Eisiau i’ch mam deimlo’n arbennig? Beth am gynnig un o’n syniadau am weithgaredd Sul y Mamau iddi hi?
Dathlwch drwy archebu rhywbeth arbennig iddi hi ei wneud – te prynhawn bendigedig, neu efallai ei bod hi’n haeddu saib bach a moethusrwydd un o westai sba gorau Cymru? Dewiswch eich hoff syniadau am weithgaredd Sul y Mamau o blith ein rhestr isod, a dechreuwch gynllunio!
Danteithion te prynhawn
Mae rhannu te prynhawn moethus yn ffordd wych o fwynhau Sul y Mamau. Ledled Cymru mae dewis o leoliadau sy’n gweini te prynhawn a bydd sawl un yn cynnig danteithion melys o Gymru hefyd.
O'r Angel yn Y Fenni, i Palé Hall yn Y Bala mae gwestai, bwytai a chaffis ar hyd a lled y wlad yn cynnig paneidiau a prosecco prynhawn.
Mae te prynhawn Sul y Mamau arbennig yn cael ei weini yn Llyn Llandegfedd, gyda chacennau a sgons ffres a gwydraid o Prosecco.
Mae yna hefyd lawer o gwmnïau Cymreig sy'n gallu danfon bocs anrhegion ar gyfer Sul y Mamau yn llawn danteithion blasus. Mae Siwgr a Sbeis, sydd wedi’i lleoli yn Llanrwst, yn cynnig dewis hyfryd o focsys anrhegion neu mae bocs Te a Bisgedi Sweet Snowdonia yn anrheg wych. Mae Daffodil Foods ger Pwllheli yn danfon amrywiaeth o Focsys Anrhegion Te Prynhawn Cymreig hefyd.
Os yw eich mam yn hoff o deisennau cartref, gall Gower Cottage Brownies anfon bocs yn llawn brownis iddi hi. Neu mae gan Ridiculously Rich by Alana ddewis eang o deisennau siocled a wnaed â llaw ar gael mewn blychau o feintiau gwahanol.
Ewch i wefan Cywain am ragor o gwmnïau sy’n cynnig hamperi yn llawn dop o gynnyrch o Gymru.
Profiad sba arbennig
Ydy eich mam yn dyheu am gael diwrnod yn y sba i ymlacio ac ymgolli? Dewiswch o westai sba dinesig neu encil sba ymlaciol ar lan y môr. Y naill ffordd neu’r llall, mae triniaeth sba yn anrheg Sul y Mamau perffaith.
Mae pwll Gwesty St Brides Spa yn le perffaith i ymlacio – gwesty hyfryd a saif ar ben clogwyn yn edrych dros Saundersfoot a’r môr, ac mae Gwesty a Sba Llyn Efyrnwy yn edrych dros y llyn bendigedig o'r un enw.
Neu, beth am ddod â’r profiad sba i'r cartref? Mae sebon naturiol Bare yn hyfryd, neu am rywbeth ychydig yn wahanol rhowch gynnig ar amrywiaeth o sebonau llaeth gafr Cwt Gafr, sy'n cael eu gwneud â llaw ym Mhen Llyn. Ar gyfer gofal gwallt sydd wedi'i ddylunio'n arbennig ar gyfer gwallt cyrliog naturiol, mae cynnyrch Olew yn wych.
Mae gan FARMERS ddetholiad o anrhegion hyfryd yn seiliedig ar lafant wedi'u gwneud o'r olew lafant o'r caeau cyfagos ym mryniau Canolbarth Cymru. Ewch i'w siop yn y Gelli Gandryll neu ewch i weld (ac arogli!) y lafant dros eich hun.
Mynd am dro i groesawu’r gwanwyn
Beth am ddarganfod rhywle newydd gyda’ch gilydd a chroesawu’r gwanwyn gan gerdded? Os allwch chi, beth am roi cynnig ar ran o Lwybr Arfordir Cymru, taclo mynydd gyda’ch gilydd, neu gerdded mewn gardd wledig ddeniadol neu barc lleol hardd.
Mae diwrnod antur Sul y Mamau wedi'i drefnu yn Llys-y-frân, Sir Benfro - lle gallwch fwynhau antur awyr agored awr o hyd naill ai ar y tir, neu ar y dŵr. Yn dilyn eich gweithgaredd, cewch groeso mawr yn y caffi a the prynhawn traddodiadol blasus.