Cwm Elan
Cawn gychwyn yng Nghwm Elan a'r mynyddoedd Cambria lle mae’r awyr yn arbennig o dywyll. Mae teimlad anghysbell iawn a gwyllt yma a byddwch yn teimlo’n un â natur.
Mae Cwm Elan yn cael ei gydnabod yn Barc Awyr Dywyll Ryngwladol ac mae gan Fynyddoedd Cambria lawer o safleoedd darganfod awyr dywyll â mynediad hawdd iddynt lle gallwch syllu ar y sêr. Mae chwech o’r safleoedd darganfod awyr tywyll hynny wedi'u cysylltu gan lwybr twristiaeth asteroid, sy'n creu antur wirioneddol wych.
Eryri
Eryri yw'r lle i fynd am dirwedd ddramatig o dan y sêr.
Allwch chi ddim curo’r safle mynyddig epig sy'n ymestyn fyny fry neu'r olygfa o'r Llwybr Llaethog yn adlewyrchu yn y llynnoedd islaw.
Gall Eryri fod yn lle peryglus os nad oes gennych y sgiliau neu'r gallu angenrheidiol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu ag un o'r tywyswyr mynydd lleol yno i'ch helpu. Ond wedi dweud hynny, mae yna fannau parcio o gwmpas lle gallwch hefyd fynd i fwynhau’r sêr.
Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn un o'r llefydd gorau yng Nghymru i weld Goleuni'r Gogledd dros fisoedd y gaeaf.
Ac efallai y byddwch hefyd yn ddigon ffodus i weld plancton bio-ymoleuol. Mae yna hefyd nifer o oleudai hardd ar Ynys Môn, a phan mae goleudy’n agos... mae'n debyg eich bod mewn lle tywyll. Cewch olygfa o Fôr Iwerddon heb lygredd golau, a chewch weld awyr rhyfeddol o dywyll.
Bannau Brycheiniog
Mae Gwarchodfa Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog yn agos iawn at fy nghalon oherwydd dyma lle syrthiais mewn cariad ag awyr y nos a magu diddordeb mewn astroffotograffiaeth a seryddiaeth. Mae’r tirwedd mor amrywiol gyda mynyddoedd, bryniau a dyffrynnoedd, rhaeadrau, afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr. Mae yna rywbeth i bawb.
Mae rhai lleoliadau sy’n hawdd eu cyrraedd yn cynnwys Llyn Syfaddan, Cronfa Ddŵr Wysg a Chanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Rwyf hyd yn oed wedi bod yn ddigon ffodus i weld Goleuni'r Gogledd o gyn belled i'r de a’r Bannau Brycheiniog.
Arfordir Gŵyr
Mae gan Arfordir Gŵyr rai o'r traethau gorau yn y byd, ac mae clogwyni calchfaen llawn cymeriad yn eu hamgylchynu.
Mae'r olygfa tuag at Môr Hafren yn olygfa dilygredd golau ac mae'n un o'r llefydd gorau yng Nghymru i syllu i graidd ein galaeth, y Llwybr Llaethog.
Os ydych chi'n lwcus, mae'n lle da arall i weld y plancton bio-ymoleuol. Mae gweld y tonnau'n cael eu goleuo'n las trydanol yn un o'r pethau mwyaf hudolus y gallech ei brofi.
A dyna ni, fy mhum lle gorau ar gyfer mwynhau’r awyr dywyll yng Nghymru - cymysgedd anhygoel o dirweddau amrywiol, rhanbarthau arfordirol a rhanbarthau mynyddig. Mae gennym bopeth yma yng Nghymru.