Cronfa Ddŵr Wysg
Dyma le tywyll ardderchog sy’n cael ei warchod rhag llygredd golau Cymoedd De Cymru. Ceir digonedd o leoedd parcio wrth Gronfa Ddŵr Wysg ac mae’n hawdd ei gyrraedd o ardal Trecastell. Bwytewch bicnic gyda’r teulu wrth i’r haul fachlud, cyn paratoi eich telesgop i fwynhau awyr dywyll eithriadol.
Cyfesurynnau daearyddol: G 51.56.58, Gn 03.41.55
Canolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol
Dyma le gwych i osod eich telesgop. Mae arwyddion yn dangos y ffordd i Ganolfan Groeso'r Parc Cenedlaethol o’r A470 ym mhentref Libanus ac mae’n hawdd i’r cyhoedd ei chyrraedd yn ystod golau dydd a nos. Dim ond awr o yrru ydyw i ffwrdd o holl Gymoedd De Cymru. Mwynhewch olygfeydd ac awyr ysblennydd gyda therfyn maint o 6.37.
Cyfesurynnau daearyddol:: G 51.56.02, Gn 03.28.40
Cronfa Ddŵr Crai
Mae’r gronfa ddŵr hon yn hynod o dywyll ond, gwaetha’r modd, dim ond ambell leoliad yma sydd o fewn cyrraedd y gwyliwr achlysurol. Mae cae gerllaw’r pentref yn cynnig golygfeydd gwych a lle parcio. Ceir hefyd encilfeydd ochr yn ochr â’r A4607, sy’n llecynnau delfrydol i fwynhau harddwch yr awyr dywyll.
Cyfesurynnau daearyddol: G 51.54.52, Gn 03.35.12
Cronfa Ddŵr Pontsticill
Gellir cyrraedd y lle gwych hwn o Ferthyr Tudful. Mae’r gronfa ddŵr yn boblogaidd ymhlith pysgotwyr genwair a phicnicwyr gyda’r dydd, a sêr-dremwyr a’u telesgopau gyda’r nos. A hynny oll am fod y safle’n cynnig golygfeydd rhagorol o awyr y nos, gyda llawer o leoedd parcio ar hyd glannau’r gronfa ddŵr.
Cyfesurynnau daearyddol: G 51.48.56, Gn 03.22.17
Llyn Syfaddan
Hawdd yw cyrraedd Llyn Syfaddan, gyda digonedd o leoedd parcio, i fwynhau golygfeydd ardderchog o’r Llwybr Llaethog a nifer o wrthrychau awyr ddofn y gellir eu gweld â’r llygad noeth. Mae'n rhannu ei leoliad gyda chanolfan weithgareddau awyr agored, sy’n cyfrannu ychydig o oleuni crwydr, ond prin iawn y mae’n amharu ar y man hardd adnabyddus hwn.
Cyfesurynnau daearyddol: G 51.56.07, Gn 03.16.13