Mae bywyd yn eithriadol o brysur, ac mae’n hawdd mynd ar goll yng nghanol tomen o gyfrifoldebau, apwyntiadau a chyfarfodydd di-ben-draw. Rhwng gofynion gwaith, teulu a phopeth yn y canol, mae’r amserlen wythnosol yn gallu bod yn llethol.

Ond er mor anodd y gall fod i drefnu unrhyw beth, yng nghanol miri a phrysurdeb bywyd mae'n hanfodol sicrhau amser i’w dreulio gyda’n ffrindiau. Gall cymryd moment i ymlacio ac ail-gysylltu gyda chyfeillion adfywio’r ysbryd, darparu therapi gwerthfawr a chreu atgofion gwerth eu cael.

Mae digonedd o ddewis o lefydd ar dy stepen drws yng Nghymru i fynd ar  wyliau byr, heb orfod poeni am y strach o faes awyr prysur neu draffordd ddi-ben-draw. Felly mae’n amser dod â’r daith sy’n cael ei thrafod hyd syrffed ar y grŵp ar y ffôn yn fyw! Does dim amheuaeth y byddi di’n barod i fynd eto unwaith y do’i di adre.

I arbed rhywfaint o amser prin ac ymdrech wrth bori trwy’r gwahanol opsiynau, dyma bedwar dewis ar blât i ti eu hystyried wrth gynllunio.  

Bwyd a Diod ym Menai

Iechyd a lles ar Ynys Môn 

Diwrnod 1

Aros: Driftwood Lodge, gwesty bach bwtîc clyd ar arfordir gorllewinol Ynys Môn ym mhentref Rhosneigr.

Bwyta: Mae brecwast, cinio neu gacen a choffi gwerth chweil ar gael yn Café Notos, siop goffi leol sy'n hyrwyddo cynnyrch Cymreig. Mae Notos wedi’i enwi ar ôl Duw Groegaidd y gwyntoedd deheuol, sy’n addas dros ben gan fod traeth cyfagos Rhosneigr yn enwog am chwaraeon dŵr oherwydd bod y gwynt yma bob amser yn chwythu i gyfeiriad y de.

Gwneud: Ewch ar daith gyffrous ar hyd y Fenai gyda RibRide, sy’n cynnig teithiau cwch drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys taith o dan ddwy bont enwocaf Cymru, teithiau bywyd gwyllt neu gyfle i weld Ynys Llanddwyn hardd neu Gastell Caernarfon o'r môr.

Bwyta: Beth am fwynhau siampên, wystrys a bwyd môr ffres, lleol yn yr Oystercatcher? Dyma un o lefydd bwyd môr enwocaf yr ynys, sy’n cuddio yng nghanol twyni tywod Rhosneigr.

woman on rib boat wearing a wooly hat smiling.
woman on rib boat and bridge in background.

RibRide ar Afon Menai, Ynys Môn, Gogledd Cymru  

Diwrnod 2

Gwneud: Chwysu a chrwydro, gyda dro hamddenol, gylchol 12km o Rosneigr i Dŷ Croeso i gychwyn, sy’n cynnig golygfeydd trawiadol o Ben Llŷn, ac yna gorffen gyda sawna ar y traeth. Mae Sawna Bach wedi swatio yng nghanol twyni tywod traeth Porth Tyn Tywyn, ac i fanteisio i’r eithaf ar y profiad ewch i drochi yn y môr cyn mwynhau gwres y sawna.

Bwyta: Ewch draw i dref hardd Biwmares i gael tapas blasus yn The Midland.

Ymweld: Mae castell mawreddog Biwmares, rhan o Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd, yn werth ei weld. Mae’r castell anorffenedig, anhygoel hwn yn rhoi golygfeydd godidog o Eryri o ben ei waliau hynafol. 

Bwyta: Mwynhewch bryd blasus yn Dylan’s, Porthaethwy, rhan o gadwyn o lefydd bwyta ar draws gogledd Cymru sydd wedi ennill sawl gwobr, ac yn ymfalchïo mewn cynnyrch lleol, bwyd môr, a phitsas ffres.

Pont fynedfa yn mynd i mewn i gastell.
Merched a ci mewn bwyty.

Castell Biwmares a Bwyty Dylan's, Porthaethwy, Ynys Môn, Gogledd Cymru

Diwrnod 3

Gwneud: Ymdrochwch mewn casgen o ddŵr cynnes yn llawn gwymon ym maddonau gwymon gwyllt Halen Môn. Mewn dŵr cynnes, mae gwymon yn rhyddhau olew yn llawn mwynau llesol, sy’n ymlacio’r cyhyrau ac yn adfywio’r corff yn llwyr. Ar ôl gorffen yn y gasgen ewch i bori yn y siop, sy’n llawn dop o gynnyrch enwog Halen Môn, o gynnyrch croen i jin a halen coginio gwahanol flasau.

Bwyta: Mwynhewch damaid i’w fwyta yng nghaffi awyr agored Halen Môn, sy’n gwerthu gwahanol ddanteithion wedi eu pobi a choffi blasus, neu ewch am un o’r ciniawau dydd Sul gorau yng ngogledd Cymru yn Catch 22.

Diwylliant difyr yn y Gelli Gandryll

Diwrnod 1

Aros: Y Chancery Cottage cyfoes a chlyd, sydd yng nghanol tref Y Gelli Gandryll.

Gwneud: Treuliwch y prynhawn yn crwydro’r dref llyfrau enwog. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae: 

  • Murder and Mayhem. Siop lyfrau unigryw sy’n arbenigo mewn ffuglen dditectif.
  • Gay on Wye. Noddfa i’r gymuned LHDTC+ sy’n gwerthu llenyddiaeth sy’n trafod profiadau, heriau a buddugoliaethau’r gymuned.
  • Haystack Music. Siop sy’n llawn dop o recordiau finyl hen a newydd, cryno ddisgiau, llyfrau a mwy. Mae rhywbeth at ddant pawb yma – o gasgliadau cyffredinol i eitemau prin a gwerthfawr. 
  • The Old Electric Shop. Amrywiaeth eclectig o nwyddau cartref retro, gyda chaffi gwych a choffi da. Gyda'r nos gallwch fwynhau cerddoriaeth fyw a choctels blasus.

Bwyta: The Old Black Lion, sy’n cynnig bwyd tafarn blasus, rhestr win wych a chwrw casgen.

Diwrnod 2

Crwydro: Treuliwch y bore yn darganfod Castell y Gelli, a oedd unwaith yn gadarnle canoloesol a sydd bellach yn ganolfan bwysig ar gyfer diwylliant, y celfyddydau ac addysg.

Cinio: The Granary, caffi a bar poblogaidd yng nghanol y dref sy’n gwerthu cynnyrch lleol a bwydlen dymhorol.

Gwneud: Dilynwch olion traed y tywysogion trwy fynd ar daith ar hyd Clawdd Offa, llwybr cerdded 177 milltir (285 km) o hyd. Mae wedi'i enwi, ac yn aml yn dilyn trywydd clawdd y Brenin Offa, a adeiladwyd yn yr 8fed ganrif. Ei bwrpas yn ôl pob sôn oedd i wahanu ei deyrnas, Mersia, a theyrnasoedd eraill, sydd erbyn hyn yn cael eu hadnabod fel Cymru.

Diod: Treuliwch y prynhawn yn blasu jin lleol Distyllfa’r Gelli, a dysgu hanes y ddistyllfa fach hon tra’n mwynhau llymaid o rai o’r gwirodydd sydd wedi ennill gwobrau.

Bwyta: Bar Tapas Tomatitos, bwyd sy’n defnyddio’r cynhwysion lleol gorau, wedi eu tyfu a’u paratoi gan gynhyrchwyr gwahanol o’r gororau – o fara arbenigol i lysiau tymhorol o safon.

Adloniant: Ewch i The Globe yn Y Gelli Gandryll i weld sioe, gydag adloniant yn amrywio o nosweithiau comedi i Jazz a chyngherddau roc.

Y tu allan i adeilad cerrig mawr.
y tu mewn i gastell.

Castell y Gelli, Powys, Canolbarth Cymru

Diwrnod 3

Gwneud: Gwibiwch i lawr yr afon Gwy ar ganŵ neu fwrdd padlo dan arweiniad un o ddarparwyr chwaraeon dŵr yr ardal, a mwynhewch olygfeydd o’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol hon o safbwynt gwahanol!

Bwyta: Mae The Swan at Hay yn cynnig gwedd foethus ar brydau tafarn traddodiadol, gan ddefnyddio’r cynnyrch lleol gorau. 

Blas o Sir Benfro

Diwrnod 1

Aros: Twr y Felin, y gwesty gwerth chweil yn ninas Tyddewi, dinas leiaf (ac o bosibl yr harddaf?) yn y DU!

Bwyta/Yfed: Rhowch gynnig ar 'The Smorgasbord,’ a dangos eich ochr gystadleuol. Yn ogystal â chynnig brechdanau a diodydd blasus, mae 260 o gemau bwrdd ar gael ym ‘mhrif gaffi gemau bwrdd Tyddewi’, felly treuliwch y prynhawn fel criw yn ymlacio gydag ychydig o ddiodydd a gêm o’ch dewis.

Ymweld: Mae capel a ffynnon Santes Non, mam nawddsant Cymru, yn cael ei ystyried ers canrifoedd fel man i adlewyrchu, hunan-fyfyrio a chysylltu gyda byd natur.

Wedi ennyd o lonydd yn y man tawel a heddychlon hwn, ewch draw i Gadeirlan Tyddewi gerllaw. Mae’r eglwys gadeiriol ganoloesol ysblennydd yn enwog am ei phensaernïaeth hardd a’i hanes nodedig, a dywedir mai dyma fan gorffwys olaf Dewi Sant, nawddsant Cymru.

Allwch chi ddim gadael heb flasu Pice ar y Maen enwog Mamgu Welshcakes, sydd â chaffi wedi ei leoli yn adfeilion Coleg y Santes Fair, rhan o Eglwys Gadeiriol Tyddewi sy’n dyddio yn ôl i’r 14eg ganrif.

Bwyta: Mwynhewch brofiad bwyta moethus ym mwyty Blas Twr y Felin, sydd wedi ei gynnwys yng nghanllaw bwytai Michelin.

Byrddau a chadeiriau tu mewn i fwyty Twr y Felin Blas.
Tyddewi o’r awyr.

Gwesty Twr y Felin Tyddewi, a Thyddewi, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Diwrnod 2

Gwneud: Treuliwch y diwrnod yn chwilota am eich swper gyda The Really Wild Emporium. Bydd y tywyswyr profiadol yn mynd â chi ar daith i ddarganfod sut i ddarganfod a choginio cynhwysion gwyllt, i’ch ysbrydoli a’ch swyno gan flasau gwahanol byd natur.

Bwyta/Yfed: Mwynhewch ddiod yn y dafarn leol boblogaidd The Bishops, cyn mynd yn ôl i The Really Wild Emporium am swper blasus yn llawn cynhwysion arbennig wedi eu casglu yn lleol. 

Diwrnod 3

Gwneud: Anelwch am Gar y Môr, fferm forol arloesol sy’n eiddo i’r gymuned, sy’n meithrin gwymon a physgod cregyn Cymreig cynaliadwy, ac yn rhoi sylw blaenllaw i’r amgylchedd a’r gymuned leol trwy eu gwaith.

Crwydro: Treuliwch y prynhawn yn cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, gan aros i fwynhau golygfeydd pentref hardd Solfach.

Bwyta: Bachwch frechdan gimwch ffres yn 'Lobster and Môr', cwmni wedi ei leoli yn Aber Bach, ac sydd wedi ennill gwobrau lu am y bwyd blasus.

Cadw’n ffit yn y Bannau Brycheiniog

Diwrnod 1

Aros: Os am aros yng nghanol tref Aberhonddu, ewch am lety gwyliau Canal Bridge. Os am rywle ychydig tawelach yng nghrombil ardal Awyr Dywyll y Bannau Brycheiniog, ewch am fythynnod gwyliau Hilltops.

Gwneud: Mae’r daith gerdded heriol 16km ar hyd llwybr cylchol crib bedol Pen y Fan, Corn Du, Cribyn a Fan y Big yn bendant yn werth yr ymdrech! Mae angen lefel dda o ffitrwydd ar gyfer y daith heriol, ond wedi’r cerdded caled cewch ei gwobrwyo gyda golygfeydd godidog o’r copa. Ond cofiwch gadw’n ddiogel! Sicrhewch eich bod i gyd wedi gwisgo’n addas ac wedi edrych ar y tywydd cyn cychwyn. 

Cinio: Fe fyddwch chi’n sicr yn haeddu pryd swmpus i’ch ail-lenwi wedi’r ddringfa galed, a does unman gwell am hynny na’r Brecon Tap. Dyma fwyty a thafarn boblogaidd yn Aberhonddu sy’n adnabyddus am ei dewis ragorol o gwrw traddodiadol, ac amrywiaeth o brydau cartref blasus.

mynyddoedd ar ddiwrnod heulog

Pen-y-Fan, Canolbarth Cymru

Diwrnod 2

Gwneud: Mwynhewch olygfeydd anhygoel o'r awyr agored ar gefn ceffyl, ar daith farchogaeth trwy’r Mynyddoedd Du gyda Tregoyd Mountain Riders. Ewch am yr opsiwn hanner diwrnod, a threuliwch ail hanner y dydd yn cerdded ar hyd Llwybr Glyndŵr o Felindre tuag at Abaty Cwm Hir.

Bwyta: Blaswch fyrgyr enwog bwyty Hills, sy’n gweini byrgyrs blasus o bob math mewn awyrgylch fywiog, gan ddefnyddio cynnyrch lleol, safonol.

Gyda’r nos: Mae canran uwch o awyr Cymru wedi ei warchod gan statws Awyr Dywyll nag unrhyw wlad arall yn y byd, a does unman gwell i syllu ar y sêr na’r Bannau, sydd gan statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Mae syllu ar y sêr yn yr ardal hon yn brofiad go arbennig.

Two horses, one with rider and mountain background

Marchogion Mynydd Tregoyd, Aberhonddu, Powys, Canolbarth Cymru

Diwrnod 3

Gwneud: Mae ogofâu trawiadol Dan yr Ogof yn y Bannau Brycheiniog yn werth eu gweld. Gallwch grwydro’r ogofâu eithriadol a dysgu am hanes a daeareg yr ardal arbennig hon yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru.

Bwyta: Galwch yng Ngwesty'r Bear yn nhref hardd Crughywel, tŷ tafarn a gwesty sy'n dyddio'n ôl i 1432 a sy’n adnabyddus am ei awyrgylch groesawgar a bwyd blasus. Caniatewch amser i grwydro o amgylch y dref hardd sy'n llawn siopau annibynnol, cyn ymlwybro tuag adref yn llawn egni newydd!

Ffurfiant creigiau mewn ogof danddaearol.
Gwesty traddodiadol wedi'i addurno â basgedi blodau a blychau ffenestri mewn tref.

Dan-yr-Ogof, Canolfan Genedlaethol Ogofâu Sioe Cymru, Abercraf a Gwesty'r Bear, Crughywel, Powys, Canolbarth Cymru

Straeon cysylltiedig