Clogwyni Ynys Lawd, Ynys Môn
Ym mhen draw Ynys Gybi, Ynys Lawd yw un o’r mannau gorau i weld miloedd ar filoedd o adar môr yn galw: yn y gwanwyn, mae’r clogwyni’n drwch o wylogod, llursod a phalod. Mae’r 44 o risiau’n golygu na ellir mynd â choets i’r goleudy, ond ceir llwybr da iawn o’r maes parcio isaf i’r rhostir, ac i fyny i olygfan o flaen Tŵr Elin. Cadwch lygad am gampau’r brain coesgoch, yr aelodau mwyaf siriol o deulu’r brain o bell ffordd.
Parc Bute, Caerdydd
Yng nghanol ein prifddinas, mae 56 hectar Parc Bute yn lle delfrydol i blant bach (a rhieni) redeg yn wyllt, ac yno filltiroedd o lwybrau tarmac, llwybr chwarae’r coetir, canolfan addysg a dau gaffi da iawn. Ond mae hefyd yn rhyfeddol o dda am fywyd gwyllt, o ystyried mor drefol yw’r ardal o’i gwmpas. Mae glas y dorlan, trochwyr a dyfrgwn yn hela yn Afon Taf, a hebogau tramor yn patrolio’r awyr – mae un pâr yn nythu yn nhŵr cloc Neuadd y Ddinas gerllaw. Byddwch yn clywed drymio’r cnocellau brith mwyaf, a chri’r cnocellau gwyrdd. Ceir hefyd 3,000 o goed, a llwybr cod QR a fydd yn apelio at bobl ifanc technolegol eu meddwl.
Pyllau Lili Bosherston, Sir Benfro
Crëwyd rhwydwaith o lynnoedd gan uchelwyr Sioraidd er mwyn cael rhywbeth hardd i edrych arno o’u plasty ysblennydd, Cwrt Ystangbwll. Dymchwelwyd hwnnw amser maith yn ôl, a meddiannwyd y llynnoedd gan ddyfrgwn, gweision y neidr ac adar. Daw’r llwybr milltir (1.6km) gwastad hwn heibio i’r pyllau lili hardd, a dyma’r ffordd rwyddaf o gyrraedd traeth hyfryd Aberllydan. Ni all cadeiriau gwthio fynd yn rhwydd dros yr hanner milltir o dro draw i fae Barafundle, ond bydd plant hŷn wrth eu bodd yn stryffaglio dros y clogwyni.
Bwlch Nant yr Arian, Ceredigion
Mae’r cyfuniad hwn o fynydd/coedwig/llyn ym mhen pellaf cwm anghysbell gyda golygfeydd gwych o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria. Bwlch Nant yr Arian yw’r man cychwyn i bob math o anturiaethau heicio/beicio/marchogaeth, a hefyd un o’r mannau gorau i weld barcutiaid coch yn cael eu bwydo’n ddyddiol. Mae'r Llwybr Barcud, sy’n addas i goetsys, o gwmpas ymyl y llyn lle mae’r cyffro’n digwydd: ar amserau brig, daw tua 150 o farcutiaid coch am eu cinio dyddiol (2yh yn y gaeaf; 3yh yn yr haf).
Gwarchodfa Natur Pwll y Wrach, Bannau Brycheiniog
‘Pwll y Wrach’ – dyna enw sy’n siŵr o danio brwdfrydedd y plant bach! Cafodd y pwll ei gerfio gan raeadr lle mae Afon Enig yn plymio i lawr ceunant coediog ger Talgarth. Ceir llwybr mynediad hawdd o’r maes parcio i ganol y warchodfa, lle dylai traed bach ymdopi’n rhwydd â’r rhwydwaith o lwybrau baw. Mae’n hyfryd dros ben yma yn y gwanwyn, pan fydd blodau’r gwynt yn gwthio fel sêr gwynion drwy garped melyn o lygaid Ebrill. Yn ddiweddarach, bydd clychau'r gog yn britho llawr y coetir â gwawr las, a phersawr meddwol garlleg gwyllt yn llenwi’r aer.
Penrhyn Marloes, Sir Benfro
Anaddas braidd yw ynysoedd gwarchodfa bywyd gwyllt Sir Benfro i gadeiriau gwthio, ond gallwch eu mwynhau o’r tir mawr ar dro hyfryd iawn ar hyd y clogwyn ar Benrhyn Marloes sy’n dilyn llwybrau glaswelltog hawdd. Gallwch weld dolffiniaid, llamidyddion a digonedd o forloi yn y dyfroedd islaw, a mwynhau golygfeydd gwych o ynysoedd Sgomer a Sgogwm. Nodyn natur i’r rhai bach: mae Ynys Gwales yn y pellter yn ddisglair o wyn, ond nid eira sydd yno. Miloedd ar filoedd o dunelli o ‘gwano’ sydd yno, sef ein gair ni’r arbenigwyr am faw adar.
Canolfan Natur Cymru, Sir Benfro
Mae digonedd o lwybrau pren a llwybrau gwastad o amgylch gwarchodfa natur Corsydd Teifi, lle gallwch weld amrywiaeth helaeth o adar ac anifeiliaid brodorol. Nid brodorion mo'r ych yr afon sy’n byw yma, ond maen nhw’n gwneud gwaith gwych yn pori’r corsydd ar ran anifeiliaid eraill. Yn y ganolfan groeso, mae adran dysgu drwy chwarae lle mae gweithgareddau lliwio, tynnu llun a chwisiau ar thema bywyd gwyllt. A pheth arall, mae’r cacennau cartref yn andros o dda.
Gwarchodfa Natur Cors Caron, Ceredigion
Unwaith, buom yn holi’r naturiaethwr teledu, Chris Packham, am ei hoff lecynnau yng Nghymru, a dyma fe’n cyffroi’n lân am gors helaeth Cors Caron. Pam? Oherwydd, er nad yw cyrs mor ddramatig â mynyddoedd o ran mynnu ein sylw, maen nhw’n denu amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt. Ond, wrth gwrs, maen nhw’n gallu bod braidd yn gorslyd, felly mae’r 1.5km o lwybr pren yn ffordd synhwyrol o archwilio’r baradwys natur wlyptir hon pan fyddwch yn gwthio bygi. Hawdd yw cerdded y 6km o lwybr caled ar hyd ymyl y warchodfa hefyd. Mae’r ardal yn dda dros ben am adar ysglyfaethus prinnach, a bodaod tinwyn, cudyllod bach, hebogiaid yr ehedydd a gweilch Marthin yn byw yma. Gwelwyd eryr euraid yma hefyd (wedi dianc, yn ôl pob tebyg) – cewch bwyntiau bonws triphlyg os gwelwch chi un o’r rheini.
Parc Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
Mae Parc Dinefwr yn gartref i blasty, castell o’r 12fed ganrif, parc ceirw a llwybrau natur – rydym wedi gwneud y cyfan gyda choets (mae’n dipyn o ymdrech wrth ddringo’r rhiw olaf i Gastell Dinefwr, cofiwch). Ond i fynd am dro ysgafnach, byddem yn dewis y llwybr pren gwastad hir i’r pwll melin, neu daith mewn tractor a threlar o gwmpas yr ystâd. Beth bynnag, fyddwch chi ddim yn colli’r golygfeydd gwych o’r dyffryn a’r coed anferthol sydd dros 700 mlwydd oed – a hwythau eisoes yn fawr felly pan oedd Owain Glyndŵr yn brysur yn gosod gwarchae ar y castell ym 1403.
Llwybr Arfordir y Mileniwm, Sir Gaerfyrddin
Llwybr Arfordir y Mileniwm yw brenin yr holl lwybrau cadair wthio: 13 milltir (21km) o darmac llyfn, di-draffig yr holl ffordd o Lanelli i Ben-bre. Mae Moryd Llwchwr yn cynnig digon o gyfle i weld bywyd gwyllt ar ei hyd, ond i gael gweld yn agosach ewch i Ganolfan Wlyptir Llanelli. Yno, gwnaethpwyd ymdrech fawr i apelio at blant, gyda llawer o ardaloedd chwarae, llwybrau gweithgaredd, digwyddiadau a chyfleoedd i fwydo’r adar gwyllt â llaw.