Yn ogystal â'r tri safle Zip World yng Ngogledd Cymru, mae yno bedwerydd safle - a'r mwyaf diweddar i ymuno â'r teulu - sef Zip World Tower. Wedi'i ddatblygu ar hen safle glofaol Glofa'r Tŵr yn Rhondda Cynon Taf, mae Zip World Tower yn gartref i ddwy reid gwifren wib wefreiddiol - Phoenix a Tower Flyer.
Phoenix yw'r wifren wib sedd gyflymaf yn y byd a'r mwyaf serth yn holl ganolfannau Zip World. Mae pedair gwifren wib wedi eu lleoli wrth ymyl ei gilydd, sy'n rhoi'r cyfle i chi rasio ffrindiau a theulu ar gyflymdra o hyd at 70 mya. Yn rhan gyntaf y wifren Phoenix byddwch yn reidio i lawr mynydd y Rhigos ac ar draws cronfa ddŵr Llyn Fawr, gan weld golygfeydd panoramig syfrdanol tuag at ben y pwll glo. Mae’r ail linell yn mynd â chi yn ôl i Lofa’r Tŵr, taith sydd bron yn filltir i gyd.
Bydd yna gyffro mawr, ac ychydig o nerfau yn ôl pob tebyg, o'r eiliad y byddwch yn cyrraedd. Byddwch yn cael eich cludo ar fysiau o'r dderbynfa i gael eich offer gwibio - gogls, helmedau a harneisiau - cyn i’r holl glaspiau a’r carabiners fynd trwy archwiliad diogelwch manwl i dawelu'ch meddwl cyn y wibdaith. Yna, byddwch yn barod i adael y platfform a mwynhau’r cyfan ar y ffordd i lawr.
Os nad ydych chi'n gwbl barod i brofi llif adrenalin y Phoenix, mae’r Tower Flyer yn antur gwifren wib llai gyda dwy linell yn rhedeg ochr yn ochr, sy’n rhoi'r cyfle i chi rasio yn erbyn eich gilydd. Gall plant o dair oed gymryd rhan gydag oedolyn, neu gall plant o naw mlwydd oed i fyny fynd ar y wifren eu hunain gyda oedolyn yn gwylio. Mae hon yn wifren addas ar gyfer y rhan fwyaf o deuluoedd.
Mae yna dair rhan i'r wibdaith, a phob rhan hefo golygfeydd godidog o fynyddoedd y Rhigos. Bydd yn hedfan 115 metr wrth ochr Glofa hanesyddol y Tŵr ar y wifren gyntaf, gan lanio ar yr ail dŵr. Yna, byddwch yn hedfan 80 metr pellach ar yr ail wifren wib, gan lanio ar y trydydd tŵr ar gyfer eich taith olaf sef 75 metr ar hyd y wifren wib olaf, cyn glanio’n ddiogel ar y ddaear.
Pan fyddwch chi yn barod am hoe, mae Bar Cegin Glo a Bistro wrth law i’ch adfywio gyda bwyd a diod lleol wrth i chi fwynhau’r golygfeydd. Mae’r patio yng Nghegin Glo wedi’i greu â llechi o dirwedd Gogledd Orllewin Cymru, sydd wedi’i ddynodi’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.