Mae’r pethau gorau mewn bywyd, medden nhw, am ddim. Yng Nghymru, mae’r mynyddoedd, y traethau, y machlud a’r golygfeydd i gyd yn rhad ac am ddim. Ond yn ychwanegol at yr holl bethau anhygoel mae natur yn ei gynnig ar blât i ni yma, mae rhai atyniadau gwych sydd hefyd am ddim.
Castell Dryslwyn
Mae’n costio ychydig i ymweld â rhai o’r 400 a mwy o gestyll sydd yng Nghymru, tra bo eraill am ddim i grwydro o’u hamgylch. Mae Castell Dryslwyn yn Sir Gâr yn llai adnabyddus na chastell cyfagos Dinefwr, ond mae’r golygfeydd o Ddyffryn Tywi o’r adfail o gastell ar y bryn ac o’r pentref yn ddiguro.

Chwilio am ddolffiniaid
Mae digon o deithiau cwch y mae’n rhaid talu amdanyn nhw ar gael sy’n mynd allan i Fae Ceredigion i weld y dolffiniaid, y llamhidyddion a’r morloi lleol, yn ogystal ag ymwelwyr egsotig fel morfilod a siarcod digon diniwed. Ond os nad ydych chi eisiau gwario ceiniog, ewch i eistedd ar ben clogwyn yn rhywle hardd, fel Mwnt yng Ngheredigion, a gwyliwch y bywyd gwyllt oddi tannoch chi.

Geogelcio
Mae gan y rhan fwyaf o bobl ffonau â GPS y dyddiau hyn. Dyna’r cwbl sydd ei angen arnoch chi er mwyn Geogelcio, gêm cuddio fyd eang â bron i ddwy filiwn o ‘drysorau’ i ddod o hyd iddyn nhw. Mae’r criw draw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wir wedi mynd amdani gyda Geogelcio: maen nhw wedi plannu 180 o drysorau i chi eu ‘celcio’ neu ddod o hyd iddyn nhw ar hyd y Parc. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd ddau lwybr Geogelcio ym Mharc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau. Ni fydd plant (nac oedolion!) byth yn diflasu wrth fynd i gerdded yn y wlad eto!


Parc Gwledig Margam
Mae’r castell godidog, yr orendy o’r 18fed ganrif, y gerddi addurnol a’r parc ceirw ym Mharc Gwledig Margam ym Mhort Talbot wedi eu lleoli o fewn 1,000 acer o dir gwledig. Mae yno hefyd reilffordd bach cul, parciau chwarae antur, ardal chwarae i blant sy’n seiliedig ar hwiangerddi, a llwybr fferm i weld anifeiliaid prin - digon i’ch cadw chi’n brysur. Mae mynediad i’r parc ei hun ac i’r rhan fwyaf o’r atyniadau yno am ddim, ond cynhelir digwyddiadau arbennig yno weithiau a gall fod cost i fynd i mewn bryd hynny.



Ynys Llanddwyn
Mae pob milltir (870 milltir a bod yn fanwl) o Lwybr Arfordir Cymru am ddim i bawb ei gerdded. Un lle sy’n bendant gwerth mynd yno ydi Ynys Llanddwyn. Mae’r ‘ynys’ hudolus, sy’n cael ei thorri oddi ar y tir mawr gan ddŵr o bryd i’w gilydd, yn lle perffaith ar gyfer antur i’r teulu yn Ynys Môn. Cerddwch drwy’r warchodfa natur nes cyrraedd yr hen oleudy a’r capel sydd wedi adfeilio.

Amgueddfeydd Cenedlaethol
Mae ein saith o Amgueddfeydd Cenedlaethol wedi eu gwasgaru ar draws Cymru. Rhyngddyn nhw, maen nhw’n mynd i’r afael â phob agwedd o fywyd a hanes Cymru, o’r gorffennol i’r cyfnod modern. Mae yna gelf, diwylliant, astudiaethau natur, glo, gwlân, llechi, diwydiant, treftadaeth Rufeinig a mwy, â phob safle yn cynnig diwrnodau allan gwych i’r teulu. A chan ystyried eu bod yn dal casgliadau o safon, mae’n anhygoel eu bod nhw i gyd am ddim i ymweld â nhw.



Drysau Agored
Mae mis Medi yn fis o fargeinion diolch i gynllun Drysau Agored Cadw. Mae’n cynnig mynediad am ddim i amryw o adeiladau a safleoedd treftadaeth ar draws Cymru ynghyd â digwyddiadau o bob math. Mae’r cost mynediad arferol yn cael ei ollwng tra bo llefydd sydd fel arfer am ddim i fynd i mewn yno beth bynnag yn cynnig rhywbeth ychwanegol, fel taith tu ôl i’r llen ac arddangosfeydd.


Cadeirlan Tyddewi
Yn ninas leiaf Prydain y dewch chi o hyd i un o gadeirlannau harddaf y wlad. Cafodd Cadeirlan Tyddewi ei hadeiladu yn y 12fed ganrif o garreg o liw mêl ar safle’r fynachlog a sefydlwyd yno 600 mlynedd yn gynharach gan Dewi Sant ei hun. Mae’n lle gwych i ymweld ag o ac, fel addoldai eraill, mae am ddim i fynd i mewn (er bod cyfraniad bychan yn cael ei groesawu).

Oriel Môn
Mae Oriel Kyffin Williams yn Oriel Môn yn talu teyrnged i arlunydd enwocaf Cymru. Mae yno o hyd rhai o’i weithiau mwyaf trawiadol ar ddangos. Mewn rhan arall o’r adeilad, mae arddangosfeydd tymhorol gan arlunwyr, cerflunwyr a chrefftwyr eraill, yn ogystal ag amgueddfa wych am hanes Ynys Môn a chaffi gwerth chweil hefyd.
Darllen mwy: Mwy o atyniadau Ynys Môn.
Traphont ddŵr Pontcysyllte
Un o’r campweithiau gorau o ran camlesi Cymru yw traphont ddŵr Pontcysyllte ger Llangollen. Mae mor arbennig fel ei fod yn rhan o Safle Treftadaeth Byd UNESCO, ynghyd â’r gamlas 11 milltir yn Llangollen. Gallwch chi gerdded ar hyd y bont 40m o uchder os ydych chi’n teimlo’n ddewr (mae’n mesur ychydig dros 300 metr o hyd) neu gallwch chi gerdded oddi tani. Y naill ffordd neu’r llall, mae’r 19 bwa werth eu gweld.

Llwybr Alice in Wonderland
Yn ôl y sôn, yn y 1860au roedd Alice Liddell (yr Alice in Wonderland go iawn a ysbrydolodd Lewis Carroll) yn arfer treulio sawl haf ar wyliau yn Llandudno. Er nad yw cofnodion hanesyddol yn gallu tystio am hyn yn gwbl glir, mae Llandudno wedi gwneud y mwyaf o’r cysylltiad ag Alice ers 1933 pan godwyd cerflun o’r Gwningen Wen yno. Heddiw, gallwch chi ddilyn Llwybr Alice drwy’r dref lle dewch chi ar draws dros 50 o gerfluniau a ffigyrau 3D o gymeriadau Lewis Carroll ar draws Llandudno. Gallwch ddilyn map (ar gael o’r ganolfan gwybodaeth i ymwelwyr), lawrlwytho ap Alice Town Trail ar eich dyfais symudol neu’n syml ddilyn eich trwyn a dod o hyd iddyn nhw drwy grwydro’r dref.


