Cyflwyniad sydyn i Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog

A honno’n dilyn Dyffryn Wysg drwy Sir Fynwy a Phowys yn y canolbarth, cyn llwybro’i ffordd drwy Fannau Brycheiniog tua’r de, mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn llifo am 35 milltir drwy dirweddau prydferth a threfi hudolus.

Pan adeiladwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, roedd y ddyfrffordd hanesyddol hon yn hollbwysig i gludo glo a haearn. Heddiw, mae’n cynnig encil heddychlon mewn lle perffaith i’r rheini sy’n awyddus i ymlacio ac ailgysylltu â byd natur.

Adlewyrchiad ar gamlas o’r bont gerrig a lliwiau hydrefol dail.
Dyn yn llywio bad ar gamlas.

Teithio o Lanfa Goytre ar Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.

Y lle perffaith i grwpiau a pharau

Mae’r hydref yn gyfnod arbennig o hudolus i ymweld â’r ardal hon. Bydd plethwaith o ddail euraidd uwchben y gamlas, a’r rheini’n creu cefnlen i’ch taith a fydd yn cipio’r anadl. Yn hamddenol braf y bydd pobl yn teithio ar gamlesi, sy’n golygu bod digonedd o amser i fwynhau prydferthwch y tymor. Oherwydd hynny, dyma weithgaredd perffaith i grwpiau o ffrindiau neu barau sydd am gefnu am sbel ar brysurdeb bywyd bob dydd.

Un o’r pethau gwych ac unigryw am deithio ar gamlas yw’r cyfle i lywio’r bad a defnyddio’r lociau. I’r rheini sy’n hoff o fymryn o antur, gall llywio ar hyd y gamlas fod yn her gyffrous. Serch hynny, os byddai profiad mwy hamddenol yn fwy at eich dant, bydd capten yn aml ar gael ar deithiau dydd, sy’n rhoi cyfle i chithau ymlacio a mwynhau’r siwrnai. Mae gan lannau’r gamlas hefyd lwybrau cerdded ardderchog, gyda chyfle i grwydro’r cefn gwlad o’ch amgylch ar droed.

Dau o bobl yng nghefn bad cul.

Teithio o Lanfa Goytre ar Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog

Atyniadau a gweithgareddau cyfagos

Mae’r gamlas yn llifo drwy nifer o drefi hudolus lle gallwch chi glymu’r bad yn sownd a mynd i grwydro. Mae’n rhaid ymweld â Chanolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon. Dyma un o bedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru, a hwnnw’n rhoi cipolwg rhyfeddol ar orffennol diwydiannol Cymru. Yma, fe gewch weld gweithiau haearn a phyllau glo sy’n dal mewn cyflwr da. Gerllaw, mae tref y Fenni yn enwog am ei bwyd a’i marchnad hanesyddol, ac yn lle penigamp i fynd am dro bach yn y prynhawn.

Ar gyrion Casnewydd, ar lannau’r gamlas, ewch i Ganolfan Ymwelwyr y Pedwar Loc ar Ddeg. Fan hyn, fe ddewch chi ar draws pob math o hanes, llwybrau gweithgareddau, gwyliau cerddorol, digwyddiadau i’r teulu, ysgolion coedwig a diwrnodau addysg – a hynny gydol y flwyddyn. Mae Ystafell De Dadford, sydd wedi’i haddurno’n hyfryd, yn gweini bwyd cartref amheuthun sydd â rhywbeth i’w gynnig i bob deiet.

Dewis da wrth logi bad

I’r rheini sy’n awyddus i logi bad, mae sawl darparwr rhagorol ar hyd y gamlas. Mae ABC Dayboat Hire yn cynnig badau wyth gwely y gallwch chi eu llywio eich hun ar hyd darn rhwydd o’r gamlas o Lanfa Goytre, heb orfod dygymod â lociau. Dyma opsiwn gwych i deuluoedd neu grwpiau o ffrindiau sy’n awyddus i gael diwrnod llawn hwyl ar y dŵr, ac mae croeso i gŵn hefyd!

Mae Dragonfly Cruises yn cynnig teithiau i’r cyhoedd yn ogystal â chyfleoedd i logi’r bad yn breifat. Mae hwnnw’n hwylus i gadeiriau olwyn hefyd, felly bydd pawb yn gallu mwynhau prydferthwch y gamlas.

Mae gan Beacon Park Day Boats fflyd o fadau trydan moethus i’w llogi am y dydd o Langatwg, gan roi cyfle i chi ymgolli’n llwyr ym myd y gamlas.

Os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod anturus neu wythnos o ymlacio, mae gan Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog rywbeth i’w gynnig i chi. Mae’r dyfroedd tawel, y golygfeydd hydrefol ysblennydd, a’r trefi hudolus yn gwneud hwn yn lle perffaith i gael profiad bythgofiadwy.

Mae rhagor o leoliadau sy’n cynnig gwyliau ar fadau cul a badau camlas yng Nghymru fan hyn. Dechreuwch gynllunio eich gwyliau perffaith chi ar gamlas heddiw!

Golygfeydd o fynydd a choetir o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.

Yr olygfa o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog

Straeon cysylltiedig