Dwi wir wedi cwympo mewn cariad gyda Merthyr dros y blynyddoedd. Roedd symud o dref fach Llandeilo yn sir Gaerfyrddin i Ferthyr Tudful yn agoriad llygad mawr i fi, ond buan y gwnes i ddod o hyd i’r ‘harddwch cudd’ sydd i’w ganfod yma. Gadewch i mi fynd â chi ar siwrne trwy rai o fy hoff lefydd yn y dref hanesyddol rydw i erbyn hyn yn alw yn adre.
Theatr a Caffi Soar
Canolfan a Theatr Gymraeg Soar yw’r hwb ar gyfer unrhyw beth sy’n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg ym Merthyr Tudful, boed hynny yn wersi Cymraeg neu’n waith creadigol, cwmni neu baned yn y caffi. Mae hefyd yn lle gwych i brynu cynnyrch lleol yn anrheg – mae digon yma i gynnal diddordeb unrhyw un.
Hen gapel Soar sydd wedi ei adnewyddu yw’r theatr ei hun, gan gymryd mantais o’r hen organ bib oedd yn y capel, sy’n cael ei defnyddio fel cefndir syfrdanol ar gyfer nifer o wahanol sioeau Cymraeg a Saesneg sy’n cael eu llwyfannu yma. Gan gynnig amrywiaeth o ddramâu, gigiau byw, nosweithiau barddoniaeth a llawer iawn mwy, dyma yn sicr yw un o fy hoff lefydd i fynd yn y dref.
Taith Trevithick / Llwybr Taf
Llwybr Taf yw un o'r llwybrau troed mwyaf cyfleus a hardd yn ardal Merthyr. Os ydych chi, fel fi, yn byw ar gyrion canol tref Merthyr, yna mae cerdded i ganol y dref o stepen drws fy nghartref yn Aberfan yn ffordd wych a chyfleus o leihau effaith eich ôl-troed carbon. Mae’r golygfeydd prydferth sy'n arwain o Aberfan hyd at Troedyrhiw ac i mewn i Ferthyr, yn debyg i lun cerdyn post, a gallwch weld y Bannau Brycheiniog a Phen-y-Fan yn ystod y daith.
Yr Hydref yw fy hoff amser o'r flwyddyn i gerdded ar hyd Llwybr Taf o Aberfan i Merthyr. Rwyf wrth fy modd yn gweld y dail yn cwympo ar y llwybr ac yn crensian oddi tanaf wrth i mi gymryd pob cam. Rwyf hefyd yn hoffi cerdded i'r dref i gael pryd o fwyd, ac yna dal trên yn ôl ar ddiwedd y dydd. Rwy’n edrych ymlaen at gael gwneud hyn eto post-lockdown.
Castell Cyfarthfa
Alla i dreulio drwy’r dydd o fewn waliau Castell Cyfarthfa. Mae’r amgueddfa tu fewn bellach dros 100 mlwydd oed ac yn gartref i gelf ac arteffactau hanesyddol sy’n gysylltiedig â Merthyr Tudful.
Ar ôl treulio amser yn yr amgueddfa, gallwch fynd am dro ar hyd un o’r nifer o wahanol lwybrau cerdded sydd wedi gwasgaru ar draws yr ardal, ac os oes plant ‘da chi (neu ddim!) beth am ymweld â ‘The Active Zone’, parc chwarae anhygoel gyda ‘splash-pad’. Hwyl i bob oed!
Gorffennwch eich diwrnod drwy gael blas ar ychydig o fwyd lleol sydd wedi ei baratoi’n ffres yn yr ystafelloedd te. Wir, mae digon o bethau i gadw pawb yn brysur yma.
Canolfan Siopa'r Santes Tudful
Rheswm arall i garu Merthyr yw gan fod rhywbeth ar gael yma i bawb! Os yn siopa am anrhegion ar gyfer ffrind neu aelod o’r teulu, neu os yn mynd i wneud eich siopa wythnosol, mae Canolfan Siopa'r Santes Tudful yn un o farchnadoedd unigryw y Cymoedd.
Un o’r trysorau yn y ganolfan yw Bakestone’s, lle alle chi gael Pice ar y maen wedi’u coginio yn ffres gan y perchennog Chris Jones, sydd hyd yn oed wedi dysgu Jamie Oliver sut i goginio ei rysáit arbennig!
Bwyta allan ym Merthyr
Tra’n trafod bwyd, mae’n werth nodi ein bod wedi’n difetha o ran y dewis o lefydd bwyta ym Merthyr, gyda rhywbeth ar gael at ddant pawb. Mae amrywiaeth o gaffis pysgod a sglodion, yn cynnwys fy ffefryn sydd gyda’r sglods mwyaf fluffy a crispy i fwynhau ar ddiwedd wythnos brysur, Fountain Fish Bar. Mae yna hefyd Glebelands Fish Bar, sydd yn rhan o fy hoff fish bars ym Merthyr.
Os yn chwilio am noson allan ffansi, mae Jol’s yn cynnig ystod eang o brydau bwyd Cymreig o ansawdd, wedi eu paratoi gan gogydd o’r safon uchaf, neu pam ddim mwynhau pryd o fwyd o’r enwog the New Crown Inn? Lleoliad cerddoriaeth bywiog yng nghanol tref Merthyr sy'n gweini danteithion Portuguese blasus.
Felly dyna ni! Dyma fy nhaith fach o amgylch Merthyr, a dim ond blas o'r hyn sydd gan Ferthyr i'w gynnig yw hyn. Boed yn ddiwrnod allan i'r teulu neu'n benwythnos ar ben mynyddoedd gwyntog creigiog Merthyr, neu brynhawn o gacennau Cymreig a phaned yn y farchnad fach glyd - croeso i Ferthyr Tudful!
Dilynwch Eädyth ar Instagram i ddarganfod mwy am ei phrosiectau cerddorol diweddaraf.