar gael yn y maes parcio cyfagos (mae angen talu i barcio).


Traeth Horton
Rhan o Fae Porth Einion yw Traeth Horton. Mae’n draeth tywodlyd sy’n addas i’r teulu ac mae yno ddigonedd o le. Mae’n lle da i wneud chwaraeon dŵr, i snorclo, ac i bysgota oddi ar y creigiau.
Rhai o’r cyfleusterau:
- Mae achubwyr bywydau ar ddyletswydd rhwng mis Mai a mis Medi
- Dim cŵn ar y traeth rhwng 1 Mai a 30 Medi
- Mae llefydd parcio 100m o’r traeth (mae angen talu)
Mae toiledau hygyrch ar gael gerllaw

Traeth Pwll Du
Os ydych chi’n chwilio am le tawelach, dim ond tri llwybr sy’n arwain at draeth Pwll Du. Mae’r traeth cysgodol, caregog hwn ym mhen draw dyffryn afon, a daw tywod i’r golwg pan fydd y môr ar drai. Mae’n lle delfrydol i fynd am dro, i bysgota ac i ymlacio.
Rhai o’r cyfleusterau:
- Mae croeso i gŵn gydol y flwyddyn
- Mae’r meysydd parcio agosaf yn Llandeilo Ferwallt a Southgate
- Does dim toiledau, llefydd lluniaeth nac achubwyr bywydau
Cofiwch hefyd: fod pobl yn arfer chwarela calchfaen o’r clogwyni cyfagos, felly cadwch lygad am yr hen beirianwaith.


Bae Bracelet
Bae bychan, creigiog yw Bae Bracelet, a hwnnw dafliad carreg o Bier y Mwmbwls. Mae’n lle hyfryd i fynd am dro ac i chwilota drwy’r pyllau glan môr, gyda digonedd o lefydd bwyta gerllaw.
Rhai o’r cyfleusterau:
- Dim cŵn rhwng 1 Mai a 30 Medi
- Mae llefydd parcio 200m o’r traeth (mae angen talu)
- Mae toiledau hygyrch ar gael gerllaw
Cofiwch hefyd: fod modd ymweld â’r goleudy pan fydd y môr ar drai – byddwch yn ofalus ac edrychwch ar amseroedd y llanw cyn cychwyn.


Gan bwyll!
Mae crwydro arfordir Cymru yn gallu bod yn hwyl di-ben-draw, ac mae yno gyfleoedd gwych i wneud gweithgareddau anturus. Ond darllenwch am y peryglon a chofiwch baratoi.
- Dilynwch y cyngor hwn gan yr RNLI ar gyfer bod yn ddiogel ar arfordir Cymru.
- Ewch i AdventureSmart.uk i gael rhagor o wybodaeth am sut i fod yn ddiogel wrth grwydro Cymru.
Byddwch yn gyfrifol wrth gerdded eich cŵn, a dilynwch y Cod Cefn Gwlad a’r Cod Cerdded Cŵn. Diolch!
