Amgueddfa Cymru
Ewch i un o Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru. Mae mynediad am ddim i'r saith safle ac mae digon o bethau i'w gweld ar gyfer pob oedran, beth bynnag yw'r tywydd.
Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau mae gweithdai tynnu llun o arwr hanesyddol, ac yn Amgueddfa Wlân Cymru mae gweithdai crefft gyda Menter Gorllewin Sir Gâr.


Teithiau BBC Cymru, Caerdydd
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae effeithiau sain yn cael eu hychwanegu at eich hoff bodlediadau? Neu sut deimlad yw darllen y newyddion? Ymunwch â'r tywyswyr cyfeillgar ar daith y tu ôl i'r llenni yn BBC Cymru, Caerdydd. Cewch ymweld â stiwdios newyddion, chwaraeon a radio newydd sbon, dysgu am gyfrinachau y tu ôl i greu rhaglenni'r BBC, a dilyn ôl troed rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Archebwch docynnau: Teithiau BBC Cymru
Techniquest, Caerdydd
Mae Techniquest ym Mae Caerdydd yn darparu hwyl ryngweithiol i'r teulu cyfan. Yn ogystal â'r 100+ o arddangosfeydd, mae digwyddiadau i ddiddanu ac addysgu plant.
WWT Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'r teulu yng Nghanolfan Gwlyptiroedd WWT Llanelli - efallai fe welwch hwyaid, gwyddau a fflamingos.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Beth am ymweld â chestyll tylwyth teg sy’n gyfoeth o hanes, plastai crand, traethau euraidd neu gerddi godidog. Trefnwch eich ymweliad â un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
The Royal Mint Experience, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf
Ewch i'r Royal Mint Experience i weld darnau o arian yn cael eu gwneud, ewch i'r arddangosfeydd neu ewch ar daith.
Fel arall, mwynhewch lu o gemau fideo hwyliog y gallwch eu chwarae o gysur eich cartref eich hun. Ymunwch â Paddington Bear yn Nhŵr Llundain, hyfforddwch i fod yn farchog neu'n ysbïwr, neu gymryd rhan yng ngweithdy theatr bypedau cysgodol Lego ®.
Dysgwch fwy am weithgareddau eraill ar eu tudalen Mintlings - sy'n llawn syniadau i gadw'r plant yn brysur!
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin
Ewch am dro gyda'r teulu o gwmpas y gerddi a darganfod planhigion trofannol anhygoel yn y Tŷ Gwydr anferth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Cewch gyfle hefyd i weld a dysgu am adar ysglyfaethus brodorol yn y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, wedi ei lleoli yn yr Ardd Fotaneg.

Llwybrau Stori i blant, Caerdydd
Mae'r awdur arobryn Tamar Eluned Williams wedi creu pedwar llwybr stori pwrpasol ar draws parciau Caerdydd.
Ewch am dro gyda'ch dyfais symudol a chanfod y llwybrau ym Mharc Bute, Fferm y Fforest, Bae Caerdydd neu Barc Cefn Onn. Bydd modd clywed y straeon drwy sganio codau QR ac maent ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Coginio Bwyd Cymreig
Mae coginio yn ffordd wych o dreulio ychydig o oriau gyda'ch gilydd dros hanner tymor. Beth am baratoi ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Dewi drwy roi cynnig ar ein ryseitiau pice ar y maen, bara brith neu gawl? Rhowch gynnig ar y ryseitiau blasus hyn a mwy.


Fferm y Foel, Ynys Môn
Dewch i gwrdd â'r anifeiliaid ar Fferm y Foel, Ynys Môn, cyn ymweld â gweithdy a siop siocled Môn.
Safleoedd Cadw
Mae llu o ddigwyddiadau teuluol ar draws safleoedd Cadw dros yr wythnos. I'ch helpu i ddewis dyma ddeg o'r cestyll gorau i blant yn ôl Cadw.
