Lle bynnag wyt ti yng Nghymru, fyddi di byth ym mhell iawn oddi wrth sawna ar lan y môr. Mae’r rhain wedi croesi Môr y Gogledd o Sgandinafia ac wedi ymddangos ar hyd a lled Llwybr Arfordir Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn swatio ar lannau tywodlyd, cildraethau cudd a phromenadau poblogaidd. Dyma rai o'r sawnas gorau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, i’w profi ar ddiwedd taith gerdded aeafol, braf gyda ffrindiau a theulu.
Bae y Tri Chlogwyn i Fae Oxwich a Tŷ Sawna
Pan fydd y llanw allan, mae Bae y Tri Chlogwyn a Bae Oxwich ar Benrhyn Gŵyr yn troi yn un stribyn hir, gan ei gwneud hi'n hawdd cerdded o un traeth i'r llall a mwynhau tawelwch y gornel ddiarffordd hon o Gymru. Os byddai'n well gen ti gymryd dy amser a pheidio â chael dy gyfyngu gan y llanw, dos ar y llwybr arfordirol hirach, 12 cilomedr o hyd, uwchben y twyni tywod a'r pentir – gyda'r llwybr hirach fe gei di olygfeydd hyd yn oed mwy syfrdanol o glogwyni Gŵyr.
Gorffen dy daith gerdded ym Mae Oxwich yn Tŷ Sawna, sy’n sawna coed a agorwyd yn 2022 gan Harri Barker. Mae'r profiad sawna syml hwn yn berffaith ar gyfer cerddwyr, nofwyr môr, syrffwyr ac ymarferwyr lles i gynhesu ac adfywio ar ôl trochiad yn yr heli. Daw’r gwres o stôf llosgi pren Harvia ac mae golygfeydd hyfryd o'r traeth trwy ffenestr siâp hanner lleuad - pa ffordd well o ymlacio ar ôl ymlwybro trwy Dirwedd Genedlaethol gyntaf y DU.
Dinbych-y-pysgod i Saundersfoot a Sea and Steam
Dwy o drefi glan môr enwocaf de Sir Benfro? Mewn un daith gerdded werth chweil? Does dim byd gwell. Dechreua’r daith gerdded 7 cilomedr hon o draeth y de yn Ninbych-y-pysgod tuag at dref Saundersfoot, sy’n gartref i Westy St Brides a bwyty Lan y Môr ar ei newydd wedd (Coast gynt) a grëwyd gan Hywel Griffith (The Beach House) a Gerwyn Jones (The Grove at Narberth). Mae'r llwybr yn un heriol ond hardd, gan gynnig golygfeydd o dde Sir Benfro nad ydyn nhw i’w gweld o unman heblaw am Lwybr yr Arfordir.
Gorffen dy daith yn Sea and Steam ar draeth Saundersfoot, sy'n eiddo i ddwy ddynes leol, Kerry a Bryony, a gyfarfu mewn digwyddiad lles ychydig flynyddoedd yn ôl ac a ddaeth yn ffrindiau pennaf. Mae Sea and Steam yn ymfalchïo mewn defnyddio adnoddau lleol a chefnogi bioamrywiaeth Saundersfoot, gyda'r pren a ddefnyddir yn y sawna yn dod o fusnes teuluol lleol. Ffordd swynol o orffen diwrnod o gerdded.
Gogledd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a 'Wildwater Sauna'
Allai gogledd a de Sir Benfro ddim bod yn fwy gwahanol. Mae gogledd Sir Benfro yn cynnig tirwedd fwy diarffordd a garw na de’r sir, gan gynnwys lleoliadau eiconig fel Tyddewi, dinas leiaf y DU, Morlyn Glas Abereiddi a Phen Dinas.
Ar grwydr o gwmpas y rhan brydferth hon o Gymru mae Wildwater Sauna, sef sawna symudol, moethus nad yw byth yn aros yn yr un lle, ond sydd yn hytrach yn symud yn ôl y tymhorau a'r llanw. Ar hyn o bryd mae wedi'i leoli ar draeth Pwllgwaelod ar Ben Dinas. Cer ar y llwybr cylchol 12 cilomedr o hyd o amgylch y pentir garw cyn gorffen yn y sawna Sgandinafaidd hwn sydd wedi'i gydnabod fel un o'r 'sawnas gorau ar lan y môr' gan The Times. Mae 'Wildwater Sauna' yn teithio i fyny ac i lawr arfordir gogledd Sir Benfro, gan aros ar draethau anhygoel fel Niwgwl, Porth Mawr, Porthclais a Nolton Haven, gan roi cyfle unigryw i ymwelwyr fynd i nofio mewn rhan wahanol o'r arfordir ar bob ymweliad.
Penbryn i Langrannog a Sawna Llosgi
O un llain euraidd o dywod i'r llall, mae'r darn trawiadol hwn o Lwybr Arfordir Cymru yn dechrau ger eglwys drawiadol o’r drydedd ganrif ar ddeg ym Mhenbryn, ac yn gorffen ar draeth enwocaf Ceredigion, Llangrannog. Nid yw'r daith gerdded 4 cilomedr hon ar gyfer dechreuwyr, gyda rhiwiau serth ar hyd y ffordd, ond cofia y galli di gymryd hoe i fwynhau’r golygfeydd arbennig o bennau’r clogwyni a’r môr islaw. Ymlacia ar ôl y daith yn Sawna Llosgi ar draeth Llangrannog, y sawna arfordirol cyntaf yng Ngheredigion i ddefnyddio tanau coed, ac a sefydlwyd gan y syrffwyr lleol Sam a Vinny. Mae stôf llosgi coed Harvia yn tanio'r berl hon yn un o fannau syrffio enwocaf Cymru.
Ynys Môn a Sawna Bach
Mae Llwybr Arfordir Môn o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig, ac yn mynd trwy dirweddau sy'n cynnwys cymysgedd o dir fferm, rhostir arfordirol, twyni, morfeydd heli, blaendraethau, clogwyni ac ychydig glystyrau bach o goetir, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG). Mae digonedd o lwybrau cerdded ond mae’r daith gylchol 12 cilomedr o hyd rhwng Rhosneigr a Thŷ Croes, sy'n cynnwys golygfeydd ar draws Bae Tremadog tuag at Benrhyn Llŷn hefyd yn gartref i Sawna Bach, sy’n cuddio yn nhwyni tywod traeth Porth Tyn Tywyn. Galli ymlacio yn ystod dyddiau heulog a swatio’n glyd yn ystod dyddiau llwydaidd y gaeaf yn y sawna hwn sy’n rhedeg ar danau coed. Mae wedi'i rannu’n ddwy lefel gyda ffenestr fawr yn edrych dros y traeth lle galli fwynhau golygfeydd o Benrhyn Llŷn, a chynhelir sesiynau Lleuad Llawn cymunedol bob mis.
Sawnas ar lan y llyn yng Nghymru
Bethesda i Lanberis, a Sawna Bach yn Llanberis
I fwynhau taith gerdded heb fod ar yr arfordir gyda phrofiad sawna i orffen, dilyna un o'r llwybrau llechi sy'n rhan o Safle Treftadaeth y Byd diweddaraf Cymru, tirwedd llechi unigryw Gogledd Cymru. Yma galli fwynhau rhyfeddodau Parc Cenedlaethol Eryri, gan gynnwys taith gerdded ar Lwybr Llechi Eryri, ac mae'r rhan o Fethesda i Lanberis yn mynd trwy galon y diwydiant llechi byd-enwog, hanesyddol. Ar ôl dilyn Afon Ogwen am ychydig, mae'r llwybr yn dringo allan o Ddyffryn Ogwen i Fynydd Llandygai. Yna croesa'r rhostir gwyllt Gwaun Gynfi, ac mae llwybrau da yn arwain at Barc Padarn, Amgueddfa Lechi Cymru a Llanberis.
Yn ogystal â'u canolfan ym Môn, mae gan Sawna Bach ail sawna clad pren wedi'i lleoli ar ymyl Llyn Padarn yn Llanberis. Mae'r lleoliad yn cynnig golygfeydd trawiadol ar draws y llyn, gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir trawiadol.
Pwll Ceidwad i'r Blorenge ac Y Sawna
Wedi'i leoli yn ne y Bannau Brycheiniog, mae Pwll y Ceidwaid ym Mlaenafon yn lle gwych ar gyfer taith gerdded gylchol, gyda sawna wedi'i leoli wrth ymyl y llyn. Yn wreiddiol, roedd Pwll y Ceidwaid yn cyflenwi dŵr ar gyfer Garnddyrys Forge gerllaw, ac mae bellach yn fan picnic poblogaidd i fwynhau'r golygfeydd. Mae'r daith gerdded o Bwll Ceidwad i'r Blorenge tua 5 km o hyd, gyda golygfeydd hyfryd ar draws Dyffryn Wysg tuag at fynydd Pen-y-fâl a'r Mynyddoedd Du.
Fel arfer, mae'r sawna symudol coed Y Sawna wedi'i osod ym Mhwll Ceidwad ar ddydd Sul a bore Llun. Gellir archebu sesiynau ymlaen llaw, gyda phob sesiwn yn para 15 munud.